Roedd y rhan yma o’r daith mynd i fod yn heriol i ni gan y byddem ni yn dod wyneb yn wyneb ac agweddau ychydig bach yn fwy ceidwadol nag y byddem ni fel arfer yn gyfforddus gyda nhw (o’i esbonio mewn ffordd garedig)!
Er ein bod yn ymwybodol o’r peth cyn dod, o’i weld drosto ni ein hunain fe gawsom ni ein dychryn pa mor agos roedd ‘cristnogaeth’ a ‘gwleidyddiaeth adain-dde’ wedi ei briodi yn meddwl rhai pobl yma. Roedd y ddeu-beth wedi ei blethu mor agos yn eu meddyliau nes fod un gyfystyr a’r llall. Roedd arddel gwleidyddiaeth ‘adain chwith’ gyfystyr a chyfaddef nad oeddech chi’n Gristion ‘go-iawn’ (neu o leiaf yn un oedd wedi colli eich ffordd). Roedd sawl un felly yn methu a’n rhoi ni mewn i focsys gan ein bod ni’n cytuno a nhw ar sawl cwestiwn ffydd (yn ‘geidwadol’ yn ôl diffiniad rhai) ond wrth droi at fyw y bywyd Cristnogol yn y byd ein bod ni ar y chwith wrth bleidio rhinweddau gwladwriaeth les a’r alwad i fyw bywyd mor wyrdd a chynaliadwy a phosib (yn ‘ryddfrydol’ yn ôl diffiniad rhai). Fel dywedodd Jim Wallis wrth feddwl am efengylwyr fel William Wilberforce – rydym ni’n ‘nineteeth century evangelicals born in the wrong century’.
Wedi dweud hynny i gyd, penwythnos diwethaf fe wnaethom ni fwynhau a chael bendith wrth aros gyda ffrindiau yn ardal Lake Gaston, ardal wledig ar y ffin rhwng Virginia a North Carolina. Fe wnaethon ni eu cyfarfod llynedd pan wnaethon nhw ymweld a Chymru ar drip wedi ei drefnu gan John Robinson, bydd rhai o ddarllenwyr y blog yn ymwybodol o’r cysylltiad.
Buom ni’n aros gyda Marc a Vanessa yn eu tŷ hyfryd ar lan y llyn, roedden nhw’n gwpwl wedi ymddeol, yn wreiddiol o Michigan ond wedi ymddeol i’r de er mwyn dianc oddi wrth y gaeafau oer. Cawsom ni amser hyfryd gyda nhw – croeso cynnes a sawl sgwrs ddifyr am bopeth dan yr haul.
Mae Marc a Vanessa yn aelodau yn yr eglwys lle mae ein ffrind Patrick Edwards yn weinidog, eu heglwys yw Lake Gaston Baptist Church – eglwys sy’n gwasanaethu ardal wledig eang, y dref agosaf yw Littleton a dim ond ychydig gannoedd sy’n byw yn y dref honno. Ar ryw wedd felly roedd llawer yn gyffredin gyda’u cyd-destun nhw a chyd-destun llawer o eglwysi/gweinidogaethau yng Nghymru. Mae Littleton ei hun yn dref fach sydd wedi colli ei diwydiant ac yn amlwg ddifreintiedig heb llawer o arwyddion o obaith (swnio’n gyfarwydd?!). Mae’r ardal o gwmpas y llyn yn amlwg gyfoethog iawn (dychmygwch lleoliadau yn Dawson’s Creek – rhaglen i’r arddegau o’r 90au) ac mae cyfoethogion naill ai wedi ymddeol neu wedi prynu tŷ haf ger y llyn (swnio’n gyfarwydd?!). Mae’r bwlch rhwng y tlawd a’r cyfoethog yn amlwg. Roedden ni wedi cael gwahoddiad i fynd i dŷ un o aelodau’r eglwys sy’n byw wrth y llyn, ond wrth ofyn am gyfarwyddiadau i fynd yno yn y car, dywedodd ein ‘host’: ‘I’m not sure how to get there by road, I’ve only every been there by boat!’.
Un o’r pethau a’m denodd at Patrick pan wnes i ei gyfarfod am y tro cyntaf llynedd oedd ei barodrwydd i herio Cristnogaeth ddiwylliannol a cheisio creu eglwys mwy ‘missional’ yn seiliedig ar ‘missional communities’ (wedi’i ddylanwadu gan waith Tim Chester) a hynny yng nghanol ‘Bible belt’ y de. Yr hyn roeddwn yn ei edmygu am Patrick oedd ei fod yn ceisio herio ei eglwys i newid a hynny allan o sefyllfa o gryfder – roedd hi’n eglwys gymharol fawr gyda adnoddau anhygoel – ond roedd Patrick yn gwrthod mynd yn gyfforddus yn hyn.
Ar y dydd Sul ei destun oedd Effesiaid 2:14 – “Ac ydy, mae Iesu’n gwneud y berthynas rhyngon ni a’n gilydd yn iawn hefyd — ni’r Iddewon a chi sydd o genhedloedd eraill. Mae wedi’n huno ni gyda’n gilydd. Mae’r wal o gasineb oedd yn ein gwahanu ni wedi cael ei chwalu ganddo!” Wrth ddod at y cymhwyso roedd Patrick yn ddewr wrth herio yr eglwys yn yr Unol Daleithiau’n gyffredinol ynglŷn a’r broblem fod yna dal ‘eglwysi du’ ac ‘eglwysi gwyn’ ac hefyd herio ei eglwys ei hun nad oedd proffil socio-economaidd yr eglwys yn gynrychioliadol o broffil socio-economaidd yr ardal. Roedd hi’n amlwg fod Patrick yn lais proffwydol o fewn ei gyd-destun yn y ‘Bible-belt’ ac felly roeddwn yn falch o fedru ei alw’n ffrind ar sawl lefel a dangos cefnogaeth iddo yn ei ymgais i drawsnewid ei eglwys.
Gyda’r nos yn eu ‘fellowship supper’ fe gafom gyfle i rannu o’r llwyfan rhywfaint am Gymru a chyd-destun ein gweinidogaeth ni. Da oedd rhannu o brofiad y cyd-destun Cymreig o geisio gweinidogaethu ac arwain eglwys genhadol ei natur mewn diwylliant ôl-Gristnogol – y math o gyd-destun y bydd yn rhaid i lawer o eglwysi America wynebu dros y blynyddoedd nesaf wrth iddyn nhw wynebu seciwlareiddio tebyg i’r hyn sydd eisoes wedi digwydd yng Nghymru. Y prif beth roeddem ni’n ceisio ei rannu oedd fod seciwlareiddio, mewn ffordd, yn llesol i eglwysi sydd eisiau bod yn genhadol eu natur gan bod seciwlareiddio’n golygu fod Cristnogaeth ddiwylliannol yn marw allan ac yn rhoi lle i Gristnogaeth ‘go-iawn’ sy’n nes at Gristnogaeth y Testament Newydd i ail-afael. Roedd Patrick yn deall hyn, ond yn cyffesu fod llawer o’r genhedlaeth hŷn yma yn cael trafferth gollwng yn rhydd o’u Cristnogaeth ‘Christian Nation’ draddodiadol. Rydym yn gobeithio bydd y sgwrs yn parhau.
Gwych oedd cael cyfle wythnos yma hefyd i weld ein ffrindiau o Kingsport, Tenesee ddaeth draw i’n helpu ym mis Mai gyda’r gwaith adeiladu ar adeilad Caersalem.