Llythyr i’r Pedair Tudalen

Mae’r Pedair Tudalen, sef pedair tudalen cyffredin y tri papur enwadol wythnosol wedi cyhoeddi llythyr o’m heiddo i wythnos yma. Gan y tybiaf mae bychan iawn yw nifer darllenwyr y blog sydd wedi tanysgrifio i’r Goleuad, Y Tyst neu Seren Cymru dyma gyhoeddi’r llythyr yma hefyd. Gosod her ac nid beirniadu oedd diben y llythyr ond rwy’n barod am “frosty responce” ys dywed y Sais:

Annwyl Olygydd,

Cynhyrfus yn wir oedd clywed yr Annibynwyr yn ddiweddar ar donfeddi’r BBC yn beirniadu Esgobaeth Tŷ Ddewi am ddiffyg dwyieithrwydd yn eu caffi a’u canolfan groeso newydd. Mwy cynhyrfus byth oedd clywed yr Annibynwyr eto fyth yn galw ar Eglwys Loegr i ymddiheuro am ferthyru John Penry, ein John Penry ni, nol yn 1593. O roi fy mhen ar y bloc maen debyg y buaswn yn cymryd ochr yr Annibynwyr yn y ddau achos yma ond y gwir plaen amdani yw fod ein pennau ni ddim ar y bloc. Mae diffyg dwyieithrwydd yn Nŷ Ddewi yn broblem maen siŵr ac dylai fe dylai Rowan Williams, maen debyg, gydnabod yn gyhoeddus fod yr hyn ddigwyddodd i John Penry yn enghraifft ddifrifol o gam weinyddu cyfiawnder. Ond gadewch i ni ddeall un peth: er cymaint yw ein edmygedd o wŷr arbennig fel John Penry a Thomas Charles bychan iawn iawn yw eu mawredd ochr yn ochr a fy arwr i, Iesu Grist. A dyma ddod at graidd fy nghonsyrn – er fod y ddau bwnc uchod a glywyd sôn amdanynt yn y cyfryngau yn ddiweddar yn bynciau pwysig i’w trafod yn eu lle; pam, o pam! na glywir mwy o sôn yn gyhoeddus mewn ffordd feiddgar bydd yn ennyn sylw’r cyfryngau am Iesu Grist, a’i groesholiad a’i atgyfodiad drosom ni? Mae’n drist o beth mae ymylol os nad anweledig yw unrhyw sôn am Iesu Grist pan fo’r Eglwys yn llwyddo i gael sylw yn y cyfryngau.

Nid pietydd sy’n siarad yma nac ychwaith un sy’n difrîo hanes, ddim o gwbl, ond maen rhaid i ni ddeall mae nid ymarferiad wedi ei ysgaru o weddill gwaith yr Eglwys yw gwleidydda, hanesydda a rhyddhau datganiadau fel y ddau uchod – mae’r cyfan yn rhan o’r genhadaeth fawr a meiddiwn ni anghofio beth yw diben a raison d’etre y genhadaeth honno. Diben y genhadaeth honno yw gogoneddu Duw a chyflwyno Iesu Grist y gwaredwr o’r newydd i’n cyd-Gymry heddiw. Mae galw ar Eglwys Loegr i gydnabod anfoesoldeb yr hyn a wnaed i John Penry yn iawn yn ei le ond o wrando ar y ddadl gyhoeddus methwyd a’m argyhoeddi o bwrpas ehangach y datganiad na chwaith deall lle yn union yr oedd y datganiad yn ffitio mewn yn y genhadaeth ehangach i sôn am Iesu Grist.

I mi nid achos o ddathlu oedd clywed fod y BBC wedi cymryd at y stori hon am John Penry ond yn hytrach mater o dristwch gan ei fod yn arwydd o’r amserau. Ni wnaeth neb fwy na’r diweddar Dr. Tudur Jones i’n dysgu am fywyd a gwaith John Penry ond difyr oedd dod ar draws dyfyniad ganddo yn ddiweddar pan ddywedodd nol yn 1973 “mai’r Ffydd Gristnogol sydd i gael y flaenoriaeth mewn capel – nid gweithgarwch diwylliannol, pa mor werthfawr bynnag y bo.” Onid yw’r sylw diweddar a gaed yn y cyfryngau wedi profi mae llais un yn gwaeddi yn yr anialwch oedd llais proffwydol Dr. Tudur? Mae ffasiwn ddatganiadau yn iawn yn eu lle ond mae yna rhywbeth mawr o’i le pan mai datganiadau o’r fath yw’r unig ddatganiadau sy’n dod allan o’r Eglwys i’r gymdeithas ehangach. Cydblethu’r cyfan yw’r gyfrinach er mwyn i ni, fel Nehemeia, ail godi’r muriau ysbrydol yn ogystal a’r diwylliannol-wleidyddol.

Cofion pur,

Rhys Llwyd

Efrydydd Ymchwil
Adran Ddiwinyddiaeth, Bangor

Please follow and like us:

3 thoughts on “Llythyr i’r Pedair Tudalen

  1. Dilwyn

    “O roi fy mhen ar y bloc maen debyg y buaswn yn cymryd ochr yr Annibynwyr yn y ddau achos yma ond y gwir plaen amdani yw fod ein pennau ni ddim ar y bloc”.

    Brawddeg hollol garbwl, annealladwy a chwbl anghymreig. Ac ieithwedd a geirfa anffodus a di-chwaeth iawn o gofio’r cyd-destun! Synnu braidd bod unrhyw olygydd wedi cyhoeddi’r fath druth annarllenadwy o gwbl.

  2. Rhys Llwyd

    O ddarllen nol dwi’n cytuno! A gyda llaw, cyd-ddigwyddiad llwyr oedd y busnes “pen ar y bloc” dim ond nawr ar ôl i ti bwyntio allan dwi’n gweld eironi’r sefyllfa.

    Ond ag anwybyddu rhyddiaith y llythyr a garet ymateb i’r her ysbrydol roeddw ni’n ceisio gosod? Maen reit nodweddiadol o’r Cymry i wneud hw ha o’r iaith ac anwybyddu’r cynnwys.

  3. hyfryd

    Dwi’n methu deall faint o ynfytyn cachgiaidd ydi Dilwyn. Mae’r llythyr yn gwbwl ddarllenadwy ac mae’n amlwg fod ganddo rywbeth i’w ofni neu ryw sglodyn ar ei ysgwydd. Pathetig. Pwy ydio eniwe?

    Ta waeth, dwi’n meddwl dy fod ti’n taro’r hoelen ar ei phen. Ar wahan i fod ‘beside the point’ dydi cwyno am y cam a wnaed a rhywun na fydd y mwyafrif o bobl wedi clywed amdano, a hynny ganrifoedd yn ol, ddim y math o gyhoeddusrwydd sy’n mynd i lenwi eglwysi. A dydi dod allan yn mynnu hawlia merthyr crefyddol ddim y PR mwya tactful y dyddia yma.

    Yr efengyl ydi’r peth mwya ‘attractive’ sy gynnon ni a dwi’n gweld dim pwynt ei chuddio hi dan wyrddni neu helpu’r tlodion neu hanes yr eglwys.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.