Cofnod yn Saesneg | Post in English
Mae’r blog wedi bod yn dawel iawn yn ddiweddar a hynny oherwydd mod i wedi bod ffwrdd yn Llanw wythnos diwethaf. Meirion Morris a Hywel Meredydd oedd y ddau gafodd y syniad o sefydlu rhywbeth nid annhebyg i Spring Harvest yn y Gymraeg er mwyn annog ac arfogi Cristnogion ac eglwysi Cymraeg. Llanw 2009 oedd yr ail, fe ddois i’n rhan o’r trefnu yn gynnar iawn cyn y Llanw cyntaf llynedd. Bellach fi sydd yng ngofal y wefan, brandio, dylunio a bwcio ar-lein cyn y digwyddiad a fi sydd yng ngofal y sain a’r fideo yn y digwyddiad ei hun. Ches i gyfle i chwarae dryms hefyd yn yr addoliad hwyrol ynghyd ag arwain un o’r addoliadau yn y bore. Mae Duw felly wedi fy arwain i chwarae rhan flaenllaw yn Llanw – a dwi’n dweud hyn er mwyn i chi weddïo drosta i a’r gwaith! Fe fydd unrhywun sydd wedi bod yn brysur yn trefnu digwyddiad Cristnogol o’r fath yn ymwybodol eich bod chi fel trefnydd mor brysur a mor stressed ar adegau fel eich bod chi eich hun yn methu a chael cyfle i adlewyrchu ac addoli’r Arglwydd yn iawn er fod eich gwaith caled chi’n gwneud yr union beth yna yn gynyddol haws i’r mynychwyr!
Ar y noson olaf fe wnaeth ffermwr o Gefn Meiriadog ger Llanelwy rannu eu stori gyda ni ac esbonio nad oedd yn adnabod yr Iesu yn Llanw llynedd. Esboniodd fod ei brofiadau yn Llanw llynedd wedi bod yn garreg filltir bwysig iddo yn ei daith ysbrydol tuag at yr Arglwydd Iesu. Dychwelodd eleni wedi ei achub drwy ras Duw! Haleliwia! Dwi ‘rioed wedi dweud mwy na “helo” wrth Huw a dwi’n sicr heb siarad gyda fe ynglŷn â Iesu ond fe wnes i chwarae rôl bwysig yn trefnu Llanw ac fe ddefnyddiodd Duw Llanw fel cam i arwain Huw at Iesu Grist. Hanesion fel yma sy’n gwneud yr holl waith yn werth chweil – dyma yw’r ysbrydoliaeth i ddal ati. Er mod i’n rhy brysur ac yn rhy stressed i werthfawrogi Duw’n llawn yn Llanw ei hun fe alla i y dydd Llun wedyn, wedi dweud amen, edrych nol a diolch i Dduw am ei ras a’i fawredd a diolch am y fraint o gael bod yn rhan o’i gynlluniau anhygoel.
Dyma fideo o Huw yn rhannu ei brofiad:
safe. diolch am y blogiau a dy holl waith galed yn ystod llanw. fi’n gweddio drosta ti 🙂
oooond dydy fideo huw ddim yn gweithio lol…mae’n iawn tan tua hanner ffordd ac wedyn mae e jest yn stopio. gei di sorto fe plis achos fi riiiiili eisiau gwybod be ddigwyddodd haha!! welai di’n fuan, pob bendith X
Roeddwn yng Nghynhadledd ECG yn Llandudno (lle ddaru Dei Rees, Capel Seilo, Llandudno weddio yn deyrngar yng nghymraeg dros ygwaith o genhadu yn Llandudno a’r cylch y nos Sul diwethaf); ond mi fuaswn yn hoffi yn fawr iawn bod hefo chi y flwyddyn nesaf os yw Duw yn ewyllysio hynny.
Pob bendith x
Diolch Rhys am dy gyfraniad mawr i Llanw. Roedd o’n wir fraint cael bod yna eleni a gweld Duw ar waith eto. Roedd o’n gret cael chwarae yn y band a cyd addoli a ti.
Gan edrych ymlaen at beth sydd gan Duw i wneud yn ystod y flwyddyn tan Llanw10!
Pob bendith
Owain
Mae Llanw yn swnio’n gwych.
Dw i o Fangor a rydw i’n ceisio dysgu Cymraeg eto (am yr ail tro!)