Rwyf wedi cael y fraint wythnos yma o grwydro a myfyrio ychydig, yn gyntaf drwy fynd i gyfrannu i gynhadledd Yr Eglwys yng Nghymru ar efengylu a chenhadaeth, ac yna i gyfarfod dadgorffori Bethany Rhydaman, yr eglwys lle’r oedd Tadcu yn Weinidog. Nid annheg fyddai dweud fod y ddau draddodiad eglwysig dan sylw – yr eglwys anglicanaidd yng Nghymru (o’i roi felly) a hefyd yr hen Fethodistiaid Calfinaidd (o ddefnyddio eu hen enw) yn parhau i brofi trai difrifol. Mae’n drai sy’n rhan o drai mwy cyffredinol yng Nghymru a’r Gorllewin wrth gwrs. Neithiwr roeddwn i yng nghyfarfod Cyngor Undeb Bedyddwyr Cymru lle roeddem ni’n trafod strategaeth am yr ugain mlynedd nesaf, gyda’r trai hefyd yn gefnlen amlwg i’r sgwrs.
Beth i ddweud am y trai yma? Sut mae ymateb yn ddiwinyddol ac ysbrydol iddo? Rwy’n credu fod lle ac angen i ni drafod, deall a hyd yn oed galaru am y trai cyn mynd yn syth i gynnig unrhyw atebion.
Yn y gynhadledd Eglwys yng Nghymru disgrifiodd un cyfrannwr y trai fel y teimlad yna o ffeindio eich hun yn y dŵr dwfn, wrth nofio mewn llyn a’r oerni mawr yn eich taro o’r dyfnderoedd a ffeindio eich hun wedi eich parlysu bron mewn ofn. Cyfeiriodd gyfrannwr arall at y realiti fod yr eglwys yn ffeindio ei hun mewn trai drwy ei esbonio mewn termau fod yr eglwys yn talu’r pris am ei “bechod”, am ein hanffyddlondeb, ein diffyg menter fel disgyblion Teyrnas Duw. Yn fy sesiwn i yn y gynhadledd ceisiais i wneud synnwyr o’r trai ac yna ymateb yr eglwys iddi fel derbyn fod eglwysi Cymru heddiw mewn alltudiaeth a bod derbyn y realiti yna wedyn yn ein galluogi i ymateb yn briodol a chreadigol a thynnu gwersi o’r Hen Destament ynglŷn â sut mae bod yn bobl Dduw mewn tir estron. Yna yng nghwrdd dadgorffori Bethany Rhydaman awgrymodd yr Athro Stephen Nantlais Williams fod yna dipyn o bethau y dylem ni fel Cristnogion ac eglwysi edifarhau amdanynt a bod yna rywbeth am yr ‘ystyfnigrwydd’ mae Paul yn siarad amdano yn Rhufeiniaid 11 yn nodweddu Cymru heddiw:
“Frodyr a chwiorydd, dw i am i chi ddeall fod dirgelwch yma, rhag i chi fod yn rhy llawn ohonoch chi’ch hunain. Mae rhai o’r Iddewon wedi troi’n ystyfnig, a byddan nhw’n aros felly hyd nes y bydd y nifer cyflawn ohonoch chi sy’n perthyn i genhedloedd eraill wedi dod i mewn.”
(Rhufeiniaid 11.25)
Wrth i Gristnogion ac eglwysi drafod cenhadaeth ac adferiad heddiw, mae’n eithriadol o bwysig ein bod ni’n edifarhau ac yn galaru fel rhan o’r broses yna gan gofio mai un ffordd o ddeall edifeirwch yw drwy “ail feddwl ein meddyliau” (to rethink our thinking).
Ond mae Duw dal ar waith yng Nghymru heddiw, wrth i un mynegiant o’r eglwys brofi trai mae yna eglwysi newydd yn cael eu plannu (gweler menter newydd gyffrous 100.Cymru) a hen eglwysi a mentrau fel Caersalem Caernarfon a Coleg y Bala yn profi arwyddion gobaith. A tybed, yn nirgelwch trefn pethau, fod y trai a’r caledi ysbrydol sy’n nodweddu rhai eglwysi a rhai haenau o’r gymdeithas Gymreig heddiw yn digwydd drwy drefn rhagluniaeth er mwyn i Dduw yng nghyflawniad amser ddangos ei drugaredd o’r newydd? Rhywbeth i ddwys ystyried efallai.
“Y gwir ydy, mae Duw wedi dal pawb yn garcharorion anufudd-dod, er mwyn iddo allu dangos trugaredd atyn nhw i gyd.”
Rhufeiniaid 11.32
Yn gynt yn y bennod mae Paul, wrth drafod yr Iddewon a’r cenhedloedd, yn sôn am ganghennau yn cael eu torri i ffwrdd ond hefyd canghennau’n cael eu himpio i mewn. Rydym yn byw mewn dyddiau pan mae hynny yn digwydd yng Nghymru wrth i lawer o’r hen drefn gael eu torri i ffwrdd, ond canghennau newydd gael eu himpio i mewn.
Mae credu mewn rhagluniaeth yn golygu credu fod Duw yn caniatáu i drai ysbrydol ddigwydd (i raddau) sy’n gofyn y cwestiwn pam? Mae’r ysgolhaig Tom Wright yn ceisio esbonio wrth drafod Rhufeiniaid 11:
“Paul has in mind the strange divine action whereby, when someone rebels against God’s will, God allows that person to continue in rebellion rather than judging them at once. God stays his hand and creates a space of time in which other things can happen; and, with God, the other things are always the spread of blessing into the wider world.”
N.T. Wright
Felly, tybed – ydy’r trai cyffredinol yma sy’n effeithio’r hen drefn yn digwydd er mwyn clirio’r ffordd a rhoi amser i fynegiant newydd o eglwysi godi er mwyn dangos newyddion da Iesu Grist i haenau o’r gymdeithas Gymreig sydd wedi cau’r drws yn derfynol i’r hen drefn? Dwi ddim yn siŵr, ond mae’n un fframwaith bosib er mwyn deall yr amseroedd.
Er mod i’n cael fy amgylchynu yn aml gan drai ysbrydol, boed hynny ar achlysur trist cau Bethany neu’r broses bresennol o gau un o fy eglwysi fy hun rwyf dal yn obeithiol oherwydd rwy’n gallu gweld y cyfan fel rhan o waith Duw ar lwyfan hanes ac yn gallu gweld ac adnabod lle mae Duw ar waith yn y winllan – boed hynny’n dorri i ffwrdd neu’n impio.
Rydw’i n gweld fod Rhys Llwyd yn fodlon cysidro unrhyw esboniad ar wahan i’r un mae synnwyr cyffredin yn ei gynnig.Tydi pobol ddim yn credu yn y stwff yma bellach.Arthur Owen,Caerdydd
Diolch Arthur, rwyf wrth gwrs yn deall fod y dirywiad oherwydd nad ydi pobl yn credu, mae y drafodaeth i mi felly ynglŷn a holi pam nad ydi pobl yn credu. Yn fyd eang mae yr eglwys yn parhau i dyfu ond fod Cymru ar hyn o bryd ymhlith y gwledydd sy’n gweld dirywiad cyffredinol ond nid unffurf, fel y mae yr eithriadau yn tystio ac hefyd apêl eglwysi newydd sy’n rhydd o’r hen draddodiad.