matt-chandlerMaen ymddangos, ymysg fy ffrindiau i o leiaf, fod llawer o’r hype o amgylch Mark Driscoll yn dechrau pylu. Mae hyn wedi golygu fod rhai o’m ffrindiau i wedi ymlwybro i wrando ar bregethwyr mawr, ond ifanc, eraill o’r UDA ac un o rheiny ydy Matt Chandler. Wnes i drio gwrando arno fe rai misoedd yn ôl ond i ddechrau cefais i fy nhroi ffwrdd gan ei lais isel grug. Ond wedyn dyma ddau beth yn digwydd wythnos yma a berodd i mi wrando eto ar Matt Chandler. Yn gyntaf y newyddion difrifol, yn dilyn seizure, fod y doctoriaid wedi ffeindio tyfiant yn ei ymennydd. Maen mynd am driniaeth frys i dynnu’r tyfiant a gwneud biopsy i weld os ydy’r tyfiant yn malignant ddydd Gwener. Yna, ar ôl clywed y newyddion difrifol yna fe es ati i drio gwrando mwy ar ddysgu Matt Chandler a dod ar draws y fideo hynod hynod bwerus yma. Dwi ddim am wneud unrhyw ddadansoddi, nid oes angen oherwydd mai ei neges yn ddigon plaen a phwerus fel y mae. Pedwar munud o fideo ydyw:

Ers cael fy ysgwyd gan yr angerdd dros yr efengyl sydd gan Matt yn y fideo yna dwi wedi gwrando ar rai pregethau. Dydy e ddim mor ddoniol ac outrageous a Mark Driscoll ond mae yna ddyfnder a grym heb ei ail gan Matt. Fe fydda i’n gweddïo drosto ef a’i deulu wrth ei fod yn wynebu’r driniaeth a’r profion ddydd Gwener. Maen od, er nad ydw i, wrth gwrs, yn adnabod Matt ac ein bod ni’n byw filoedd o filltiroedd i ffwrdd o’n gilydd rhywsut, gan ein bod ni’n dau yn fugeiliaid ifanc dros yr Efengyl, dwi wedi teimlo fod y newydd brawychus yma wedi effeithio un o’m cyd-weithwyr sydd yn ei dro wedi f’ysgwyd i.

Please follow and like us: