Gyda cryn ddiddordeb bues i’n dilyn hanes y llanw uchel a’r stormydd fu’n taro fy hen dref, Aberystwyth, dros y diwrnodau diwethaf.Roeddwn wrth fy modd yn gweld y lluniau diweddaraf ar y rhwydweithiau cymdeithasol, ond hefyd yn teimlo dros y perchnogion busnes a’r myfyrwyr oedd yn gorfod dianc am loches.
Lluniau: Iestyn Hughes
“Mae Promenâd Aberystwyth”, meddai Sion Jobbins wrth drydar, “fel Maes yr Eisteddfod – pawb yno, pawb yn sgwrsio, hel clecs a mwynhau.”Dywedodd yr academydd Simon Brooks, gyda’i dafod yn ei foch mae’n siŵr, mai dyma oedd y “difrod mwya i dref Aberystwyth ers gwrthryfel Glyndŵr.”
Y Prom sydd yn diffinio Aberystwyth.
Os ydych chi am gael llun nodweddiadol o’r dref, rhaid iddo fod yn lun o’r Prom. Os ydych chi am fynd am dro, rhaid i chi fynd am dro ar hyd y Prom, gan gofio cicio’r bar wrth gwrs. Glaw neu hindda, y Prom yw’r lle i fod.
Ond bellach, fe chwalwyd y Prom yn ddarnau.
Yn naturiol daw un o ddamhegion Iesu i’r cof – y ddameg honno ynglŷn a’r adeiladwr gododd dŷ ar y tywod a’r adeiladwr arall gododd dŷ ar y graig. Ac efallai bod y stormydd yn cadarnhau neges sylfaenol y ddameg – bod angen sylfaen gref – i’n hadeiladau ac hefyd i’n bywydau ni. Efallai fod stormydd Aberystwyth yn ein hatgoffa o hen wirionedd yr hen ddameg – i ni gofio adeiladu ein bywydau ar graig yr oesoedd?