Heddiw roeddwn i’n siarad mewn diwrnod hyfforddiant i Eglwys Bresbyteraidd Cymru yng Ngholeg Trefeca, cyfle a drodd yn daith bersonol ac annisgwyl. Wrth i mi yrru draw i Drefeca roeddwn i’n hel meddyliau ynglŷn â sut i agor y sesiwn – yn trio cofio rhyw hanesyn difyr am Howell Harris neu rywbeth tebyg. Ac yna dyma fi’n cofio fod gen i gysylltiad personol gyda’r lle oherwydd i Dad-cu dreulio cyfnod ar ddechrau ei hyfforddiant fel Gweinidog yno. Nid yn unig hynny ond rwy’n credu mai yno (neu o leiaf dan ddylanwad rhywun oedd yno gydag ef) y daeth i gredu yn Iesu fel Arglwydd a Gwaredwr go-iawn yn gyntaf. Er i Dad-cu gael ei adnabod maes o law fel un o arweinwyr y Mudiad Efengylaidd a Phregethwr grymus efengyl maddeuant fe ddechreuodd ei lwybr i’r weinidogaeth fel Sosialydd – aeth ymlaen yn wreiddiol fel ymgeisydd i’r Weinidogaeth fel ffordd o hyrwyddo’r efengyl gymdeithasol a dim byd arall … ond yna daeth y dröedigaeth.
Wrth hel yr atgofion yma dyma fi’n meddwl – beth am gymryd detour ar y ffordd nol i’r Gorllewin trwy rai o’r pentrefi lle’r oedd Tad-cu wedi gweinidogaethu ond llefydd lle nad oeddwn i (fel oedolyn o leiaf) erioed wedi ymweld â nhw.
Oni bai eich bod chi a rheswm i fynd trwy Gwm Tawe, topiau Dyffryn Aman ac ati, yna ni fyddai rhywun yn mynd trwy’r llefydd yma. Ardaloedd ôl-ddiwydiannol lle mae’r cymoedd yn cyfarfod y wlad, y Gymru ddi-gymraeg yn toddi i mewn i’r Fro Gymraeg. Ardal, tase chi’n cymryd cyllell ati, y byddech chi’n gallu edrych mewn i hanfod yr hyn sydd wedi gwneud Cymru’r hyn ydyw hi heddiw.
Yn byllau glo, yn gapeli, yn glybiau cymdeithasol, yn ffwrnesi, yn aceri o dir diffaith ac yna yn sydyn cymuned a phawb yn byw ar ben ei gilydd mewn rhes ar ôl rhes o dai teras ond bellach dim arwydd fod gwaith i’r bobl yna. Ambell i Gapel Saesneg i weld fel petai gweithgaredd o’i mewn cyn pasio hanner dwsin o Gapeli Cymraeg yn edrych fel eu bod wedi cau. Ond erbyn hyn y “Welfare” a golwg yr un mor druenus â Siloh, Salem neu Smyrna.
Dirywiad cymdeithasol ac iddo bob math o haenau – ieithyddol, diwylliannol, diwydiannol ac wrth gwrs ysbrydol hefyd.
Wrth yrru trwy Gwaun-cae-gurwen stopiais i chwilio am y capel lle’r oedd Tad-cu yn Weinidog arni yn yr 1960au. Nid yn unig roedd wedi cau erbyn hyn ond roedd yr adeilad hefyd wedi ei dymchwel. Yr unig beth oedd ar ôl oedd pyst y giatiau a rhes o dai new build crand wedi eu codi ar y safle. Yn ystadegol mae dal yn ardal a nifer sylweddol yn siarad Cymraeg – dros 60%.
Ar y ffordd rhwng Cwmllynfell a Brynaman dyma basio hen blacard ‘Jonathan Edwards – Plaid Cymru’ ar ochr y ffordd a chofio mae yma – yn y gymuned ôl-lofaol hon – mae’r bleidlais gryfaf dros Blaid Cymru trwy’r wlad. Nid yn nhref Caernarfon lle mae’r Blaid yn dal gafael o drwch blewyn, nac ymhlith ffermwyr Meirionnydd na chapelwyr Môn lle mae’r Blaid i’w gweld yn stêl bellach; ond yma, yn hagrwch ôl-ddiwydiannol Dyffryn Aman. Yma mae pobl yn pleidleisio fesul berfa dros Adam Price a Jonathan Edwards – dros Blaid Cymru – dros blaid sy’n pregethu Annibyniaeth i Gymru. Beth mae hynny’n dweud wrthym ni? Tybed a’i yma, rhwng y cymoedd a’r wlad, rhwng y di-gymraeg a’r Cymry Cymraeg, rhwng ffydd ac anffyddiaeth, y mae Cymru yn teimlo’r catharsis a’r syched fwyaf am ddyfodol gwell a gwahanol? A’i argyfwng gwleidyddol sydd tu ôl i hyn? Argyfwng diwylliannol? Neu argyfwng ysbrydol? Cyfuniad o’r tri meiddiwn awgrymu.
Yn ddiweddar roedd Densil Morgan yn pregethu yng nghwrdd sefydlu Casi Jones ym Mangor ac un o’r pethau ddywedodd e oedd ei fod e’n caru Cymru … er gwaethaf ei hanghrediniaeth. Dyna i chi ddweud mawr. Mae’n hawdd caru pobl pan mae’r bobl yna’n debyg i chi, yn meddwl yn yr un ffordd a chi a byd olwg tebyg i chi. Ond mae’n cymryd rhywbeth i garu pobl sy’n meddwl yn wahanol i chi … hyd yn oed wedi gwrthod eich byd olwg chi. Ond eto caru yw’r gorchymyn a pharhau i dystio’n ffyddlon.
Aeth Tad-cu i Drefeca fel Sosialydd a dod adref fel Efengylwr. Ar ôl can mlynedd o Sosialaeth a hanner can mlynedd o Gristnogaeth efengylaidd arallfydol (nid fod hynny yn wir am Efengyliaeth fy Nhad-cu cofiwch … er mae y consyrn ysbrydol oedd yn dod gyntaf bob tro, roedd yn credu fod y Beibl yn dysgu efengyl oedd yn newyddion da i’r person cyfan.) dydy Cymru ddim mewn lle gwell – os rhywbeth mae’r argyfwng yn dwysau. Tybed a’i trasiedi Cymru’r ganrif ddiweddaf oedd bod pobl wedi meddwl fod rhaid dewis rhwng mynd ar ôl lles materol neu ysbrydol pobl a chenedl? Rhai wedi mynd i lawr y llwybr sosialaidd … eraill wedi mynd i lawr y llwybr ysbrydol. Tybed a’i syched mawr yr hen ardaloedd dwi wedi teithio trwyddynt heddiw – a syched Cymru yn gyffredinol – yw cael clywed am newyddion da sy’n rhoi gwerth tragwyddol yn ôl i fywyd unigolion ond hefyd yn rhoi urddas a phwrpas iddynt yn y fan a’r Gymru hon lle y maen nhw’n byw hyd nes y daw?
Mae’n hen weledigaeth, ond dyma yw’r stori dwi dal i gredu ynddi a dyma’r stori wnaiff newid stori ein Cymru ni. Y stori am Deyrnas Dduw sydd ar gallu i newid bywydau unigolion, cymdeithas a chenedl gyfan.