browncameronUn o’r pethau mwyaf disglair dwi wedi darllen ers tro ydy ysgrif Richard Wyn Jones yn Barn mis yma yn esbonio pam fod y Torïaid yn gwbl anghymwys i lywodraethu yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni. Ymddengys fod buddugoliaeth Geidwadol yn yr etholiad Prydeinig nesaf bellach yn gwbl anorfod. Meddai Dicw; ‘go brin fod ’na unrhyw ddarpar lywodraeth yn hanes gwleidyddol diweddar Prydain sy’n llai cymwys i gymryd yr awenau na’r rhain.’ Fe bwyntia at ddau egwyddor graidd yn syniadaeth y Torïaid sy’n broblem ar hyn o bryd. Yn gyntaf eu ffydd di-ysgog yn y farchnad rydd a’r ail yw eu drwgdybiaeth sylfaenol o’r Wladwriaeth. Fe bwyntia Dicw allan fod y twll economaidd rydym ni wedi ein canfod ynddi wedi ei chreu oherwydd methiant rhagor na rhinweddau y farchnad rydd. Yna maen mynd ymlaen i esbonio y byddai hi ganwaith gwaeth arnom ni heblaw am ymyrraeth y Wladwriaeth yn prynu’r banciau allan.

Mi fues i’n gwrando’n astud ar araith David Cameron ddoe ac fe dynnodd sawl peth fy sylw. Yn gyntaf yr oedd ei ddrwgdybiaeth o’r Wladwriaeth, fel y’n rhybuddiwyd gan Dicw, yn dod drosodd fel thema ganolog. Dyma rai ymadroddion oedd yn sefyll allan i mi:

“State should be your servent not your master.”

“I belive in Society but it’s just not the same thing as the State.”

“We need stronger society not bigger Government.”

Maen rhaid i mi gyfaddef fod cydymdeimlad gwirioneddol gyda mi gyda’r athroniaeth wrth-Wladwriaeth yma. I mi proses a system wleidyddol-weinyddol fodern ydy’r Wladwriaeth sy’n ei wneud yn wahanol i lawer o gylchoedd eraill hŷn (os nad oesol hyd yn oed) o fewn ein cymdeithas megis y teulu, cymuned, cenedl a chymunedau ffydd. Y mae’r chwith er y Chwyldro Ffrengig mewn gwirionedd wedi dod i ddwyfoli’r Wladwriaeth ac wedi dod i’w defnyddio, neu ei gam ddefnyddio, i gyfiawnhau pob math o bethau o ddifa iaith a diwylliant i fusnesu mewn annibyniaeth cymunedau ffydd. I mi rôl y wladwriaeth ydy gwasanaethu’r endidau eraill ac nid ei lordio hi drostynt ac felly yn hyn o beth fe alla i gefnogi cri Cameron beth o’r ffordd.

Fe’m hatgoffwyd am gymal o lythyr ysgrifennodd R. Tudur Jones i Gwynfor gychwyn yr 80au pan oedd Plaid Cymru yng nghanol y ddadl ynglŷn a ddylai hi ddod allan a datgan ei bod hi “ar y chwith”. Dyma ddywedodd Tudur wrth Gwynfor:

I mi mae’r hen bwyslais ar gydweithrediad, ar gryfhau cyfrifoldeb bro ac ardal, ar geisio creu cymdeithas aml ganolog, gyda’r Wladwriaeth yn cymryd ei lle fel ffurf gymdeithasol ymhlith llawer o ffurfiau cymdeithasol eraill, a’r cwbwl trwy ei gilydd a chyda’i gilydd yn galluogi pobl i fyw’n rhydd a ffyniannus – i mi, mae’r athrawiaeth hon yn dal yn berthnasol. Ac mae hi hefyd yn athrawiaeth sydd, yn fy nhyb i, yn gorwedd yn esmwythach ar gydwybod y Cristion na’r un arall.

Am arddel y fath safbwynt mae sawl un wedi nodi wrtha i fod y syniadaeth yn debyg i ‘One Nation Conservatism’ (ideoleg adain chwith y Blaid Geidwadol). Wn i ddim am hynny, ond yn sicr dydy e’n ddim byd tebyg i’r hyn sy’n nodweddu’r Chwith Brydeinig na’i epil Cymreig (neu yng Nghymru y dechreuodd y cyfan dudwch?).

Wedi dweud hyn i gyd fydda i ddim yn troi fy nghot a chefnogi’r Ceidwadwyr oherwydd ar y cyfan mae eu ideoleg yn wrthun i mi fel Cristion. Un pŵer mawr ydy’r Wladwriaeth ac hyd y gwela i mae Cameron yn gwbl ddall i beryglon pwerau mawr eraill megis y farchnad rydd neu’r genedl “Brydeinig” y maen ceisio ei hail-gyfodi. O orfod rhoi teil socio-wleidyddol ar fy syniadaeth bersonol maen siŵr mae rhywbeth tebyg i “sosialaeth gymunedol” neu “sosialaeth ddatganoledig” fuaswn ni’n dweud. Ond yr hyn sydd o hanfod bwys i mi yw fod y gwir fflam wrth y llyw.

Mi wyraf weithiau ar y dde
Ac ar yr aswy law;
Am hynny arwain, gam a cham,
Fi i’r baradwys draw.

Please follow and like us: