Rai wythnosau yn ôl aeth Dad a fi i weld beddi teuluol ym Mynwent Llanfihangel-y-traethau ger Harlech. Yn ogystal â dangos beddi’r teulu dangosodd fynwent Mary Evans neu Mari’r Fantell Wen, cyfrinwraig a sefydlodd gwlt rhyfedd yn yr ardal yn ail hanner y ddeunawfed ganrif ar sail yr honied ei bod hi wedi priodi Iesu Grist! Dywedodd Dad fod yr hanes i’w darllen yn Drych yr Amseroedd gan Robert Jones, Rhoslan a bues i’n ffodus i gael copi o stondin Gwynedd Williams yn y ‘steddfod. Argraffiad 1820 sydd gen i, sef yr ailargraffiad ac mae’r hanes i’w weld ar dudalen 153-155 yn hwnnw. Ond dyma deipio’r hanes er mwynhad darllenwyr y blog ac er budd y we Gymraeg.
Dwi wedi gadael y Gymraeg a’r gramadeg fel ag yr oedd yn y gwreiddiol. Mwynhewch!
“Yn fuan ar ol hyny daeth un arall yn gennad dros y diafol, o Fôn i Sîr Feirionydd. Ei henw oedd Mari Evans, gelwid hi yn gyffredin, Mari y fantell wèn. Gadawodd ei gwr a chanlynodd wr gwraig arall, gan haeru ill dau, nad oedd y bregeth gyntaf ond cnawdol, ac nad oedd yn bechod ei thòri; ond bod eu priodas hwy yn bresennol yn ysbrydol ac yn iawn. Buont ryw dalm o amser yn crwydro o’r naill wlad i’r llall, a bu iddi ferch o hwnw. O’r diwedd darfu iddo ei gadael, a hithau a wladychodd ger llaw y Traeth Bychan hyd ddiwedd ei hoes. Cafodd gan luaws mawr o ynfudion twyll yr ardal hono a Ffestiniog, hefyd Penmachno, a rhai mànau eraill, goelio ei bod yn un â Christ, ac mai yr un peth oedd dyfod ati a dyfod at Grist; a pha beth bynag a wnaid iddi, neu erddi, mai yr un ydoedd a phe gwnaethid ef i Grist yn bersonol.
Twyllodd ei dilynwyr i gredu ei bod wedi priodi cyfiawnder; danfonwyd iddi lawer o anrhegion at y briodas, a lluniwyd neithior odidog iddi yn Ffestiniog; gwisgwyd hi yn wych odiaeth, fel cangen hâf, ar gost ei chanlynwyr, gan ei harwisgo â mantell gôch gost fawr, gan fyned yn lluoedd, a hithau yn eu canol, i eglwys y plwyf, ac oddiyno i’r dafarn hyd yr hwyr, i halogi y Sabbath. Hi a berswadiodd ei disgyblion na byddai hi farw byth; [fel y rhith brophwydes hono, Johanna Southcott] ond er ei hammod ag angeu, a’i chynghrair ag uffern, cipiwyd hi ymaith oddiyno i’w lle ei hun: cadwyd hi yn hir heb ei chladdu, gan ddysgwyl yr adgyfodai drachefn.
Gellwch wybod ei bod yn dywyllwch a ellid ei deimlo yn yr ardal y cyfodd y fath fudrog a hon y gradd lleiaf o dderbyniad: ond gwir yw y gair, “Pan dybiont ei bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid.” Ond er i rai o’r trueniaid tywyll lynu wrth yr ynfydrwydd a soniwyd, dros amser ar ol marwolaeth eu heulun; eto diflanodd yn raddol o flaen efengyl gallu Duw.”
Stori wych! Diolch am ei rhannu Rhys.
Mae gennyf ryw frith gof o glywed y Parch O. M Lloyd yn traddodi sgwrs hynod ddiddorol am hanes Mari’r Fantell Wen, ond er chwilota rwy’n methu dod ar hyd i gofnod o’r ddarlith. Os gofiaf yn iawn roedd O. M. naill ai yn perthyn iddi neu yn perthyn i un o’i ddilynwyr. Roedd hanes O. M. yn creu darlun o ddynes llawer mwy diddorol a lliwgar nag hanes un Robert Jones, Rhoslan.
Ar un wedd ‘doedd Mari ddim yn unigryw, yr oedd hi’n dod o dras hir o ferched cyfrin / gwrachod Cymreig, ei hynodrwydd oedd ei bod hi wedi llwyddo i ennill cefnogaeth yn oes aur anghydffurfiaeth Cymru.
Ei phwysigrwydd hanesyddol yw ei rhôl pontio; hyhi oedd y wrach olaf a’r fenyw fodern cyntaf yng Nghymru. Hogan sy’n haeddu sylw ac ymchwil pellach er gwaethaf y ffaith ei bod yn fudrog ac yn ffiaidd.
Nid wyf yn ddiwynydd nac yn hanesydd , ond a oedd yn perthyn i’r un cyfnod a theithiau Howell Harries ?. A yw’n bosibl fod nifer o bobl yn gweld ei lwyddiant ac yn tybio y gallent hwythau gael rhyw sylw mewn rhyw ffordd ryfedd ? Yr oedd ofergoel yn llawer mwy diweddar yn marw o dir Cymru nac yr ydym yn tybio weithiau.
@Alwyn ap Huw – mae’n wir i nodi mae nid hanesydd niwtral oedd Robat Jones, Rhoslan, ddim o bell ffordd! Fodd bynnag, er ei bod hi, efallai, yn fwy o gymeriad nag oedd Rhoslan yn dymuno ei phortreadu does dim dwywaith mae dynes wnaeth dwyllo canoedd oedd hi yn bwydo ar eu ofergoeliaeth.
@HC Oedd, roedd yn perthyn i’r un cyfnod ish. Ac mae hanes yn dangos fod y twyllo/cymhlethdod yn cynnyddu wrth i weithgarwch crefyddol mwy legitimate gynyddu a dal gafael. Rydych chi’n gweld hyn yn y Testament Newydd er enghriafft wrth i Paul deithio o gwmpas – mae’n cyfarfod sawl Mari’r Fantell Wen ei ddydd e.e. Bar Iesu yn Actau 13. Dyna pam fod y Beibl yn ein rhybuddio fel hyn: “Gyfeillion annwyl, peidiwch â chredu pob ysbryd, ond profwch yr ysbrydion i gael gwybod a ydynt o Dduw, oherwydd y mae gau broffwydi lawer wedi mynd allan i’r byd.” [1 Ioan 4:1]