Bydd fy llyfr Tynged Cenedl: Cenedlaetholdeb Gristnogol R. Tudur Jones yn cael ei gyhoeddi yn Undeb yr Annibynnwyr Cymraeg yn Rhydymain ymhen pythefnos ac ar gael ym mhob siop lyfrau Gymraeg a gwales.com wedyn. Yn gobeithio trefnu digwyddiadau eraill dros yr haf i rannu am y llyfr hefyd.

Ces i fy magu ar aelwyd Gristnogol oedd hefyd yn aelwyd genedlaetholgar. Roedd mynd i’r capel ar y Sul a chodi posteri Plaid Cymru yn ddwy ddefod cwbl naturiol na wnes i byth gwestiynu pan oeddwn i’n blentyn. Mae gen i lond trol o atgofion plentyndod hapus o fynd i weithgareddau’r capel a hefyd o fynd o gwmpas Comins Coch gyda fy nhad adeg lecsiwn yn dosbarthu taflenni’r Blaid. I’n teulu ni roedd ein Cristnogaeth a’n Cymreictod yn ddeubeth oedd yn eistedd yn naturiol o gyfforddus gyda’i gilydd. Ond maes o law, a finnau erbyn hyn yn fy arddegau ac yn cwestiynu popeth, dyma fi’n dod ar draws ffenomenon nad oeddwn i wedi dod ar ei draws o’r blaen sef Cymry Cymraeg oedd yn dewis addoli mewn eglwysi Saesneg! A maes o law dyma fi’n dechrau clywed rhai Cristnogion yn dweud fod hynny oherwydd bod ‘yr efengyl yn bwysicach nag iaith’.

Erbyn diwedd fy nghyfnod yn yr ysgol uwchradd fe drodd y posteri Plaid Cymru yn blacardiau Cymdeithas yr Iaith ac er mod i dal i fynd yn hapus i’r capel bob dydd Sul roeddwn yn barod i gwestiynu’n fwy y credoau roeddwn wedi derbyn yn ddi-gwestiwn cyn hynny. Er i’m rhieni fy annog i ymgodymu a chwestiynau mawr ffydd ac i daflu fy hun i frwydr yr iaith nid oedd fy ngwrthryfel yn rhyngu bodd pob Cristion y deuthum ar eu traws. Dwysaodd yr argyfwng oedd yn fy rhwygo ar ôl cyrraedd y Brifysgol gan fod cyfarfod yr Undeb Cristnogol yn aml yn digwydd yr un pryd a chyfarfod Cell Cymdeithas yr Iaith ac felly fe ddiriaethwyd y tensiwn ynof drwy orfod dewis mynd i un cyfarfod ac esgeuluso’r llall. Dywedwyd wrthyf gan rai bod rhaid i mi ddewis – a oeddwn i’n un o griw Duw neu’n un o fois yr iaith?

Tua’r cyfnod yna y gwnes i gyfarfod ag Arfon Jones am y tro cyntaf – daeth i’r Undeb Cristnogol yn Aberystwyth i siarad os cofiaf yn iawn. Ar ôl deall wedyn ei fod ef wedi bod yn weithgar iawn gyda Chymdeithas yr Iaith ar un adeg ac wedi bod ar dân hefyd dros waith yr efengyl yng Nghymru mentrais anfon e-bost iddo yn rhannu am fy ngwewyr. Rwy’n cofio rhannu gydag Arfon fy rhwystredigaeth fod llawer o’m cyd-Gristnogion efengylaidd ddim yn deall fy nghonsyrn dros yr iaith a bod llawer o’m cyd-ymgyrchwyr iaith heb unrhyw ddiddordeb yn fy ffydd. Beth oeddwn i’w wneud ar yr ynys unig hon? Ac fe gofiaf yn iawn sut yr oedd ateb Arfon yn dechrau: ‘Wyt ti’n gyfarwydd gyda gwaith Dr. Tudur?’ Newidiodd hynny bopeth.

Na, nid oeddwn yn gyfarwydd gyda gwaith Dr. Tudur, neu R. Tudur Jones. Wedi fy magu yn nhraddodiad y Mudiad Efengylaidd y Doctor arall, Martyn Lloyd-Jones, oedd pob dim. Ond diolch i Arfon am fy nghyflwyno i waith Dr. Tudur oherwydd yng ngwaith Dr. Tudur – yn arbennig yn ei syniadau am agwedd y Cristion tuag at iaith a chenedl – y ces gyfle i ddeall fy ngwead a’m argyhoeddiadau fy hun. Trwy waith Dr. Tudur y ces gyfle i ddeall pam y’m magwyd ar aelwyd oedd yn gweld ein ffydd a’n cenedlaetholdeb fel deubeth cwbl naturiol oedd yn perthyn i’w gilydd.

Diwedd y stori oedd cael cyfle i astudio syniadau Dr. Tudur am genedlaetholdeb fel doethuriaeth a rhyw fersiwn talfyredig o’r traethawd ymchwil hwnnw yw Tynged Cenedl

Er bod nifer o lyfrau arbennig wedi eu cyhoeddi dros y blynyddoedd diwethaf yn trafod hanes syniadaeth yng Nghymru ers oes Fictoria roeddwn o’r farn fod llawer o’r gweithiau hynny yn methu ag ymdrin â dylanwad ffydd ar syniadaeth wleidyddol rhai o brif ffigyrau’r cyfnod. Rwy’n gobeithio felly fod Tynged Cenedl yn help i Gristnogion heddiw feddwl trwy eu syniadau gwleidyddol o safbwynt diwinyddiaeth Gristnogol a’i fod yn gymorth hefyd i’r Cymry nad ydynt yn meddu ar ffydd ddeall rhyw ychydig am yr argyhoeddiadau Cristnogol fu’n ysgogiad i lawer o genedlaetholwyr y ganrif a fu.

Datblygiad annisgwyl ac anffodus yn y blynyddoedd ers i mi gyflwyno fy nhraethawd ymchwil a chyhoeddi Tynged Cenedl yw’r twf mewn cenedlaetholdeb adweithiol ym Mhrydain o ganlyniad i Brexit ac yn yr Unol Daleithiau o ganlyniad i Donald Trump. Yr hyn sy’n gwneud y datblygiadau yma yn frawychus o safbwynt Cristnogol yw fod llawer o’r twf mewn cenedlaetholdeb adweithiol yn menthyg rhethreg crefydd ac wedi llwyddo i werthu eu math o genedlaetholdeb fel petasai’n ‘Genedlaetholdeb Cristnogol’, yn arbennig felly yn yr Unol Daleithiau. Mae nifer o lyfrau Saesneg wedi eu cyhoeddi’n ddiweddar yn trafod y ffenomenon yma ac yn trafod y rôl mae ideoleg honedig ‘Gristnogol’ wedi ei gyfrannu i dwf ‘white supremacy’, yn arbennig yn yr Unol Daleithiau. 

Felly, yn annisgwyl efallai mae gan R. Tudur Jones a’r traddodiad Cymreig o Genedlaetholdeb Cristnogol lawer i’w ddweud wrth y byd a chymdeithas heddiw. Yn y llyfr mae yna feirniadaeth o fathau o genedlaetholdebau na ddylai’r Cristion a’r eglwys ymlynu a hwy, ond fe gyflwynir math dyrchafol o genedlaetholdeb y gallai’r Cristion a’r eglwys ymlynu â hi. Mae datblygiadau’r blynyddoedd diwethaf wedi dangos nad perthyn i lyfrau hanes yn unig mae’r testun a drafodir yn Tynged Cenedl – mae’r cwestiwn ynghylch natur a tharddiad cenedlaetholdeb a’i berthynas â ffydd a chrefydd eto’n fyw. 

Please follow and like us: