Rhaid i mi gydnabod fod y newyddion bore ‘ma am farwolaeth Osama Bin Laden yn fy mhryderu braidd. Nid fod owns o gydymdeimlad gyda mi tuag at Bin Laden na dim byd yr oedd e’n ei gynrychioli cofiwch. Yr hyn anfonodd ias lawr fy nghefn bore ‘ma oedd ymateb y gorllewin, yn benodol ymateb rhai oedd yn mynnu eu bod nhw’n ddilynwyr Iesu Grist.

Er mor ofnadwy oedd troseddau Bin Laden, rwy’n cael hi’n anodd derbyn y cynsail fod modd dathlu fod unrhyw un wedi ei ladd. Gellid teimlo elfen o foddhad pe tae Bin Laden wedi ei ddal a chael ei ddwyn gerbron y Llys Troseddau Rhyngwladol yn yr Hague. Ond dathlu ei fod wedi ei ladd gan swyddog milwrol Americanaidd? Na, all fy nghydwybod Cristnogol i byth caniatáu i mi ddathlu dan y fath amgylchiadau.

Ers rhai blynyddoedd bellach dwi wedi bod yn dilyn datblygiadau un eglwys benodol yn yr Unol Daleithiau yn bennaf oherwydd gallu arbennig eu harweinydd fel pregethwr dawnus ac hefyd defnydd gwych yr eglwys o dechnoleg a chyfryngau newydd. Ond ers y dechrau rwyf wedi synhwyro rhywsut fod y brawd dan sylw ddim yn deall a dehongli sgop yr efengyl fel ag yr ydw i ac ei fod yn gadael i ddiwylliant Americanaidd yn hytrach na dysgeidiaeth Iesu lywio ei fyd olwg mewn rhai meysydd. Bore ‘ma wrth ddilyn ei ffrwd ar twitter fe’m siomwyd yn arw, er na ches i fy synnu mewn gwirionedd, gan ei ymateb i farwolaeth Bin Laden.

Finished long day of gospel preaching to hear the news that bin Laden is now dead…Thank you Jesus for being His JUDGE.

The cheering crowds remind us that justice is glorious & comes ultimately through Jesus cross or hell. Justice wins.

Proverbs 28:5 Evil men do not understand justice, but those who seek the LORD understand it completely.

Wn i ddim yn iawn sut mae ymateb i’r sylwadau uchod ganddo heblaw am deimlo fod rhywbeth sylfaenol o’i le gyda’i ddealltwriaeth o’r cymod a’r maddeuant sy’n bosib trwy Grist.

Ond fe’m calanogwyd drachefn gan ambell i drydariad gan bobl oedd yn amlwg yn teimlo’r un pryder a mi:

They kill the leader, and now every single US embassy on high alert. What a pointless war.

So strange to see American crowds outside the white house doing exactly what we condemned the middle east for doing on 9/11. Really sad.

An eye for an eye leaves the whole world blind.

When jesus said pray 4 ur enemies im pretty sure he meant not 2 bomb them, but Jesus wasnt running for president he was headed to the cross.

Ac yn olaf felly dyma rannu rhai adnodau sy’n berthnasol iawn dwi’n meddwl. Adnodau y byddai rhai Cristnogion gung-ho yn medru dyfnhau eu dealltwriaeth o’r cymod a’r maddeuant yng Nghrist wrth fyfyrio drostynt.

Os gwnewch chi faddau i bobl pan maen nhw wedi gwneud cam â chi, bydd eich Tad nefol yn maddau i chi hefyd. Ond os na wnewch chi faddau i’r bobl sydd wedi gwneud cam â chi, fydd eich Tad ddim yn maddau i chi am bechu yn ei erbyn e. (Mathew 6:14-15)

Diarfogodd y tywysogaethau a’r awdurdodau, a’u gwneud yn sioe gerbron y byd yng ngorymdaith ei fuddugoliaeth arnynt ar y groes. (Colosiaid 2:15)

Please follow and like us: