Dros y misoedd nesaf yng Nghaersalem bydda i’n pregethu trwy Lyfr Genesis yn y Beibl. Dwi’n gobeithio (os bydd amser yn caniatau) sgwennu blog i fynd gyda pob pregeth. Dyma’r drydedd rhan. Dyma oedd dyma oedd y rhan gyntaf, (Y Cread)dyma oedd yr ail ran (Y Cwymp) a dyma oedd y drydedd rhan (Noa).
Tŵr Babel
Heddiw rydym ni’n troi ein sylw at ran rhyfedd o lyfr Genesis. Rhan y gallen ni’n hawdd neidio drosto – ond rhan dwi’n meddwl sy’n arbennig o berthnasol i ni. Ni’n bobl mewn tre fach, ar gyrion gwlad fach, sydd ar gyrion ynys fach, sydd ar gyrion Ewrop. Rydym ni’n siarad hen hen iaith sydd bellach yn iaith leiafrifol yn ein gwlad ein hunain. Yng ngeiriau TH Parry Williams:
Beth yw’r ots gennyf i am Gymru? Damwain a hap
Yw fy mod yn ei libart yn byw. Nid yw hon ar fap
Yn ddim byd ond cilcyn o ddaear mewn cilfach gefn,
Ac yn dipyn o boendod i’r rhai sy’n credu mewn trefn.
Pam ein bod ni’n trafferthu gyda’r Gymraeg, heb sôn am fynnu addoli a cenhadu yn Gymraeg? Mae neges Genesis 11 yn arbennig o berthnasol i ni fel eglwys Gymraeg sy’n teimlo galwad i addoli Duw trwy’r iaith leiafrifol yma ac yn teimlo galwad i rannu’r newyddion da gyda’n cyd-Gymry trwy’r iaith Gymraeg.
Beth sy’n digwydd yn Genesis 11?
Mae Duw, ar ddechrau Genesis yn rhoi pwrpas anhygoel i ddyn. Sef i fod yn bartner gyda fe yn y greadigaeth yma mae Duw wedi ei greu. Mae Duw yn dweud wrth Adda ac Efa yn Genesis 1:28
A dyma Duw yn eu bendithio nhw, a dweud wrthyn nhw, “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi; a bod yn feistr sy’n gofalu am y pysgod sydd yn y môr, yr adar sy’n hedfan yn yr awyr, a’r holl greaduriaid sy’n byw ar y ddaear.”
Cymharwch hynny, gyda’r adroddiad rydym ni’n cael yn Genesis 11:4
“Dewch,” medden nhw, “gadewch i ni adeiladu dinas fawr i ni’n hunain, gyda thŵr uchel yn estyn i fyny i’r nefoedd. Byddwn ni’n enwog, a fydd dim rhaid i ni gael ein gwasgaru drwy’r byd i gyd.”
Mae dyn yn cael cynnig y byd, ond mae’n well ganddo adeiladu tŷ bach twt yn ei ardd gefn. Mae’n cael cynnig yr holl amrywiaeth a’r prydferthwch sydd gan greadigaeth Duw i’w gynnig. Ond mae’n well ganddo aros mewn un lle, yn siarad un iaith a gwneud enw iddo fe ei hun. Ac yn aml, mae pobl sy’n ceisio gwneud enw iddyn nhw eu hunain, mewn gwirionedd yn gwneud ffŵl ohonyn nhw eu hunain!
Ymateb Duw?
Roedd Duw yn tristau wrth weld hyn yn digwydd. I ddechrau mae’n siŵr fod Duw yn drist oherwydd diffyg ufudd-dod dyn yn llenwi’r ddaear. Ond hefyd yn drist fod dynoliaeth ddim yn byw i’r potensial roedd Duw wedi ein creu i ddechrau. Ac felly mae Duw yn camu mewn ac yn ymyrryd. Genesis 11:5-8
A dyma’r ARGLWYDD yn dod i lawr i edrych ar y ddinas a’r tŵr roedd y bobl yn eu hadeiladu. Ac meddai, “Maen nhw wedi dechrau gwneud hyn am eu bod nhw’n un bobl sy’n siarad yr un iaith. Does dim byd yn eu rhwystro nhw rhag gwneud beth bynnag maen nhw eisiau. Dewch, gadewch i ni fynd i lawr a chymysgu eu hiaith nhw, fel na fyddan nhw’n deall ei gilydd yn siarad.” Felly dyma’r ARGLWYDD yn eu gwasgaru nhw drwy’r byd i gyd, a dyma nhw’n stopio adeiladu’r ddinas.
Melltith neu fendith?
Mae llawer o lyfrau ac esboniadau yn gweld Genesis 11 fel melltith. Ond dwi’n meddwl fod llawer yn dod i’r casgliad hwnnw gan fod y rhan fwyaf o lyfrau ac esboniadau wedi eu sgwennu gan ddynion gwyn sy’n siarad Saesneg a Saesneg yn unig. I bawb arall ohonom ni sy’n byw yn y byd go-iawn lle mae pobl yn siarad sawl iaith rydym ni efallai yn gallu gwerthfawrogi bendith Genesis 11, yn hytrach na’i weld fel melltith. Dymuniad Duw oedd i ddynoliaeth ddatblygu’n wahanol wledydd a gwahanol ddiwylliannau a gwahanol ieithoedd.
Dymuniad Duw oedd gweld undod mewn amrywiaeth.
Nid undod mewn unffurfiaeth fel a welwyd yn Babel. Nid undod mewn unffurfiaeth fel a welwyd yn yr Ymerodraeth Rufeinig, fel a welwyd yn yr Ymerodraeth Brydeinig a fel sy’n cael ei orfodi gan fateroliaeth heddiw. Dymuniad Duw oedd undod mewn amrywiaeth.
A dwi’n meddwl fod hi’n arbennig o bwysig i ni Gristnogion Cymraeg glywed y neges yma.
Oherwydd fe glywch chi rai Cristnogion yn ein barnu am rannu’r eglwys, am fynnu addoli yn Gymraeg – mae rhai yn dweud y dylem ni uno gyda’n gilydd mewn eglwysi Saesneg. Fe glywch chi bobl yn ein barnu am genhadu yn Gymraeg pan fo pawb yn gallu deall Saesneg. Bydd rhai pobl yn cael anhawster deall yr alwad mae pobl fel John Robinson wedi ei gael i ddysgu Cymraeg er mwyn rhannu am Iesu gyda pobl sy’n siarad Saesneg beth bynnag.
Yr hyn sydd tu ôl yr agwedd yma yw methiant i ddeall cynllun hyfryd Duw i ni, ac i’r greadigaeth. Undod mewn amrywiaeth.
Beth mae hyn yn ei olygu i ni heddiw?
Dwi’n cofio cymryd rhan mewn ffilm i John Robinson a’i fyfyrwyr. Y cwestiwn oedden nhw’n gofyn i fi oedd: pam fod yr iaith Gymraeg yn bwysig i ti? Ac fe wawriodd arna i mae y prif reswm roedd y Gymraeg yn bwysig i mi oedd oherwydd mae dyna oedd yr iaith roeddwn i’n siarad gyda Duw trwyddo. Byddai hi yr un mor rhyfedd i fi ddechrau siarad gyda Duw yn Saesneg ag y byddai hi i fi siarad efo Menna yn Saesneg.
Mae yna rywbeth arbennig am famiaith rhywun. A’n galwad ni fel eglwys yw rhannu am Iesu ym mamiaith y bobl o’n cwmpas ni.
Yng ngoleuni hanes Tŵr Babel rydym ni’n gweld fod holl ieithoedd y byd yn rodd gan Dduw i ni eu meithrin a’u gwarchod – dyma oedd dymuniad Duw yn Genesis.
Datguddiad
Mae yna gylch anhygoel i’r Beibl – ac mae’r thema yma sydd yn Genesis am yr ieithoedd a’r cenhedloedd yn atsain yn ôl yn Datguddiad 7:9-10
Edrychais eto ac roedd tyrfa enfawr o bobl o’m blaen i — tyrfa mor aruthrol fawr, doedd dim gobaith i neb hyd yn oed ddechrau eu cyfri! Roedden nhw yn dod o bob cenedl, llwyth, hil ac iaith, ac yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen. Roedden nhw’n gwisgo mentyll gwynion, ac roedd canghennau palmwydd yn eu dwylo. Roedden nhw’n gweiddi’n uchel:
“Ein Duw sydd wedi’n hachub ni! —
yr Un sy’n eistedd ar yr orsedd,
a’r Oen!”
Mae’n amlwg felly mae nid melltith oedd Babel, ond bendith. Dyma oedd trefn Duw i’r byd – ac mae’n ddiddorol fod yr undod mewn amrywiaeth yma yn parhau i dragwyddoldeb. Wna i ddim ymddiheuro wrth obeithio a gweddïo y bydd y Gymraeg yn un o’r ieithoedd hynny fydd yn addoli Iesu pan fydd en dod yn ôl.
Mae yna ddyfyniad gwych gan y diwinydd JE Daniel sy’n dweud fel hyn.
A chredwn yn y Pentecost tragwyddol y bydd Bernard yno yn canu ei ‘Jesu, dulcis memoria’, a Luther ei ‘Ein feste Burg ist unser Gott’, a Watts ei ‘When I survey the wondrous Cross’, a Phantycelyn ei ‘Iesu, Iesu, rwyt Ti’n ddigon’, heb i Bernard anghofio ei Ladin, na Luther ei Almaeneg, na Watts ei Saesneg, na Phantycelyn ei Gymraeg, a heb i hynny rwystro mewn unrhyw fodd gynghanedd berffaith eu cyd-ddeall a’u cydganu.
Dwi’n ymwybodol fod perygl i neges fel yma gael ei gamddehongli fel rhyw alwad ‘I’r gad!’ yn nhraddodiad gorau Dafydd Iwan. Ond beth sydd yma yw galwad i ni garu cynllun a threfn Duw. Galwad i ni drysori undod mewn amrywiaeth. Ac i ni rannu am newyddion da am Iesu yn ein iaith, ac ym mhob iaith.