Dros y misoedd nesaf yng Nghaersalem bydda i’n pregethu trwy Lyfr Genesis yn y Beibl. Dwi’n gobeithio (os bydd amser yn caniatau) sgwennu blog i fynd gyda pob pregeth. Felly dyma ddechrau arni…

Pam Genesis?

Ychydig cyn y Nadolig roedden nhw’n darlledu un o gyngherddau Take That ar y teledu. Un o ganeuon enwocaf y band yw ‘Never Forget’.

Never forget where you’ve come here from
Never pretend that it’s all real
Someday soon this will all be someone else’s dream
This will be someone else’s dream

Er mwyn deall y presennol, mae’n rhaid deall y gorffennol. Er mwyn adnabod ein hunain, mae’n rhaid bod yn ymwybodol o’r gorffennol sydd wedi ein creu ni. Ystyr y gair Genesis yw “tarddiad” neu yn Saesneg “origins”. Neu “dechreuadau” / “beginnings”.

Mae’n hen lyfr sy’n dweud rhywbeth i ni ynglŷn a Duw, ynglŷn a ni ein hunain, ynglŷn a’r byd, ynglŷn a beth sydd wedi mynd yn anghywir yn y byd ac yn dweud rhywbeth ynglŷn a’r cynllun sydd gan Dduw i ddod a’r byd yn ôl yn iawn yn y diwedd.

518Of-D4mLL._SX331_BO1,204,203,200_Dwi’n gobeithio hefyd y byddwn ni’n gweld fod rhywbeth gan Genesis i’w ddysgu i ni am y byd heddiw. Dyma roedd Dewi Arwel Hughes yn dweud yn ei lyfr ‘Power and Poverty’:

“There has probably never been a time when it is more important for us to understand our origin and nature as human beings. Why are we so powerful? Why do we use our amazing abilities in a way that makes some very wealthy but leaves others in abject poverty? Why are we able to be so destructive and yet so creative? Is there any hope for us? … the foundations of the biblical answers are found in the book of Genesis.”

Felly ar y dechrau fel hyn dwi eisiau i ni weld Genesis nid fel llyfr sy’n llawn storïau am rai o’n hoff gymeriadau Beiblaidd. Dwi eisiau i ni ei weld fel rhan o ddarganfod ni ein hunain. Dwi eisiau i ni ei weld fel taith o ddarganfod gobaith Duw i’r byd heddiw.

“Ar y dechrau cyntaf, dyma Duw yn creu y bydysawd a’r ddaear.” Gen 1:1

Wrth astudio’r Beibl mae’n bwysig ein bod ni wastad yn cadw mewn cof mae nid un llyfr yw’r Beibl – ond yn hytrach casgliad o lyfrau. Mae pob llyfr yn y Beibl yn cyflwyno gwirionedd Duw i ni – ond mewn ffordd wahanol. Ac er mwyn deall gwahanol rannau o’r Beibl mae’n bwysig i ni ei ddarllen mewn ffordd sy’n briodol i’r arddull mae’r rhan yna o’r Beibl wedi ei sgwennu.

Erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o bobl (gan gynnwys llawer o’r traddodiad “Efengylaidd”) yn gweld fod penodau cyntaf Genesis yn delio gyda’r “Pam a phwy?” yn hytrach na’r “Sut a phryd?” Hynny yw, mae’r gwirionedd sydd ar ddechrau Genesis yn cael ei gyflwyno i ni fel darn o ddiwinyddiaeth (y ‘pam a phwy?’) yn fwy na darn o wyddoniaeth (y ‘sut a phryd?’). Fel roedd un esboniad yn dweud:

“It doesn’t explain how things were made, simply who made them and why … Genesis chapter 1 is above all theology. It was written in the first place, of course, for Israelite readers long ago, in a world very different in some respects from ours … the lesson is that every facet of the universe was in fact created, majestically and purposefully, by “the only wise God” (Romans 16:27).”

Duw a chynllun

Y wers gyntaf i ni yn Genesis yw fod gyda ni Dduw sydd a trefn, cynllun a phwrpas i ddod a goleuni i’r byd.

Mae unrhyw un sydd wedi bod i’n tŷ ni yn gwybod nad ydyn ni’r bobl fwyaf taclus yn y byd. Yn rhannol achos ein bod ni’n byw bywydau prysur ac yn gweithio o adre mae’n hawdd i lanast bentyrru yn ein tŷ. Ond un o’r pethau wnes i a Menna gymryd pleser mawr yn ei wneud dros y gwyliau oedd dod a pethau i drefn. Taflu pethau allan a rhoi lle i bethau newydd. Ac roedd hynny’n deimlad braf – yn wir yn ein rhyddhau i werthfawrogi rhannau o’n tŷ roeddem ni wedi dod i gasáu oherwydd y llanast.

Rydym ni i gyd yn bobl mewn gwirionedd sy’n gwerthfawrogi trefn a chynllun. Ac mae Genesis 1 yn ein dysgu fod gan Dduw gynllun a threfn i’r byd. Ac fod ganddo gynllun i ni fel pobol ac i ti fel unigolyn.

“Gadewch i ni wneud pobl yn ddelw ohonon ni’n hunain.” Gen 1:26

Yn Genesis 1 rydym ni’n cael y darlun o’r byd mae Duw wedi ei greu ac yn goron ar y cyfan mae’n ein creu ni. Nid yn unig ei fod wedi ein creu ond mae wedi ein creu fel delw ohono ei hun. Reit ar ddechrau Genesis felly rydym ni’n cael y newyddion da yma ein bod ni wedi ein creu i fod yn dda fel Duw. Wrth gwrs, fel y byddwn ni’n gweld tro nesa fe aeth rhywbeth o’i le, ond yn y dechrau un roedd popeth wnaeth Duw ei greu, gan ein cynnwys ni, yn dda. A cynllun Duw yw adfer popeth, gan ein cynnwys ni, yn ôl i’w fwriad gwreiddiol da e.

Mae’n amlwg reit o’r dechrau fan hyn fod yna berthynas arbennig rhwng Duw a dyn. Nid dim ond perthynas crëwr (Duw) a creedig (ni) sydd yma. Ond mae Duw wedi ein creu i fod yn bartneriaid gyda fe yn y gwaith o ofalu ar ôl ein gilydd a gofalu ar ôl y byd. Mae wedi ein gwneud yn bartner yn ei gynllun mawr.

Dros y gwyliau buon ni yng Nghaerdydd ac un o’r siopau wnaethom ni ymweld a hi oedd John Lewis. Yr hyn sy’n arbennig am y siop yw ei fod yn gwmni cyd-weithredol (co-operative). Oherwydd fod John Lewis yn gwmni cyd-weithredol mae pob un o’u staff o’r Prif Weithredwr i’r bobl sy’n glanhau y tai bach yn cael eu galw’n “bartneriaid”. Y syniad yw fod hyn yn rhoi gwerth, pwrpas a pherchnogaeth i bawb yn y cwmni.

Dwi’n meddwl fod dechrau Genesis yn ein dysgu ni fod Duw yn ein gwneud ni i fod yn “bartneriaid” yn y byd yma mae wedi ei greu. A’r her i ni ar ddechrau’r flwyddyn yw a ydym ni’n cymryd y cyfrifoldeb yna o ddifri? Neu ydym ni yn llusgo’n traed yn disgwyl am gynnig gwell o rhywle arall?

Mae’r Duw sydd wedi creu’r byd ac wedi dy greu di – yn cynnig partneriaeth i ti yn ei gynllun mawr Ef.

Please follow and like us: