Dros y misoedd nesaf yng Nghaersalem bydda i’n pregethu trwy Lyfr Genesis yn y Beibl. Dwi’n gobeithio (os bydd amser yn caniatau) sgwennu blog i fynd gyda pob pregeth. Dyma’r ail ran, dyma oedd y rhan gyntaf.

Mae Genesis yn dechrau gyda delwedd o fyd perffaith, byd sy’n wahanol iawn i’n byd ni heddiw. Mae ein newyddion yn llawn hanesion trist am ryfeloedd, ffoaduriaid, llofruddiaethau, cam-drin plant, gwleidyddion anonest, ac mae’r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen. Er fod yna lawer o obaith a prydferthwch yn y byd, does dim angen gradd i weithio allan fod rhywbeth sylfaenol o’i le, a fod y byd yma yn wyrdroëdig.

Beth felly aeth o’i le? Yn syth ar ôl hanes y Creu yn Genesis rydym ni’n cael hanes Adda ac Efa yng Ngardd Eden.

Dyma’r ARGLWYDD Dduw yn cymryd y dyn a’i osod yn yr ardd yn Eden, i’w thrin hi a gofalu amdani. A dyma fe’n rhoi gorchymyn i’r dyn: “Cei fwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd, 17 ond paid bwyta ffrwyth y goeden sy’n rhoi gwybodaeth am bopeth — da a drwg. Pan wnei di hynny byddi’n siŵr o farw.” (Genesis 2:16-17)

Yn bersonol dwi’n credu bod Adda ac Efa yn bobl go-iawn yn byw mewn lle go-iawn. Y ddadl gryfaf dros gredu hyn yw fod y Testament Newydd yn siarad amdanyn nhw fel pobl oedd wedi byw a bodoli go-iawn. Wedi dweud hynny, mae’n weddol glir fod yna elfennau mwy darluniadol i’r stori yma hefyd, a dydy dweud hynny ddim yn tynnu ffwrdd o gwbwl o’r gwirioneddau sy’n cael eu cyfathrebu i ni yn y stori. Nid coeden debyg i unrhyw goeden arall oedd hon ac nid neidr fel unrhyw neidr arall oedd honno. Bwriad yr hanes yma yw dysgu gwirionedd diwinyddol/ysbrydol i ni yn fwy na rhoi gwers fotaneg, cofiwn ni hynny.

Mae’r hanes yn mynd yn ei flaen ym mhennod 3:

Gwelodd y wraig fod ffrwyth y goeden yn edrych yn dda i’w fwyta. Roedd cael ei gwneud yn ddoeth yn apelio ati, felly dyma hi’n cymryd peth o’i ffrwyth ac yn ei fwyta. Yna rhoddodd beth i’w gŵr, oedd gyda hi, a dyma fe’n bwyta hefyd. (Genesis 3:6)

Beth oedd yn mynd mlaen fan hyn? Os ydyn ni’n meddwl am y peth, symbol oedd bwyta o’r goeden. Y broblem sylfaenol oedd fod Adda ac Efa yn meddwl eu bod nhw’n gwybod yn well ‘na Duw – dyna oedd y broblem sylfaenol. Ai problem Adda ac Efa oedd eu bod nhw’n chwenychu bod ar yr un lefel a Duw? (sy’n eironig i feddwl y byddai Duw ganrifoedd wedyn yn dod i fod ar yr un lefel ac Adda ac Efa!) Efallai nad oedd Adda ac Efa yn hapus gyda jest bod wedi eu creu ar lun a delw Duw – roedden nhw eisiau bod yn dduw? Sylwch ar eiriau’r neidr wrth Efa:

Ond dyma’r neidr yn dweud wrth y wraig, “Na! Fyddwch chi ddim yn marw. Mae Duw yn gwybod y byddwch chi’n gweld popeth yn glir pan wnewch chi fwyta. Byddwch chi’n gwybod am bopeth — da a drwg — fel Duw ei hun.” (Genesis 3:4-5)

Mae’r neidr yn chwarae ar ein gwendid ni o fod eisiau bod yn dduwiau bach ar ein bywydau ein hunain.

Beth mae’r stori yma yn ein dysgu ni am y syniad o ‘bechod gwreiddiol’? Ydym ni’n bechaduriaid oherwydd i Adda ac Efe bechu? Neu ydym ni’n bechaduriaid fel Adda ac Efa? Dyma gwestiwn mae’r eglwys wedi bod yn cnoi cil drosti ers canrifoedd. Ond un peth dwi yn gwybod – dwi’n adnabod fy natur fy hun ddigon da i wybod y byddwn i wedi cymryd yr un cam gwag ac Adda ac Efa petaswn i yno yng Ngardd Eden y diwrnod hwnnw.

Yn syth ar ôl i Adda ac Efa bechu maen nhw’n teimlo euogrwydd a chywilydd:

Yn sydyn roedden nhw’n gweld popeth yn glir, ac yn sylweddoli eu bod nhw’n noeth. Felly dyma nhw’n rhwymo dail coeden ffigys wrth ei gilydd a gwneud sgertiau iddyn nhw’u hunain. (Genesis 3:7)

Mae euogrwydd a chywilydd yn bethau gwahanol ond sy’n dod gyda’i gilydd. Mae euogrwydd yn derm cyfreithiol – yn ffaith ddu a gwyn ond i ni ganfod y ffeithiau a’u derbyn. Ond mae cywilydd fwy i wneud gyda’n teimladau a’n emosiynau.

Dwi ddim yn gwybod os ydych chi, fel fi, wedi teimlo’r euogrwydd a’r cywilydd roedd Adda ac Efa yn ei brofi yma? Efallai eich bod chi yn carrio baggage tebyg neu o fath gwahanol? Falle eich bod chi wedi blino cario’r baggage rownd gyda chi ers blynyddoedd?

Y newyddion da yw hyn: hyd yn oed yng nghanol euogrwydd a cywilydd Gardd Eden fe gamodd Duw i mewn i helpu.

Wedyn dyma’r ARGLWYDD Dduw yn gwneud dillad o grwyn anifeiliaid i Adda a’i wraig eu gwisgo. (Genesis 3:21)

Er fod Adda ac Efa newydd adael Duw i lawr big time, y peth cyntaf mae Duw yn ei wneud yw eu helpu nhw i ddelio gyda’r cywilydd. Pam? Oherwydd fod Duw yn Dduw cariad sydd ar ein hochor ni. Fel ddywedodd rhywun unwaith: “He hasn’t come to rub it in, but to rub it out.”

Os ydyn ni’n teimlo cywilydd am rywbeth y peth olaf rydym ni eisiau ydy rhywun i’w rwbio mewn – ond yn aml dyna sut ydym ni’n trin ein gilydd. “Told you so.” neu “What goes around comes around” ac ati. Ond ddim felly mae Duw efo ni. Mae wedi dod i gymryd ein cywilydd i ffwrdd. Ac fe wnaeth y cynllun yna ddechrau yn syth bin yna yng Ngardd Eden.

Please follow and like us: