Fe ddywedais yn fy mhregeth ddoe fod Iesu “yn ein hachub mewn ac nid allan o hanes” a dyna pam nad yw ein hunaniaeth/dinasyddiaeth nefol yn cymryd lle ein hunaniaethau daearol; ond yn hytrach mae’n ei drawsffurfio. Rwy’n deall fod hwn yn syniad cymhleth efallai, ac nid oedd amser i’w esbonio a’i ddadbacio yn iawn yn ystod y bregeth felly dyma siarad ychydig mwy amdano yma. Dyma ychydig o ddadbacio ôl-ddydd-Sul i chi gnoi cil drosto.

Un o’r pethau sy’n gwneud y ffydd Gristnogol yn unigryw yw ein cred yn yr ymgnawdoliad, sef y syniad fod Duw trosgynnol (transendent) wedi dod i mewn i’r byd naturiol yn llythrennol fel person o gig a gwaed yn Iesu Grist. Ac yng ngoleuni hynny felly roeddwn i’n dweud fod Duw yn dduw sy’n gweithio mewn hanes ac nid tu allan i hanes.

Un o oblygiadau’r ymgnawdoliad yw gallu’r Efengyl Gristnogol i ymgnawdoli ei hun mewn i unrhyw genedl, gwlad a diwylliant. Hynny yw, nid oedd rhaid i’r Groegwyr ddod yn Iddewon er mwyn dod yn Gristnogion yn yr un modd ac nad oes rhaid i ni Gymry ddod yn Saeson neu Americanwyr er mwyn dod yn Gristnogion; neu fel nad oes angen i’r mwyafrif byd eang ddod yn orllewinwyr cyn dod yn Gristnogion. Neu, o edrych ar gyd-destun dosbarth, nid oes rhaid i’r dosbarth gweithiol ddod yn ddosbarth canol cyn dod yn Gristnogion! (Er, gellid dadlau yng ngoleuni’r Bregeth ar y Mynydd y dylai’r cyfoethog ymdlodi cyn dod yn Gristnogion … wel, rhywbeth i ystyried o leiaf!) Un o oblygiadau’r ymgnawdoliad yw bod yr efengyl Gristnogol yn gallu ymgnawdoli ei hun i mewn i ddiwylliant.

Wrth gwrs, mae yna elfennau o bob diwylliant sydd yn anghydnaws gyda’r ffydd Gristnogol. Ond y pwynt ydi fod y ffydd Gristnogol yn gallu trawsnewid ein diwylliant daearol yn hytrach na’i ddifethau neu gymryd ei le yn llwyr.

Mae’r ddealltwriaeth yma o oblygiadau’r ymgnawdoliad i ddiwylliant a chenhadaeth yn allweddol ar gyfer diwinyddiaeth ôl-drefedigaethol (post-colonial) ac mae’n cynnig fframwaith i ni fel eglwys asesu’r niwed a wnaed mewn cenedlaethau a fu pan dybiwyd fod angen dinistrio neu gymryd lle diwylliannau brodorol wrth rannu’r ffydd Gristnogol.

Mae’n bwysig nodi wrth basio fod yna rai cenhadon o Gymru wedi bod yn eithriadau clodwiw wnaeth ddangos sensetifrwydd radical wrth gefnogi a gwarchod diwylliannau brodorol tra ar y maes y cenhadol, pobl fel Evan Jones a’i genhadaeth i’r Tsalagi a benderfynodd ymgnawdoli ei genhadaeth ymhlith y Cherokee ac uniaethu’n llwyr gyda nhw drwy fynd gyda nhw hyd yn oed ar y Trail of Tears.

Ond mae diwinyddiaeth iach o berthynas yr ymgnawdoliad gyda diwylliant a chenhadaeth yn mynnu hefyd fod yr eglwys yn dangos edifeirwch am y niwed a wnaed yn y gorffennol ac yn ein herio i feddwl am ffyrdd gwreiddiol ac ymgnawdoledig (incarnational) o fyw a rhannu ein ffydd heddiw. Ydy mae’r ffydd Gristnogol yn rhoi hunaniaeth a dinasyddiaeth nefol i ni, ond nid i gymryd lle ein hunaniaethau eraill ond er mwyn eu trawsnewid.

Please follow and like us: