Dydd Sadwrn ches i’r fraint o dynnu lluniau ym mhriodas Sharon a Tony yn Aberystwyth. Achlysur arbennig iawn gan fod Sharon yn gymdoges i ni yn Nhrefaenor, Comins Coch pan oedden ni’n tyfu fyny. Mae fy ffefrynnau i o’r diwrnod isod – os ydych chi’n chwilio am ffotograffydd priodas neu yn gwybod am rywun sydd yn chwilio cofiwch alw draw i ngwefan i a chysylltu ynglŷn ag argaeledd a phris: www.lluniaupriodas.com

Dyma’r briodas gyntaf i fi saethu yn defnyddio fy lens diweddaraf sef y Sigma 35mm F1.4 DG HSM | A. Un o lensys yr ‘Art’ series newydd gan Sigma. Mae’r adolygwyr yn dweud fod y lensys ‘Art’ cystal o ran ansawdd a build quality a lensys L series Canon ond am hanner y pris. Hyd yma dwi’n blês iawn gyda perfformiad y lens a trwy’r lens yna gwnes i dynnu’r rhan fwyaf o luniau’r briodas yma. Heb os y lens yma fydd fy newis cyntaf o lens ar gyfer y rhan fwyaf o sefyllfaoedd a jobsys o hyn ymlaen.

Mwynhewch y lluniau:

IMG_1769

IMG_5089

IMG_1463

IMG_1970

IMG_1496

IMG_1993

Please follow and like us: