Dwi wedi bod yn pwyso a mesur oblygiadau moesol clymbleidiau enfys. Waeth i ni fod yn gwbwl onest fod yna elfen o “mewn trwy’r drws cefn” ynghlwm wrth glymblaid enfys. A oes gan glymblaid enfys fandand gan yr etholwyr o gwbl? Ond wedyn a oes gan lywodraeth leiafrifol fandad gan yr etholwyr? Cwestiynau dyrys yn wir. Dyma set o graffiau pei sy’n dangos sut mae seddi’r Cynulliad wedi ei dosrannu. Y Blaid Lafur yn ddigon clir yw’r blaid fwyaf felly onid hwy sydd ar mandad?

Ond fel y gwelir yn yr ail graff mae gan yr enfys fwyafrif cyffredinol yn y Cynulliad felly onid hwy sydd a’r mandad? Gellid ennill y ddadl foesol yma o bosib.

Ond wedyn beth am yr Alban, dyma sut mae’r seddi wedi ei rhannu allan. Yr SNP yw’r blaid fwyaf o drwch blewyn felly maen rhaid mae nhw sydd a’r mandad siŵr iawn?

Ond wedyn eto yn yr ail ddrafft onid y glymblaid enfys gwrth-SNP, gwrth-Annibyniaeth sydd a’r fandad mwyaf? Gellid ennill y ddadl foesol yma hefyd!

Felly o gymharu sefyllfa Llafur yng Nghymru gyda sefyllfa’r SNP yn yr Alban gellid gweld dau ochr y geiniog i fandad gyfiawn, ai peidio, clymblaid enfys. Yr unig beth sy’n sicr yw diffyg mandad Llafur i lywodraethu yn hegomonaidd bellach yng Nghymru a’r Alban. Pinau a ydy oes mandad i Lywodraeth Enfys wedi cyraedd ai peidio – dwi ddim yn siwr.

Please follow and like us: