Dydd Sadwrn fe es i am dro i Gwyl (arall) yng Nghaernarfon i glywed John Gower yn sgwrsio gyda Mike Parker am ei lyfr newydd Map Addict. Roedd e’n sgwrs ddifyr iawn a dwi’n disgwyl ymlaen i ddarllen fy nghopi wedi ei arwyddo. Wel, dwi wedi bod yn brysur yn mapio hefyd – wnes i baratoi’r map isod yma i wefan Cymdeithas yr Iaith yn dangos beth fydd yn digwydd ble yn ystod wythnos steddfod ymhen llai na pythefnos.

Maen ddifyr a da eich bod chi’n medru gwneud mapiau rhyngweithiol syml fel yma heb ddim gwybodaeth am codio o gwbl.

Cliciwch ar y ddolen oddi tano i weld yn fwy:


View Eisteddfod 2009 in a larger map

Please follow and like us: