Datblygiad diddorol iawn yn y byd ar-lein Cymraeg yn ddiweddar oedd lansio Golyg.com. Mae’n wasanaeth sy’n rhannu ffeiliau BitTorrent o raglenni S4/C. O’r hyn rwy’n deall mae’r gwasanaeth yn anghyfreithlon fel y rhan fwyaf o wasanaethau BitTorrent yn yr iaith fain.

Yn bersonol dydw i heb ddefnyddio Golyg eto ond dwi wedi defnyddio gwasanaethau tebyg yn Saesneg a hynny ar gyfer rhaglennu teledu lle nad oedd yna ffordd cyfreithiol o’u gwylio. Er enghraifft roedd Lost (fy hoff ddrama deledu erioed!) yn cael ei ddarlledu ar Sky ar nos Wener ond doedd dim modd edrych ar y rhaglen trwy iTunes tan y bore Llun. Roedd y tridiau yna felly yn peri i bobl oedd heb Sky wylio’r rhaglen yn anghyfreithlon ar y we. Hynny yw, pe bae’r rhaglen wedi bod ar gael ar iTunes nos Wener yr un pryd ag y caethai ei ddarlledu ar Sky mi fuaswn i’n fwy na parod i dalu am gael gweld. Rwy’n cydnabod fod hyn yn anghywir ond y pwynt rwy’n ceisio ei wneud yw mai diffyg darpariaeth gyfreithlon sy’n gyrru defnyddwyr at wasanaethau anghyfreithlon.

Y dyma yw’r allwedd, dwi’n un o’r bobl sydd yn fwy na bodlon talu a dim ond yn troi at gyfryngau anghyfreithiol lle nad oes fersiwn gyfreithlon ar gael. Roeddwn i’n ddefnyddiwr brŵd o Napster a Limewire ond unwaith y daeth Apple ag opsiwn cyfreithiol gerbron trwy’r iTunes Store wnes i stopio defnyddio Limewire yn syth.

A dyna pam dwi’n meddwl fod modd amddiffyn Golyg sy’n rhannu rhaglenni S4/C dros BitTorrent. Er ei fod yn anghyfreithiol yn llygaid cyfraith gwlad dwi’n meddwl fod cyfiawnhad foesol dros fodolaeth Golyg tan fod gwasanaethau a rhwydweithiau dosbarthu S4/C yn cyrraedd yr un lefel a rhai cyfatebol yn Saesneg ac felly yn dod a chyfartaledd hawliau darlledu i siaradwyr Cymraeg.

Felly dwi’n meddwl fod cyfiawnhad i Golyg tan fod:

  • Gwasanaeth S4/Clic yn cael ei uwchraddio i fod o gystal safon a gwasanaethau VOD tebyg i iPlayer ac fod yn rhaid iddo gael ei rolio allan ar draws sawl platfform nid dim ond porwyr gwê ar gyfrifiaduron pobl. Er enghraifft, ei gynnwys ar focsys Freeview cwmnïau fel Humax, app ar gyfer platfformau fel Xbox a PS3 ayyb…
  • Fod cyfresi S4/C, yn arbennig cyfresi drama a dogfen, ar gael i’w prynu yn syth bin trwy wasanaethau lawrlwytho cyfreithiol fel iTunes Store. Yn ddelfrydol dylai fod rhaglen gyhoeddi DVD flynyddol gan S4/C hefyd, efallai fod economeg hyn ddim yn bosib ond does dim byd yn atal rhoi’r cynnwys i gyd ar-werth ar iTunes fesul cyfresi a fesul rhaglenni.

Tan fod S4/C yn darparu’r gwasanaethau uchod, sy’n norm bellach i gynulleidfaoedd Saesneg, i’r gynulleidfa Gymraeg dwi’n credu fod cyfiawnhad foesol dros fodolaeth Golyg.

Please follow and like us: