Mae llawer o sôn wedi bod penwythnos yma fod y byd yn dod i ben a hynny oherwydd fod cyflwynydd radio Cristnogol o’r Unol Daleithiau, Harold Camping, wedi darogan hynny. Ond tybed faint sy’n ymwybodol fod gwneud y fath ddarogan wedi bod mewn ffasiwn ymysg rhai Cymry yn y gorffennol? Roedd y Piwritaniaid Cymreig, Morgan Llwyd a’i ffrindiau, a rhai o arweinwyr Digwydiad 04-05 fel R. B. Jones ymhlith cymeriadau eu cyfnod a fentrodd ddarogan pethau mawr.
Sylfaen daliadau ymddangosiadol wallgo Cristnogion fel hyn yw eschatoleg sef athrawiaeth y Pethau Diwethaf. Roedd Morgan Llwyd a’i ffrindiau, fel Harold Camping, yn gweld y diwedd yn dod ar warthaf gwareiddiad. Mae yna sawl theori parthed athrawiaeth y Pethau Diwethaf ac yn arbennig felly ‘milflwyddiaeth’ Crist. Delio yr ydym gyda’r cyfnod o fil o flynyddoedd y cyfeirir ato yn Datguddiad 20:1-6. Cyfyd y dadlau diwinyddol rhwng carfanau sy’n anghytuno beth yn union fydd rôl Crist yn y cyfnod yma: a fydd ei ail-ddyfodiad yn dod ar ddechrau’r cyfnod ac yntau’n llywodraethu mewn person eto am fil o flynyddoedd? Ai ar ddiwedd y cyfnod yma y bydd ei ail-ddyfodiad? Neu a yw’r cyfnod yma am fod yn gyfnod llythrennol o gwbl?
Milflwyddiaeth
Adnabyddir tri phrif ddehongliad o’r mileniwm ac un prif is-ddehongliad. Ôlfilflwyddiaeth, Afilflwyddiaeth, Cynfilflwyddiaeth a’r is ddehongliad oddi mewn i hwnnw, sef Goruwchwyliaethol (Dispensationalism). Mae Ôlfilflwyddiaeth yn mynnu yr adeiledir ac y lledeinir Teyrnas Duw trwy’r byd trwy gyfrwng pregethu’r Efengyl a gwaith achubol yr Ysbryd Glan: mae’r gwaith eisoes yn digwydd. Noda Loraine Boettner am ÔlFilflwyddiaeth; ‘…[it holds] that the world eventually will be Christianized, and that the return to Christ will occur at the close of a long period of righteouness and peace…’ Gan symud ymlaen at Afilflwyddiaeth gellir nodi nad yw’r dehongliad hwn yn credu y bydd yna gyfnod llythrennol o weld heddwch a chyfiawnder byd eang. Noda Boettner eto; ‘Amillennialism teaches that there will be a parallell and contemporaneous development of good and evil – God’s kingdom and Satan’s kingdom – in this world, which will continue until the second coming of Christ…’
Cred y rhai sy’n arddel y safbwynt Gynfilflwyddiaethol y bydd y cyfnod o fil o flynyddoedd yn dilyn ail-ddyfodiad Crist. Felly gydag ail-ddyfodiad Crist credant y bydd cyfnod o heddwch a chyfiawnder byd eang. Er y noda Boenttner fod Cynfilflwyddwyr wedi eu rhannu ar fanylion teyrnasiad Crist maent yn gytûn ar y pwynt creiddiol y bydd y mileniwm yn dod ar ôl yr ail ddyfodiad a chyn diwedd y byd. Y pedwerydd dehongliad ydyw Goruwchwyliaethol, ac er fod rhai yn cyfeirio ato fel y pedwerydd opsiwn sy’n sefyll ar ei ben ei hun, mynna Boenttner ‘….[that] in reality [it is] only a more extreme form of Premillennialism.’ Yng Nghymru cynrhychiolwyd y safbwynt Oruwchwyliaethol yn effeithiol gan un o arweinwyr Diwygiad 04-05, R.B. Jones pan ddywedodd:
…gwrthododd Israel eu Meseia a bu rhaid newid y cynllun a sefydlu goruchwyliaeth gras neu yr Eglwys yn ei lle… Yr arwydd sicraf o ddiwedd goruchwyliaeth gras… fydd y Cipiad pryd y bydd pob Cristion byw yn diflannu oddi ar y ddaear i ymuno â Christ a’i saint atgyfodedig yn yr awyr. Ar ôl y Cipiad daw saith mlynedd y Trallod ac yna dychwela Crist yn weladwy i Israel i sefydlu ei frenhiniaeth, i adeiladu y deml yn Jerwsalem, i ail gychwyn yr addoliad aberthol ac i lywodraethu dros y byd am fil o flynyddoedd.
Cynigodd y Piwritanaid Cymreig ddehongliad rifyddol gymhleth i gyfiawnhau eu cred fod Monarchiaeth Crist ar fin gwawrio. Ceir cyfeiriad at y rhif 666 yn Datguddiad 13:18 sy’n nodi; ‘…bydded i’r hwn sydd ganddo ddeall ystyried rhif y bwystfil, oherwydd rhif dyn ydyw; a’i rif ef yw chwe chant chwe deg a chwech’. Y dybiaeth ymysg llawer o’r Pumed Monarchiaid oedd fod hwn yn gyfeiriad uniongyrchol naill ai at y flwyddyn 1666 neu 1660 ac felly eu bod nhw’n byw mewn cyfnod lle’r oedd newid mawr dwyfol ar ddod.
Yr hyn oedd yn frawychus am Morgan Llwyd a rhai eraill o’r Piwritaniaid Cymreig oedd oblygiadau ymarferol eu dehongliadau Beiblaidd. Bu Morgan Llwyd yn frwd yn rhannu eu gweledigaeth ymysg milwyr byddin y Seneddwyr, yn y rhyfel cartref, o 1645 ymlaen. Dywed Thomas Richards fod llawer o’r Seneddwyr yn gweld ac yn cyfiawnhau eu buddugoliaethau fel rhai dwyfol oedd yn ganlyniad i ymyrraeth uniongyrchol gan Dduw o’u plaid. Noda Thomas Richards hefyd fod Morgan Llwyd yn bresennol mewn sawl brwydr yn annog a rhannu eu syniadau ymysg byddin y Seneddwyr.
Gau broffwydi?
Wrth drafod Cynfilflwyddiaeth R.B. Jones dywedodd Dewi Arwel Hughes yn ddiflewyn ar dafod mai ‘Gau broffwyd oedd R.B. Jones yn y cyswllt yma.’ Yn yr un ysbryd gallwn ddweud mai gau broffwydi oedd y Piwritaniaid hefyd a hithau bellach wedi pasio 6.00 y.h. Ar Fai’r 21ain 2011 gallwn ddweud i sicrwydd i Harold Camping, druan, syrthio i’r un gors. Fodd bynnag mae’n rhy gyfleus i wthio pobl fel hyn i ogof obsciwrantrwydd. Rhaid ceisio esbonio lle’r aeth pethau ar chwâl yn eu hathrawiaeth a’u syniadaeth: sut a pham y syrthient i’r gors?
Dangoswyd nad oedd dehongliad Harold Camping yn newydd, nid ffenomenon a welwyd gyntaf oddeutu 1650 oedd chwaith. Roedd syniadau tebyg wedi lledu trwy’r eglwys fore – yn deillio o ddiwylliant mesaianaidd ac eschatolegol Iddewig. Roedd y Piwritaniaid yn byw mewn oes lle roedd llywodraeth yn mhell o fod yn sefydlog ac mae’r Tele-Broffwydi Americanaidd yn byw mewn hinsawdd sosio-grefyddol ansefydlog wedi ymosodiadau Medi’r unfed ar ddeg a llawer, yn dra hurt, yn credu mae Obama yw’r Anghrist! Dywedodd Capp am y Piwritanaid; ‘Any form of crisis, whether through conquest, plague, social distruption or religious innovation, was likely to produce such a movement.’
Er y gallwn ddweud yn bendant fod y Piwritanaid, R.B. Jones ac heddiw Harold Camping wedi cyfeiliorni yn eu proffwydoliaethau, gellid eu hedmygu am eu cred diysgog yng Ngair Duw: roedd y Gair yn ysbrydoledig, er nad oedd eu dehongliad hwy ohono’n gywir.
O leiaf mae saga Harold Camping wedi ein atgoffa o’r gwirionedd Cristnogol fod Iesu’n dod yn ôl rhywbryd. Fel y dywedodd y crys-t enwog hwnnw ‘Look busy Jesus is coming’, ond falle ddim heno, falle fory, neu dranoeth neu drenydd!
Darllen pellach:
- D. Densil Morgan: “Gobaith a’r Dyddiau Diwethaf – Eschatoleg mewn Diwinyddiaeth Ddiweddar” yn ‘Ysgrifau Diwinyddol II’ Noel Gibard gol. (Pen-y-bont a’r Ogwr: Gwasg Efengylaidd Cymru, 1988)
- Loraine Boenttner: “The Millennium” (Philadelphia: The Presbyterian and Reformed Publishing Company, 1979)
- Dewi Arwel Hughes: “Yr Ailddyfodiad a Diwygiad 1904” yn ‘Nefol Dan’ Noel Gibbard gol. (Pen-y-bont a’r Ogwr: Gwasg Bryntirion, 2004)
Mae’r lol heddiw yn tanlinellu yd angen i ni ymrafael â ‘realized eschatology’ i ddangos ymgnawdoliad parhaol Crist yn ein byd, drwy ei eglwys yn dangos ei deyrnas, ac yn gwthio’r tywyllwch yn ôl!
Hawdd ein hanwybyddu a gwneud sbort am ein pennau pan mai darogan dwl fel hyn sy’n denu sylw atom!
Ti’n llygad dy le Hywel. Roedd y syniad fod Iesu wedi, yn ac am ddod yn bwysig yn niwinyddiaeth gyhoeddis Tudur Jones. Wrth gyfeirio at adnodau fel: ‘ac ar ei frenhiniaeth ni fydd diwedd’ (Luc 1:33), a ‘Goruwch pob tywysogaeth, ac awdurdod, a gallu, ac arglwyddiaeth, a phob enw a enwir, nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn yr hwn a ddaw…’ (Effesiaid 1:21) roedd Tudur yn dangos sut y darlunnir Iesu Grist fel Brenin oedd eisoes yn teyrnasu. Ergyd yr adnodau yma meddai oedd ‘fod pob awdurdod a gallu wedi ei ddarostwng i Grist.’ Yn y fan yma y mae ei ddefnydd o’r gair “wedi” yn arwyddocaol oherwydd ‘y mae yma fwy na mynegi’r gobaith hyderus y daw amser rhywbryd pan fo’r galluoedd wedi eu Cristioneiddio: mynegir yn hytrach y ffaith eu bod eisoes wedi eu darostwng.’ !!
Mae hynny, fel wyt ti’n dweud yn rhoi sail ddiwinyddol mwy pwrus a dynamig i’r Eglwys nag y gwna ymataliaeth lwyr o’r byd ar un llaw fel mae rhaid Cristnogion yn pledio ac ar y llaw arall yr hen feddylfryd Christendomaidd o ddominyddu’r byd.