Dwi wedi darllen mwy o lyfrau ar hanes Cymru, ac yn benodol am hanes yr eglwys yng Nghymru, nag sy’n iach i unrhywun. Pan gyhoeddwyd ‘A History of Christianity in Wales’ gan David Ceri Jones, Barry J Lewis, Madeleine Gray a D. Densil Morgan fy ymateb cyntaf oedd: pam fod angen llyfr arall ar y pwnc?! Wel, roeddwn i’n anghywir yn fy nrwgdybiaeth oherwydd mae’r gyfrol dwt awdurdodol Saesneg hwn yn crynhoi’r stori mewn ffordd nad oes unrhyw lyfr arall cweit yn gwneud.
Ond y rheswm pam mod i am roi sylw i’r gyfrol yw oherwydd ei bod yn cynnwys pennodau hynod werthfawr yn trafod y ffydd yng Nghymru o’i dechreuadau, trwy’r cyfnod Rhufeinig ac “Oes y Seintiau” hyd y goncwest. Mae hwn yn gyfnod lle mae yna brinder ffynonellau ac o ganlyniad nid oes llawer o bethau safonol wedi eu cyhoeddi am y cyfnod. Oherwydd y tlodi academaidd hwn mae sawl “myth” wedi codi am “Gristnogaeth Geltaidd”.
Mae ‘origin story’ yn bwysig iawn i bobl, ac yn arbennig felly unrhyw eglwys Gristnogol. Beth yw ein gwreiddiau? Sut y daeth y newyddion da am Iesu Grist yn gyntaf i’n tir? Mae “myth” ein ‘origin story’ yn ein cynorthwyo i ddeall pwy ydym ni heddiw a’n hysbrydoli drachefn.
Felly beth am ddechreuadau’r eglwys Gristnogol yng Nghymru? Ar ôl i Grist gael ei groeshoelio tua 33 OC, ymledodd y grefydd newydd o gwmpas Môr y Canoldir, yn dilyn y llwybrau masnach arferol ar dir a môr. Mae’n bosib na ddaethai’r newydd am Groesholiad ac Atgyfodiad Iesu Grist i Ynysoedd Prydain am rai degawdau eto, ond fel mae Barry J Lewis yn esbonio yn y llyfr mae rhoi dyddiad buan yn bosib hefyd. “It is easy,” meddai, “to imagine some Christian merchant or official or soldier happening to have business in Britain, even within a few years of the crucifixion.”
Felly, nid yw’n amhosib y byddai llygaid dystion i Weinidogaeth Paul yn Rhufain wedi gallu dod a’r newydd a’r ddysgeidiaeth am Iesu Grist i Brydain. Wrth gwrs, ni ellir profi hyn, ond ni ellir ei wrthbrofi chwaith!
Er nad oes tystiolaeth glir fod yr eglwys wedi bwrw gwraidd yn gynnar ym Mhrydain mae Barry J Lewis yn esbonio mai “eglwysi tŷ” y byddai’r eglwysi yn y dyddiau cynnar ac y byddai’n amhosib i archeolegwyr (ac felly haneswyr) eu gwahaniaethu oddi wrth dai cyffredin. Felly anweledig yn hytrach na bod yn absennol ydy’r dystiolaeth o fodolaeth yr eglwys gynnar ym Mhrydain.
Roedd rhaid aros tan y flwyddyn 314 cyn bod yna dystiolaeth gadarn fod yr Eglwys Gristnogol wedi ymsefydlu ym Mhrydain fel sefydliad a hynny oherwydd ei fod wedi ei ddogfennu fod tri Esgob o Brydain wedi mynychu cyngor eglwysig yn Arles y flwyddyn honno.
Erbyn 400 roedd dylanwad yr Ymerodraeth Rufeinig ym Mhrydain wedi pylu – ond, fel mae Dafydd Iwan yn ein hatgoffa – fe’n gadawyd yn genedl gyfan! Parhaodd yr Eglwys Gristnogol i ennill tir, a hynny’n bennaf ymhlith y dosbarth llywodraethol tra roedd y werin, ar y cyfan, yn parhau i ddilyn ofergoel a defodau lleol fwy na thebyg.
Ac felly, ymlaen at Oes y Seintiau a’r cwestiwn o gylch “Cristnogaeth Geltaidd”? Nid yw Barry J Lewis yn defnyddio’r term “Cristnogaeth Geltaidd” oherwydd ‘there was no Celtic church’. ‘Historians,’ meddai Lewis, ‘began abandoning the idea from the 1970s.’ Er rhamantiaeth y peth, mae Barry Lewis yn esbonio nad oes yna dystiolaeth fod i’r eglwys Geltaidd unrhyw nodweddion unigryw a bod y syniad o “Gristnogaeth Geltaidd” yn myth llawer mwy diweddar. Yn un peth, ni welai’r Celtiaid eu hunain fel Celtiaid.
Ond beth felly am “Ysbrydolrwydd Celtaidd” (Celtic Spirituality)?
Mae’r syniad yma yn un fwy niwlog ond yn fras credir fod ysbrydolrwydd Celtaidd wedi pwysleisio diddordeb arbennig mewn natur a’r byd naturiol, pwyslais ar ffydd a buchedd bersonol, ac agwedd anarferol o gynhwysol i’r cyfnod tuag at ferched. Yn ôl Barry Lewis mae peth tystiolaeth mewn rhai testunau Gwyddelig a Cymreig y gellid ei ddefnyddio i ddadlau hyn ond fod y darlleniad hwnnw yn un tra dewisol. Dadleua fod y darlleniad a’r ddealltwriaeth yma o Gristnogaeth ac ysbrydolrwydd Celtaidd yn fwy i wneud gyda Christnogion modern yn trio chwilio am eu ‘origin story’ yn gymaint â realiti hanesyddol.
Grym myth fel realiti – Gwyn Alf Williams
Ond nid yw’r ffaith fod rhywbeth yn ‘myth’ yn ei wneud yn gwbl ddiwerth. Ystyriwch sut mae’r hanesydd Gwyn Alf Williams yn deall rôl myth mewn hanes: “What people believed to have been true,” meddai Gwyn Alf, “particularly if they acted upon it, is as significant to history as what was actually true. Myth itself can become an operative historical reality.”
A dyma, yn y bôn yw casgliad Barry Lewis am Gristnogaeth ac ysbrydolrwydd Celtaidd:
“There can be no objection at all to modern Christians going back to early medieval texts in search of whatever might be of benefit to their own personal spiritual needs, choosing what is helpful and laying aside what is disagreeable or unacceptable. Early Irish and Welsh religious literature is rich and often still speaks to today’s Christians, who have the perfect right to approach this spiritual inheritance of the Christian past for guidance.”
Rôl Barry Lewis fel hanesydd yw edrych yn ôl i weld beth sydd yn wir a chywir, ond efallai mai fy rôl wahanol i fel arweinydd eglwysig heddiw yw edrych yn ôl i weld beth allwn dynnu o’r traddodiad sy’n ddefnyddiol wrth ysbrydoli pobl yn eu ffydd heddiw a chreu ohono ein ‘operative historical realiti’ ni.