Yn achlysurol yn ystod y flwyddyn dwi’n bwriadu blogio am bêl droed, mae pêl droed yn destun nad ydw i wedi ymdrin ag ef ar y blog o’r blaen! Dwi’n cefnogi Manchester City, a cyn i chi ddweud dim byd, dwi’n eu cefnogi nhw ers tua 1996 a hynny oherwydd fy obsesiwn pan yn fy arddegau gyda Oasis sydd, wrth gwrs, yn rhai o gefnogwyr enwocaf Man City. Ond mae’n rhaid i mi gyfaddef mod i wedi dangos ychydig bach mwy o ddiddordeb yn y tîm ers iddyn nhw gael y pres a dechrau cystadlu gyda’r timau gorau.

Dwi am ddweud gair felly am ddatblygiadau diweddar City. Ar y cyfan dwi’n meddwl fod hwn wedi bod yn haf gwael i City a hynny er eu bod nhw wedi arwyddo llu o chwaraewyr o safon rhyngwladol. Dyma nhw gyda llaw: James Milner, Mario Balotelli, Yaya Toure, David Silva, Alexandar Kolarov a Jerome Boateng. Rwy’n falch fod Robinio wedi mynd o’r diwedd ond rwy’n flin iawn fod Bellamy wedi mynd yn bennaf oherwydd mae ef oedd un o’r chwaraewyr prin yna tymor diwethaf oedd yn chwarae gyda’i galon. Ond o dderbyn nad oedd Bellamy yng nghynlluniau Mancini dwi’n falch ei fod e wedi cael ymuno a chlwb arall oherwydd byddai hi’n waeth byth gweld Bellamy yn chwarae i’r tîm wrth gefn.

Dwi’n meddwl y bydd Toure, Kolarov a Boateng yn chwaraewyr pwysig i’r clwb, ond yn arbennig Milner. Gobeithio mae Milner fydd Lampard City, dwi’n hyderus y bydd e’n datblygu rôl fel rhyw fath o asgwrn cefn o gysondeb yn y tîm. Yn yr un modd, pan fydda nhw yn holliach, bydd Kolarov a Boateng yn cryfhau amddiffyn oedd yn ddigon diflas ac annibynadwy llynedd ac a fyddai wedi gadael llond trol o goliau i mewn yn barod tymor yma oni bai am waith arwrol Jo Hart.

Ar y llaw arall dwi’n poeni y gallai arwyddo David Silva fod yn gamgymeriad o feintioli Robinioaidd. Hyd y gwelaf i bydd Silva ac Adam Johnson yn chwarae rôl ddigon tebyg yn y tîm ac yn anorfod felly ni fydd lle i’r ddau ohonyn nhw ar y cae. Ar hyn o bryd mae’n ymddangos mae’r dewis cyntaf yw Adam Johnson, a da felly. Dwi’n meddwl ei fod yn chwaraewr rhagorol ac yn fargen i feddwl mae dim ond tua £6m y talodd City amdano llynedd. A dyma broblem City a Silva. Problem City yw’r ffaith eu bod nhw wedi arwyddo chwaraewr £24m i eistedd ar y fainc. Problem Silva yw ei fod yn wynebu tymor o eistedd ar y fainc. Mae’n anorfod, dwi’n meddwl, mae Silva fydd y Robinio nesaf. Yr unig beth all newid hyn yw fod Silva yn dod oddi ar y fainc ac yn cael chwip o gem dda yn yr wythnosau nesaf a gorfodi ei hun mewn i’r unarddeg dechreuol.

Waeth i mi gydnabod nad ydw i’n gwybod llawer am Balotelli a dydw i heb ei weld yn chwarae, felly dwi ddim am basio barn un ffordd neu’r llall amdano eto. Ond dwi yn meddwl fod Tevez angen rhywun i chwarae wrth ei ochr neu o’i flaen yn yr ymosod; gobeithio y gall Balotelli lenwi’r rôl yna.

Y chwaraewr olaf sy’n haeddu sylw ar y pwnt yma yn y tymor ydy Adebayor. Dwi’n arbennig o hoff o Adebayor fel person ac fel cymeriad. Ond dwi ddim yn meddwl fod ganddo ddigon i gynnig fel blaenwr i City ag ystyried uchelgais y clwb. Yn y gemau hynny lle mae e wedi dod mlaen fel eilydd y tymor yma mae e wedi edrych yn drwsgl a di-enaid. Dydy e ddim yn edrych fel chwaraewr wnaiff ymdrechu’n galed i gael lle yn y tîm a dyna pam dwi’n meddwl y dylai City ei werthu mlaen fis Ionawr.

Mae Adebayor, fel ag yr oedd Robinio a Bellamy, yn symptomatig o broblem sylfaenol City sef fod ganddom ni ddim digon o chwaraewyr carfan. Hynny yw chwaraewyr sy’n ddigon bodlon eistedd ar y fainc am sawl gêm, am sawl wythnos, am sawl mis neu am dymor cyfan. Mae angen chwaraewyr o’r fath ar bob clwb ond mae City wedi mynd i’r arfer o arwyddo chwaraewyr safon rhyngwladol ar gyfer chwarae’r rôl yna ac mae hwn yn arfer sy’n rhaid dod i ben mor fuan a phosib. Mae Silva, Adebayor, Given, Barry a rhai eraill yn chwaraewyr rhy dda i eistedd ar y faint ond does ganddyn nhw ddim gobaith, ar hyn o bryd, torri trwyddo i’r unarddeg cyntaf chwaith.

Yn olaf, gair am dactegau Mancini. Dwi’n meddwl mae chwaraewr gorau City ydy Tevez ond hyd yma y tymor hwn mae Mancini yn ei chwarae yn ei safle anghywir. Ni all dyn mor fyr a Tevez chwarae fel unig ymosodwr. Chwarae fel cnonyn aflonydd tu ôl i’r ymosodwr blaen yw’r lle gorau i chwarae Tevez. Wn i ddim os mae bwriad hir dymor Mancini yw chwarae Balotelli yn y safle lle mae Tevez yn chwarae nawr ac yna tynnu Tevez yn ôl rhyw fymryn.

Gyda pawb yn ffit, dyma fyddai fy unarddeg delfrydol i tymor yma fel mae pethau’n ymddangos ar hyn o bryd:

Gôl-geidwad: Hart
Amddiffyn: Boateng, Kolarov, K. Toure, Lesscott
Canol cae: Milner, A. Johnson, Y. Toure, De Jong
Ymosod: Tevez, Balotelli (?)

Ar ôl eu gweld nhw’n chwarae ychydig o weithiau’n barod tymor yma dwi ddim yn meddwl fydd City yn y ras i ennill y gynghrair. Ar y gorau dwi’n meddwl mae’r hyn y gall City anelu ato yw’r pedwerydd safle a rhediad anrhydeddus yng Nghwpan Europa. Mi fydd hi’n dymor difyr!

Please follow and like us: