Nos Fercher yn Llanw roedd hi’n grêt clywed Nan Powell-Davies, Caplan Cymraeg Carchar Altcourse, Lerpwl yn sôn am ei gwaith. Bydd modd darllen trawsgrifiad o rannau o’r sgwrs yn rhifyn nesaf Cristion. Dyma ragflas i chi, ac os ydych chi am weld a chlywed y sgwrs yn ei chyfanrwydd gwyliwch y fideo isod:
Dwi’n gweithio ers pedair mlynedd yng ngharchar Altcorse, Lerpwl, carchar sy’n gartref i fil tri chant o ddynion, i’r carchar yma mae dynion gogledd Cymru i gyd yn mynd. Os glywch chi fod rhywun wedi troseddu yn y gogledd, dod atom ni am bed & breckfast maen nhw! Dwi’n gweithio fel caplan yn y carchar sy’n fraint anhygoel. Mae’n beth trist iawn i mi glywed gymaint o Gymraeg ar y buarth yn y carchar, trydedd o’r dynion yn dod o Gymru a llawer o rheiny yn siaradwyr Cymraeg.
Pan ddechreuais weithio yn y carchar roedd hi’n ddoniol fod llawer o’r dynion yn fy adnabod ac roedd rhaid i mi esbonio i’r Gov fod yr hwn ar llall yn yr ysgol efo fi a’r hwn arall yn adnabod rhywun o fy nheulu, a fod yr holl “Iawn boi†roeddwn ni yn eu cael ddim yn amheus!
Yr hyn sy’n drist am ogledd Cymru yw fod cyffuriau wedi chwalu cymunedau cyfan o bobl ifanc. Rai blynyddoedd yn ôl roedd 25% o ddynion ifanc Blaenau Ffestiniog rhwng 18-25 oed yn y carchar. Mae hynny yn syfrdanol. Dyna destun gweddi i chi. Yr unig beth all wir eu hachub o dwll ail-droseddu, er yr holl wasanaethau sydd ar gael yn y carchar, ydy dod i berthynas efo Iesu Grist. A does yna ddim lal-di-dal neis neis yn digwydd yn y carchar, rydym ni’n cael rhyddid i bregethu’r efengyl yn ei phurdeb oherwydd dyna mae’r dynion ei hangen ac yn ei werthfawrogi. Does dim pwrpas pregethu’r efengyl wedi ei ddyfrhau i bobl sydd angen yr ateb, sef Iesu Grist a’i groes, ar amrantiad.
Dwi’n teimlo fod Duw wedi bod ar waith yn ystod y cyfnod dwi wedi bod yma. Rydym ni wedi gweld degau o ddynion ifanc yn dod i’r bywyd a dwi wedi cael y fraint o fynd i wasanaethau bedydd plant rhai ohonynt. Dwi’n cofio un dyn ifanc yn arbennig yn dweud wrtha i ac acen Lerpwl gref: “I remember thinking that I’d come in with nothing and go out with nothing, but I’ve come in with nothing and I’m going out with Jesus in my heart.†A phan ‘dy chi’n clywed pethau fel ‘na dy chi’n cael eich calonogi yn y gwaith.
Y fideo o’r sgwrs yn ei gyfanrwydd:

