Mae Mynydd Mawr (neu Elephant Mountain) yn un o’r mynyddoedd yna mae pawb yn gyfarwydd a’i weld gan ei fod yn taro ei gysgod dros Waunfawr un ochr a dros Ddyffryn Nantlle yr ochr arall ac mae modd ei weld yn glir o Gaernarfon. Mae’n fynydd dwi wedi bod ag awch ei ddringo ers tro a heddiw (“minister monday”) es amdani.

Mae’r daith yn cychwyn yn Rhyd-Ddu, gadewais fy nghar o flaen y Cwellyn Arms ond mae lle hefyd yn y maes parcio nes ymlaen. I fyny’r lôn tuag at Ddyffryn Nantlle wedyn troi i mewn i Goedwig Rhyd-Ddu. Mae’r ffordd trwy’r goedwig yn hawdd iawn ac ymhen ychydig dowch chi i fan lle mae’r coed wedi’u torri a cewch yr olygfa hyfryd yma o Lyn Cwellyn.

Llyn Cwellyn

Yn eich blaen am ychydig drwy’r goedwig ac mi fydd y llwybr y hollti, peidiwch mynd yn eich blaenau ond yn hytrach trowch i’r chwith i fyny trwy’r coed nes i chi ddod allan i’r llethrau a gweld Clogwynygarreg o’ch blaen.

Dyffryn Nantlle

Troi i’r dde a dilyn ymyl y cae i fyny trwy’r caeau at droed llethrau Foel Rûdd, a dyma lle mae pethau’n dechrau mynd yn anodd. Mae’r llwybr ei hun yn lwybr da, ond mae’n lwybr tu hwnt o serth erbyn y rhan olaf. Mae rhai gwefannau yn nodi ei fod yn lwybr addas ymhob tywydd ond byddwn i ddim wedi dymuno dringo’r llethrau yma mewn tywydd gwlyb.

Moel Rhûdd

Ar ôl cyrraedd copa Foel Rûdd mae’r rhan anodd tu ôl i chi ac mae’r llwybr ar hyd y grib i Mynydd Mawr yn gymharol hawdd. Cofiwch edrych dros ymyl dibyn Craig y Berea i lawr am Ddrws-y-coed a gweld y capel lle roedd Niclas y Glas, y Comiwnydd enwog, yn Weinidog!

Drws-y-coed a Craig y Bera

Yn eich blaen wedyn i ben Mynydd Mawr lle dois ar draws Bryn oedd yn gweithio i’r Cyngor Cefn Gwlad oedd yn adnabod Owain Schiavone. Mynydd Mawr ond byd bach! Er ei bod hi’n ddiwrnod hynod o braf aeth hi’n gymylog braidd pan oeddwn i ar y copa felly ches i ddim lluniau da iawn o ben y mynydd yn anffodus.

Mynydd Mawr

Mae modd cerdded ymlaen ac i lawr i gyfeiriad Moel Tryfan a Rhosgadfan ond fe es i nol yr un ffordd i Ryd-Ddu. Roedd y darn serth i lawr llethrau Foel Rûdd yn anodd ar y ffordd i lawr hefyd.

Dyma ddiagram yn dangos elevation y daith:

Cymerais i 3 awr i ddringo’r mynydd a 2 awr i fynd nol lawr. Ond cofiwch, dwi ddim yn ffit o gwbl ac mi roeddwn i’n stopio’n aml. Mae’n debyg y byddai rhywun rownd ei bethau’n medru ei wneud yn hanner yr amser.

Bydda i methu cerdded yn iawn am wythnos nawr, ond profiad boddhaol iawn!

Please follow and like us: