Roedd lleidr ar Ynys Mon yn methu disgwyl tan y penwythnos pan fyddai Eglwysi a capeli yn agor eu drysau i groesawu pobl. Ar ddechrau’r wythnos diwethaf torodd y lleidr i mewn i Gapel Cyntaf y Bedyddwyr yn y Gogledd – Capel Cildwrn, sy’n gartref i aelodau Eglwys Cildwrn a sydd hefyd yn ganolfan i elusen Tearfund Cymru.
Er i’r lleidr achosi difrod yn malu ffenest a drws, nid oedd wedi cymeryd fawr ddim o’r adeilad. Meddai y Gweinidog a Cyfarwyddwr Tearfund, Parch Hywel Meredydd Davies:
Petai yn dod atom Sul nesaf i’n oedfaon byddai’n clywed mae yn yr Efengyl ceir gwir gyfoeth y Capel, ac mae drwy gyfranu i gynorthwyo eraill ceir wir dedwyddwch a bodlonrwydd.
Er i’r Capel, a fu yn gartref i’r enwog Christmas Evans gael ei adeiladu yn 1789 a’i addasu yn 1840, ers 30 mlynedd mae’r Capel wedi bod yn gartref i’r Eglwys bresennol. Ar y 4ydd o Hydref mae’r Capel hefyd yn dechrau cyfres o gyfarfodydd ar Nos Iau yn cyflwyno y Ffydd Gristnogol, Darganfod Cristnogaeth.
Mae Tearfund Cymru yn codi dros filwn o bunnoedd yng Nghymru i gynorthwyo tlodion yn y trydydd byd. Ar y 4ydd o Hydref bydd Hywel yn mynd ar ymweliad 10 diwrnod a rhai o Eglwysi Bedyddwyr Ethiopia – Kale Heywet, Eglwysi sy’n cynydduar raddfa enfawr, gyda 4.5 miliwn o aelodau.
Am wybodaeth pellach, ffoniwch Hywel ar 07989 418997