Fuodd Sion Corn yn hael iawn wrth Rhys eleni gan iddo ddeffro bore dolig a chamera Canon EOS 1000d wrth ei draed. Dyma fy nghamera “go-iawn” cyntaf. Dwi wedi perchnogi ar un digidol bach 2MP ers rhai blynyddoedd ond roedd angen i mi newid ger, yn benaf er mwyn medru cymryd lluniau basw ni’n gallu gwneud defnydd a hwy yn fy ngwaith dylunio graffeg. Mae’n gamera SRL digidol, fel yr hen SLR’s ond yn lle cael ffilm sy’n cael ei egsbosio i olau mae yna sensor digidol, clyfar.

Dyma rai o’m lluniau cyntaf, rwy’n ddigon ffodus o gael brawd iau sy’n fwy na parod bod yn fodel!:

Cynan ar y Prom

Cynan ar draeth Tan-y-bwlch

Cynan ar draeth Tan-y-bwlch

Mam a Cynan

Please follow and like us: