800px-jacob5x16

Jacob

Roedd y finale Lost nos Sul yn hollol wych, er roeddwn ni’n hollol ar goll tan bod cwpwl o bethau’n dod yn glir.

I ddechrau y busnes yna fod Richard yn gorfod ateb y cwestiwn: “What lies in the shadow of the statue?” a dyna fe’n ateb yn Lladin, “Ille qui nos omnes servabit.” ac o’i gyfieithu sy’n golygu: “Yr Un fydd yn eich hamddiffyn a’ch gwaredu.” Felly maen debyg mae rhyw fath o ffigwr Meseianaidd ydy Jacob yn sicr. Roeddwn ni wedi tybio hyn ers y dechrau ond mae hyn yn gwneud y peth yn sicrach.

Yn ail, y busnes yma fod yna ddau Lock nawr, un aeth i mewn i’r cerflun i ladd Jacob gyda Ben ac un marw รข drodd fyny yn y bocs. Wel, nid Lock ydy’r un sydd i mewn gyda Jacob ond yn hytrach nemesis Jacob (y dyn fuodd yn siarad a bygwth Jacob ar y traeth) ar ffurf Lock. Gellid bod yn sicr o hyn oherwydd yn gyntaf mae Richard yn dweud wrth y Lock newydd pan maen troi fyny: “Theres something different about you,” ac yn ail mae Jacob yn sylwi mae ei nemesis ar ffurf Lock yw oherwydd ei fod yn gweld ei fod wedi ffeindio’r “loophole”.

Y trydydd peth pwysig yw bod Jacob wedi dweud wrth y Lock ffug wrth iddo farw “They’re coming”. Dwi’n meddwl fod hyn yn cyfeirio at Kate, Jack, Sawyer etc… Hynny yw, roedd Jacob fel ffigwr Meseianaidd yn gwybod y byddai’n rhaid iddo fe farw ac oherwydd hyn fe wnaeth e drefniadau fod rhai eraill yn dod i gynnal yr ynys/ffydd er mwyn trechu’r un drwg. Dyna pam rydym ni’n gweld Jacob yn ymweld a pob cymeriad oddi ar yr ynys – roedd hyn yn rhan o’r arfaeth fawr. Yn unol a hyn oll felly dwi’n tybio y bydd Jacob yn atgyfodi.

Please follow and like us: