llawlyfrllywenydd_rhan3

1 Felly, os oes gennych yng Nghrist unrhyw symbyliad, unrhyw apêl o du cariad, unrhyw gymdeithas trwy’r Ysbryd, os oes unrhyw gynhesrwydd a thosturi,
2 cyflawnwch fy llawenydd trwy fod o’r un meddwl, a’r un cariad gennych at eich gilydd, yn unfryd ac yn unfarn.
3 Peidiwch â gwneud dim o gymhellion hunanol nac o ymffrost gwag, ond mewn gostyngeiddrwydd bydded i bob un ohonoch gyfrif y llall yn deilyngach nag ef ei hun.
4 Bydded gofal gan bob un ohonoch, nid am eich buddiannau eich hunain yn unig ond am fuddiannau pobl eraill hefyd.
5 Amlygwch yn eich plith eich hunain yr agwedd meddwl honno sydd, yn wir, yn eiddo i chwi yng Nghrist Iesu.
6 Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i’w gipio,
7 ond fe’i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol.
8 O’i gael ar ddull dyn, fe’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau ar groes.
9 Am hynny tra-dyrchafodd Duw ef, a rhoi iddo’r enw sydd goruwch pob enw,
10 fel wrth enw Iesu y plygai pob glin yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear,
11 ac y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad.

itunes

Cliciwch uchod i danysgrifio i’r podlediad NEU cliciwch ar yr eicon ‘play’ isod.

Please follow and like us: