Pan ddarllenais Llyfr Glas Nebo a The Ruthless Elimination of Hurry yn syth ar ôl ei gilydd ychydig a wyddwn i eu bod, yn y bôn, yn trafod yr un thema: beth yw hanfod bod yn ddynol? Neu yn hytrach, sut i ail ddarganfod beth yw bod yn ddynol wrth ddianc o ruthr bywyd modern? Mae un yn nofel a’r llall yn ryw fath o hunangofiant / llyfr self-help Cristnogol. Un yn seiliedig ar hanes teulu sydd wedi eu rhwygo yn erbyn eu hewyllys o’r byd modern a’r llall yn rhoi hanes un dyn sydd wedi dewis troi cefn ar brysurdeb modern. Genre a chyd-destun tra gwahanol, ond eto’r un peth sy’n cael ei drafod. O ferwi’r peth i lawr, beth yw hanfod bod yn ddynol? Pan aiff y golau i ffwrdd, pan nad oes wi-fi, pan nad oes rhuthr i gyrraedd unrhyw le ar amser a pan na lifa gormodedd i ni, yna beth sydd ar ôl?

Wel, ateb annisgwyl y ddau lyfr yw bod Duw ar ôl. Mae rhywbeth ychydig yn ddoniol fod rhywun yn cael yr argraff mai dim ond dau berson sy’n fyw ar wyneb daear a bod un ohonyn nhw yn credu a’r llall yn anghredadun. Doniolach byth fyddai canfod fod y ddau yn gredadun ond yn parhau i fynd i gapeli gwahanol! Tra bydd dyn bydd duw? Na, tra bydd Duw bydd dyn. Ac wrth gwrs y plentyn nid yr oedolyn yn Nebo sy’n credu. “Yn wir, rwy’n dweud wrthych,” meddai Iesu, “heb gymryd eich troi a dod fel plant, nid ewch fyth i mewn i deyrnas nefoedd.” (Math. 18.3).

Datguddiad mawr John Mark Comer yw mai gelyn mwyaf unrhyw un sy’n ceisio byw bywyd fel disgybl i Grist heddiw yw “prysurdeb”. Yn rhan gyntaf ei lyfr mae’n adrodd am y perlewyg o brysurdeb aeth iddo yn ddyn ifanc yn arwain “mega-church” oedd ar flaen y gad gyda phob math o gyfathrebu cyfoes, gweinidogaethau blaengar heb anghofio ei alwad bwysicaf (ond mwyaf heriol!) yn ceisio magu llond tŷ o blantos bach adref. Daeth i weld ei fod yn syml iawn yn byw bywyd mor brysur nes ei fod yn amhosib byw bywyd mewn rhythm a’r Un nefol. Yr eironi, y gwyddwn ddigon amdani, o fod yn arweinydd Cristnogol ond yn methu byw bywyd llawn yn cario ysbryd Crist. Cystal â ‘mod i’n darllen fy hanes fy hun fan hyn – er efallai y byddai’n strech i weld Gofalaeth Eglwys Bedyddwyr Arfon fel “mega-church”, ond rydych chi’n deall beth sydd gen i.

Yn ail hanner y llyfr mae’n mynd ymlaen i gyflwyno’r antidot sef rhythm o fywyd sy’n counter-cultural i’n bywyd cyfoes prysur a materol ni. Dewis gweithio llai o oriau, dewis darllen nofelau a chanslo ei danysgrifiad Netflix, dewis ail-ddiffinio ei berthynas a thechnoleg a gweld y Saboth fel ffordd o fyw a meddwl ac nid dim ond diwrnod yr wythnos neu dymor bob hyn a hyn o flynyddoedd. Mae llawer o’r hyn mae’n gynnig yn apelio’n fawr i mi, ac yn y tymor yma pan rwy’n gwella o’r ‘burnout’ a brofais rwy’n credu y gallai’r math yma o agwedd meddwl fod yn batrwm y galla i ei fabwysiadu i’r dyfodol. Yr unig broblem yw bod rhaid i rywun fod mewn safle o fraint gymharol, neu o leiaf mewn swydd lle mae gennych reolaeth lwyr dros eich amser, i fod mewn sefyllfa i fyw bywyd yn y ffordd mae’r llyfr yn awgrymu.   

Mewn ffordd ryfedd, roedd John Mark Comer yn delfrydu’r math o fywyd a orfodwyd a’r Siôn a Rowenna yn Llyfr Glas Nebo. Llonyddwch ym myd natur, ymgolli am oriau a thrwyn mewn llyfrau, rhythm y corff yn rhydd o orthrwm amserlen a chloc ac yn tiwnio yn ôl i mewn i anadl naturiol y lloer a’r tymhorau. Rhyfedd sut mae delfryd un person yn felltith i rywun arall. Ond eto, daw Llyfr Glas Nebo i ben (spoiler alert!) wrth i’r goleuadau ddod yn ôl ymlaen. Wel,  “goleuni yw Duw, ac nid oes ynddo ef ddim tywyllwch.” (1 Ioan 1.5.)

Please follow and like us: