Y cofnod yma yn Saesneg / This post in English

Mi fues i’n edrych ar lansiad maniffesto’r Ceidwadwyr heddiw. Roedd eu drwgdybiaeth cynhenid o’r Wladwriaeth yn dod drosodd fel thema ganolog unwaith eto. Dyma ddau ddelwedd sydd yn y maniffesto:

tory_graphics

Rwyf wedi dweud ar y blog o’r blaen fod cydymdeimlad gwirioneddol gyda mi gyda’r athroniaeth wrth-Wladwriaeth yma. I mi proses a system wleidyddol-weinyddol fodern ydy’r Wladwriaeth sy’n ei wneud yn wahanol i lawer o gylchoedd eraill oesol o fewn ein cymdeithas megis y teulu, cymuned, cenedl a chymunedau ffydd. I mi rôl y wladwriaeth ydy gwasanaethu’r endidau eraill yma ac nid ei lordio hi drostynt ac felly yn hyn o beth fe alla i gefnogi cri’r Ceidwadwyr beth o’r ffordd.

Dwi wedi rhannu’r dyfyniad yma ar y blog o’r blaen hefyd. Fe ddaw allan o lythyr gan R. Tudur Jones at Gwynfor Evans oddeutu 1980:

I mi mae’r hen bwyslais ar gydweithrediad, ar gryfhau cyfrifoldeb bro ac ardal, ar geisio creu cymdeithas aml ganolog, gyda’r Wladwriaeth yn cymryd ei lle fel ffurf gymdeithasol ymhlith llawer o ffurfiau cymdeithasol eraill, a’r cwbwl trwy ei gilydd a chyda’i gilydd yn galluogi pobl i fyw’n rhydd a ffyniannus – i mi, mae’r athrawiaeth hon yn dal yn berthnasol. Ac mae hi hefyd yn athrawiaeth sydd, yn fy nhyb i, yn gorwedd yn esmwythach ar gydwybod y Cristion na’r un arall.

Dwi’n cytuno gyda Tudur ar y pwnc yma, dydw i ddim yn credu mewn gwladwriaeth fawr. A dyna sydd i esbonio pam fod gyda mi beth cydymdeimlad a llif meddwl y Ceidwadwyr.

Fodd bynnag mae yn ddigonedd o bethau yn maniffesto’r Ceidwadwyr dydw i ddim yn gyfforddus a nhw. Er enghraifft, does dim sôn o gwbl am yr iaith Gymraeg ynddo a gan na lwyddodd yr LCO i drosglwyddo popeth yn ymwneud a’r Gymraeg i Gaerdydd, yn anffodus, mae peth cyfrifoldeb yn parhau yn Llundain. Mae’n amlwg hefyd fod y Ceidwadwyr, ar y cyfan, yn parhau i fod yn wrthwynebus i ddatganoli mewn gwirionedd. Mae nhw’n mynd allan o’r ffordd i ddatgan yn glir mae plaid unoliaethol ydyn nhw. Mae gen i barch at genedlaetholwyr sydd ar y dde fel Seimon Brooks ond does gen i fawr o barch at genedlaetholwyr sydd wedi ymuno a’r Blaid Geidwadol (neu’r Blaid Lafur o ran hynny) oherwydd does dim modd cysoni bod yn genedlaetholwr Cymreig a pherthyn i blaid unoliaethol Brydeinig.

Yn olaf, hyd y gwn i dydy’r maniffesto ddim ar gael yn Gymraeg. Dydy hynny ddim yn dderbyniol o gwbl.

Lawrlwytho’r Maniffesto (PDF)

Please follow and like us: