Pan dwi’n siarad am fy ngwaith yn gyhoeddus rwy’n tueddu i siarad yn bennaf am Gaersalem Caernarfon gan fod stori’r eglwys yna, ar y cyfan, yn stori o dwf a newid. Pobl newydd yn dod, addoliad cyfoes, cynlluniau interniaeth, mentrau newydd, addasu’r adeilad, y fenter o greu deunydd aml-gyfrwng newydd ac ati.

Ond rwy’n cael y fraint hefyd o fod yn Weinidog ar ddwy eglwys fechan arall hefyd – Calfaria Penygroes ac Ebeneser Llanllyfni. Dwi ddim yn siarad gymaint am y ddwy eglwys yna, yn gyhoeddus o leiaf, ond maent hwy – er yn llai o lawer – yn llawn pobl wirioneddol hyfryd sy’n caru a dilyn Iesu Grist os mewn gwisg fwy traddodiadol na chriw Caersalem.

Rwy’n rhannu hyn nawr oherwydd y daw newidiadau dros y misoedd nesaf wrth i aelodau fy eglwysi yn Dyffryn Nantlle leihau mewn nifer a sgwrs yn gorfod digwydd ynglŷn ag uno a rhesymoli defnydd o adeiladau ac yn y blaen. Sgwrs anodd, sgwrs sensitif ond sgwrs sy’n rhaid digwydd: mae amser i bopeth dan y nef fel y dywedodd un aelod wrtha i ddoe wrth adleisio neges y Pregethwr.

Un o’r pethau rhyfedda am fy nwy eglwys yn Dyffryn Nantlle yw bod llai na milltir rhyngddynt (fel yr hed y frân). Dau gapel o’r un enwad o fewn milltir i’w gilydd! Y capel yn Felingerrig Llanllyfni yw’r hynaf, capel yr enwog Robat Jones, un o arloeswyr y Bedyddwyr yn yr ardal ac emynydd enwog.

Ymgrymwn oll ynghyd i lawr
gerbron gorseddfainc gras yn awr;
â pharchus ofn addolwn Dduw;
mae’n weddus iawn – awr weddi yw.

Awr weddi yw, awr addas iawn
i draethu cwynion calon lawn;
gweddïau’r gwael efe a glyw
yn awr yn wir – awr weddi yw.

Dy Ysbryd, Arglwydd, dod i lawr
yn ysbryd gras a gweddi nawr
i’n gwneud yn wir addolwyr Duw;
mawl fo i ti – awr weddi yw.

CASGLIAD ROBERT JONES, 1851

Roedd cymaint o bobl Penygroes isho dod i gapel Robat Jones yn Llanllyfni nes bod dim lle i bawb ac felly drwy reidrwydd roedd rhaid agor achos newydd lai na milltir i ffwrdd ym Mhenygroes a dyna agor Calfaria wedyn yn fwy diweddar.

Dim ond yn ddiweddar iawn y bu i ni gladdu aelod oedd yn or-wyres i un o sylfaenwyr yr achos ac roedd ganddi gof plentyn o rai o aelodau cyntaf yr eglwys wedi iddi gael ei sefydlu – felly dyna ddangos pa mor dyner y mae’n rhaid bod wrth drafod dyfodol achosion ac adeiladau crefyddol. Nid yw’n perthyn i hen hen hanes bob tro, mae’n ymwneud ag atgofion byw a real i rai.

Fodd bynnag, mae’r amser wedi dod i resymoli eto gydag ond dwsin o aelodau rhwng y ddwy eglwys. Wel, roedd dwsin o ddisgyblion yn ddigon da i Iesu felly bydd yn ddigon da i ni. A pa ddrwg sydd mewn cyd-addoli gyda’r Annibynwyr a’r Presbyteriaid hefyd? Digon o ddrwg yn ôl Robat Jones debyg iawn, ond dim ond ei emynau sydd yma heddiw i leisio’i farn.

Er y cynnwrf sydd yn aml yng Nghaersalem mae rhywbeth da i ddweud hefyd am y dwyster a’r gwerthfawrogiad yn Calfaria ac Ebeneser: ‘Yn y dwys ddistawrwydd dywed air, fy Nuw; torred dy leferydd sanctaidd ar fy nghlyw.’ I chi sy’n weddiwyr gweddïwch dros unrhyw newid a ddaw, dros drafodaethau adeiladol, a gweddïwch hefyd dros Weinidog sydd â thuedd i deimlo dwyster pob dim y dyddiau yma.

Please follow and like us: