Annwyl Olygydd,
Diddorol oedd darllen llythyr Mihangel Morgan (Golwg, 7 Mehefin 2007) yn eich cylchgrawn bythefnos yn ôl. Er mod i fel Cristion yn gresynu nad yw’n gweld gwerth i’r sffêr ysbrydol ac nad yw’n credu yn Iesu’r Gwaredwr rhaid i mi gyfaddef fod gennai barch tuag ato oherwydd nad yw’n eistedd ar y ffens. Rydych chi’n gwybod lle dy chi’n sefyll gydag anffyddwyr o argyhoeddiad felly, ar un lefel, parch iddo. Teimlad tra gwahanol oedd gennyf wrth ddarllen epistol y Parch. Aled Jones-Williams (Golwg, 17 Mehefin 2007). Er ei fod ar un llaw yn fugail Ordeiniedig o ran ei broffesiwn ac yn Gristion o ran ei berthyn crefyddol roedd yn dangos mwy o simsanu ac amwysedd, ar ryw wedd, na Mihangel Morgan yr anffyddiwr.
Rydym ni’n byw mewn oes sy’n ofn yr absoliwt ac mae’r cancr yna sydd wedi treiddio i’r meddwl Cymreig yn amlwg iawn yn epistol Aled Jones-Williams. Fe ddywed (gweinidog yr Efengyl cofiwch) fod Cristnogaeth yn perthyn i fyd dychymyg ac nid i fyd ffaith. Os na fuasai fy ffydd i yn Iesu’r Gwaredwr yn absoliwt, hynny yw fy mod yn ei gredu fel ffaith, ni fyddai’n ffydd ag iddo werth o gwbl. Wrth gwrs fod yna elfennau o fewn y ffydd Gristnogol i’w meistroli a’i deall yn well ond wedi i chi gredu fe ymddiriedwch a’ch holl galon mai Iesu yw’r unig ffordd. O’i roi mewn cyd destun gwahanol, os y credwch chi fod 1+1 yn 2 fe gredwch chi yn ogystal fod 1+2 yn rhoi 2 yn anghywir – maen absoliwt – all y ddau ddim bod yn gywir. Mae’r un peth yn wir am Gristnogaeth – nid yw’n ‘resymegol’, i ddefnyddio un o eiriau Aled Jones-Williams, i gredu mewn un peth tra ar y llaw arall credu fod fframwaith ffydd wahanol yn gywir hefyd.
Petai Aled Jones-Williams yn traethu ei ddweud mai ‘delwedd yw Duw’ ac mai ‘metaffor yw crefydd’ fel rhywun o du allan yr Eglwys Gristnogol fe fuasai ei syniadaeth yn cael mwy o barch gennyf – a hynny fel athroniaeth seciwlar-fodernaidd. Ond fel Offeiriaid sy’n gweinyddu sacrament er cof am waith Iawnol Iesu ar y Groes trosom ac yn derbyn ei fywoliaeth a tho uwch ei ben gan Eglwys Crist am wneud hynny mai ei eiriau yn ymddangos, a bod yn gwbwl onest yn od.
Ond rhaid rhoi gwrogaeth i Aled Jones-Williams am un sylwad sef ei ddweud mai ‘…nutces yw unrhyw un sy’n meddwl fod gan enwadaeth Cymru unrhyw ddyfodol’, cytunaf. Yma yn Aberystwyth mae criw o Gristnogion ifainc wedi cymryd ein Cristnogaeth allan o’r Capel a’r Eglwys ac wedi cymryd i gyfarfod yng Nghaffis a Tafarndai y dref. Ar nos Fercher fe gynhelir y cwrs Alffa lle y daw pobl o bob cefndir crefyddol gan gynnwys rhai anffyddwyr o argyhoeddiad i holi a thrafod o gylch rhai o bynciau canolog y ffydd Gristnogol. Trwy’r genhadaeth yma dros y 12 mis diwethaf mae llond dyrnaid o Gymry ifanc wedi dod i gredu ac wedi dod i berthynas real gyda Iesu. Ar y nos Sul fe gynhelir cyfarfod yn Nhafarn y Cŵps lle rhennir peth adnodau o’r Beibl, offrymir gweddi ac fe geir cyfnod o ganu emynau modern mewn awyrgylch anffurfiol.
Rhaid arbrofi gyda’r cyfrwng bid siŵr ond gwae Aled Jones-Williams a’i fudiad ‘crefydd fel metaffor’ rhag arbrofi ar y gwaredwr ei hun – edryched ar gyflwr Cristnogaeth yng Nghymru heddiw – dyna beth sy’n digwydd wrth geisio symud y pyst i’r nefoedd.
Yn gywir,
Rhys Llwyd,
Aberystwyth