Llawenhewch yn yr Arglwydd… hyd yn oed yn wyneb y credit crunch from Rhys Llwyd on Vimeo.
Dwi’n pregethu ddwy-waith dydd Sul yma. Dwi’n gobeithio rhannu gair o Philipiaid, penod 4 adnodau 4 i 7. Yr hyn fydda i’n gobeithio ei wneud ydy rhannu’r newyddion da fod Iesu yna i gymryd baich a chymryd ein gofidiau. Ar hyn o bryd gyda’r Credit Crunch a phob dim mae gofid mawr yn broblem real yn ein cymdeithas ni gyda un o bob deg yn dioddef o bryder (anxiety) difrifol sy’n effeithio ar eu iechyd.
Wrth gwrs dydy Cristnogion ddim yn hollol rydd o unrhyw ofid, edrychwch ar yr Apostol Paul, cafodd e ei labyddio, ei erlid ac fe sgwennodd e y llythyr at y Philipiaid o’r carchar yn Rhufain ond er gwaethaf yr holl ofid yna roedd e dal yn medru dweud “Llawenhewch yn yr Arglwydd.” Felly os dy chi am glywed beth oedd tu ôl i lawenydd rhyfedd Paul galwch draw dydd Sul. Mae manylion y gwasanaethau isod.
Dan-y-coed, ger Llanrug am 10.30 y.b.
Capel Newydd, Talsarnau am 6.00 y.h.
View Larger Map