Fuesi yn Nghymanfa Bedyddwyr Arfon heddiw, roedd yn dipyn o brofiad. Yn syth ar ôl i mi gyrraedd y peth cyntaf oedd rhaid i mi wneud oedd mynd o flaen Bwrdd y Weinidogaeth sef fy ngweinidog Parch. Olaf Davies, fy athro Parch. Ath. Densil Morgan, fy mos Parch. Aled Davies, hen ffrind i’r teulu Parch. John Treharne, hen gyfaill i tad-cu Parch. Denis Young a Parch. Mair (rhywbeth, sori dwi ddim yn cofi ei steil hi) cyn-genhades o’r India! Roedden nhw’n holi fi’n gyntaf i ddweud gair o dystiolaeth am fy nhaith ysbrydol ac yna yn holi mi esbonio ym mha ffordd ro’ ni wedi teimlo arweiniad Duw i roi fy hun mlaen i’r weinidogaeth. Roedd cyfle wedyn i aelodau’r Bwrdd groes holi – ond ni chafwyd unrhyw gwestiynau anodd a hynny oherwydd fod aelodau’r Bwrdd, ar y cyfan, yn fy adnabod i’n reit dda eisoes ac felly, gobeithio, yn fy adnabod ddigon da i adnabod a thystio fod yr alwad gan yr Arglwydd ac nid wedi dod o fy mhen a fy mhastwn i fy hun. Wedyn trwyddo a ni i’r Gymanfa ei hun a chael ein cynnig (roedd fy ffrind Aron yn cael ei dderbyn fel ymgeisydd heddiw hefyd) gan y Bwrdd i’r Gymanfa dderbyn ein ymgeisyddiaeth.
Roedd heddiw yn ddiddorol iawn oherwydd ar un llaw roeddem ni’n gweld yr hen drefn fawr enwadol yn anadlu eu hanadl olaf, nid am byth, ond fel y mae hi wedi cael ei hadnabod ers canrif a mwy. Ond ar y naill law y neges bendant oddi wrth aelodau Bwrdd y Weinidogaeth ac hefyd gan hen aelodau llawr gwlad Bedyddwyr Arfon wrth sibrwd yn ei hanadl olaf yn ei threfn bresennol fel petai oedd eu bod am ddymuno pob bendith a rhyddid i Aron a Fi yn ein gweinidogaethau newydd dros y blynyddoedd nesaf. Nid oedd yna unrhyw ymgais heddiw i’n dal ni nol ac i’n ffrwyno ni – i’r gwrthwyneb – roedd yna awch bendant i fod yn gymorth i ni – i’n harfogi – a gweld tystiolaeth y Bedyddwyr i waith Crist yn parhau yng Nghymru a hynny mewn ffordd, mwy na thebyg, cwbwl wahanol i’r hyn roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi ei arfer ac yn gyfforddus ag ef.
I orffen y diwrnod fe gafwyd pregeth ar y testun:
Felly, fy nghyfeillion annwyl, byddwch yn gadarn a diysgog, yn helaeth bob amser yng ngwaith yr Arglwydd, gan eich bod yn gwybod nad yw eich llafur yn yr Arglwydd yn ofer. (1 Corinthaid 15:58)
Roedd yn neges amserol iawn dwi’n meddwl oherwydd roedd y lle’n llawn o bobl oedd wedi bod yn ddiwyd yn cadw achosion y Bedyddwyr i fynd yn Arfon ers degawdau a llawer yn llythrennol yn gweld dim ffrwyth. Ond heddiw wrth i’r Gymanfa dderbyn fi ac Aron i’r weinidogaeth fe gafodd y bobl yma oedd wedi cadw’r ffydd gyhyd rhyw lygedyn o obaith ac fe gawsom ni gadarnhad, mewn ffordd, nad oedd eu llafur yn yr Arglwydd yn ofer fel mae’r adnod yn dweud. Ond y cysur i bawb ac yn arbennig i Aron a fi oedd mae nid ein llafur ni oedd y gwaith ond yn hytrach llafur yn yr Arglwydd a dyna fyddai’n gwarantu llwyddiant.
Yr her nawr i fi ac i Aron ydy darganfod, trwy arweiniad yr Ysbryd Glan, beth yw “gweinidogaeth” yng Nghymru’r Ugeinfed Ganrif? Dwi’n dal i gredu mae trwy’r eglwys leol mae Duw eisiau i ni dystiolaethu ond wrth gwrs mae rhaid i’r eglwys leol ddatblygu strategaethau a gweinidogaethau radical newydd. Beth yw anghenion dyfnaf ein cenedl a’n cymunedau? Sut mae torri trwyddo a gweld Crist yn trawsffurfio bywydau unigolion a chymunedau Cymru unwaith eto? Mae Duw wedi rhoi rhai syniadau a rhai gweledigaethau ar fy nghalon eisoes ond am nawr dwi am barhau i weddïo a meddwl pethau trwodd a rhannu rhyw fymryn o dro i dro ar y blog dros yr haf.
Clod i Dduw x
Dymuniadau gorau, Rhys!
Pob bendith Rhys!