Nid Oes Efengyl Arall (2/2)

…parhad o’r postiad blaenorol

Peth peryglus iawn a rhywbeth na ddylid rhuthro i mewn iddo yw honni mai eich dehongliad chi o destun Beiblaidd sy’n gywir a’ch dealltwriaeth chi o efengyl Crist yw’r unig ddehongliad posibl. Afraid dweud mai rhybudd rhag gwneud hynny a geir yn adnod wyth; nodir dwy ffynhonnell bosibl y gall gau-efengyl ddeillio oddi wrtho. Mae’n bosib mai’r ffynhonnell beryclaf yw ni ein hunain – mae’n bosib i’r unigolyn arddel dehongliadau anysgrythurol. Fel gyrru car dros gyfnod hir o flynyddoedd mae’n ddigon hawdd magu arferion gwael – mae’r un peth yn wir am ein ffydd ni – mae’n ddigon hawdd ychwanegu rhai o’n syniadau bach ni ein hunain gan gymhlethu gair syml Duw. Mae’n bosib gwyro oddi wrth y gwirionedd yn anfwriadol wrth i draddodiad ac arfer beri i ni golli golwg o’r Beibl. O bryd i’w gilydd fe ddylai bob un ohonom werthuso’n dehongliadau ni o Air Duw – edrych yn feirniadol ar ein dehongliadau a bod yn barod i gydnabod ein camgymeriad. Wrth ystyried ac efallai gwrthwynebu dehongliadau gwahanol i’ch dehongliad chi o’r efengyl maen llesol i ni oll wneud hunan-asesiad o’n dehongliad ni.

Yr ‘angel o’r nef’ yw’r ail ffynhonnell bosib o gau-efengyl. Nid oes cytundeb ymhlith esbonwyr ynghylch ystyr y cymal hwn, ond derbynnir mai’r esboniad mwyaf tebygol yw y dylid trafod unrhyw ddehongliad a honnir sydd wedi dod ‘o’r nef’ yn ofalus. Gellid edrych ar ddechreuadau’r Mormoniaid fel cyfeiliornad a ddechreuwyd wedi i’w sylfaenydd Joseph Smith honni iddo dderbyn datguddiad gan angel o’r enw ‘Moroni’ a ddywedodd wrtho lle y cai ganfod platiau aur a oedd yn sylfaen maes o law i Lyfr y Mormon oedd i’w ystyried yn lyfr awdurdodol sanctaidd. Nid yw honiadau o broffwydoliaethau yn rhywbeth cwbl ddieithr i ni’r Cymry; ceir adroddiadau lu o unigolion ac arweinwyr mewn cyfnod o fendith yn derbyn proffwydoliaethau a gweledigaethau. Rhaid gwahaniaethu rhwng proffwydoliaeth neu weledigaeth sydd a’i neges yn sylfaenol Feiblaidd a neges sy’n gyfeiliornad o neges efengyl gras Crist. Profwch yr ysbrydion, meddai Ioan yn ei Epistol Cyntaf, ac mae’n gosod safonau pendant iawn i’w profi.

Geiriau difrifol a sobreiddiol iawn a geir ddiwedd adnod wyth ac yn adnod naw. Mae Paul yn rhybuddio am felltith ddaw ar bawb sy’n pregethu efengyl a honno’n groes i efengyl Crist. Mae’n ddiddorol bod Paul yn ail-adrodd hyn ddwy-waith a hynny er mwyn pwysleisio’i bwysigrwydd. Mor ysgafn a ffwrdd a hi yw ein hagwedd heddiw at gymalau fel hyn o’r Beibl; ystyrir hi’n dderbyniol fod yna sawl dehongliad gwahanol o efengyl Crist i’w gael – yn wir, peth amheuthun ydyw. Mae gwirionedd yn rhywbeth absoliwt ac ni allaf i yn fy nghalon na’m rheswm dderbyn fod modd credu mwy nac un efengyl.

Beth a wnawn ni o hyn felly? Pa wersi sydd i’r Eglwysi a Christnogion Cymru heddiw yn yr adnodau yma? Maen gwbl glir o’r adnodau hyn mai dim ond un Efengyl sy’n bod, ac ni allaf i lai na llwyr gredu trwy ffydd mai efengyl gras Crist ydyw. Fel y dywedodd yr emynydd ‘Pa Dduw sy’n maddau fel tydi, yn rhad ein holl bechodau ni?’ Ni welaf i fod yr un ‘dealltwriaeth’ neu ‘ddehongliad’ newydd yn rhagori ar y cyfamod a wnaed unwaith ac am byth i achub defaid difancoll Duw, ‘nid ie a nage yw.’ Fel Paul, rhaid i ni bregethu efengyl gras yn ei symlrwydd a’i rym di-hafal i Gymru unwaith yn rhagor a rhoi’r gorau i athronyddu mewnblyg a hunandosturiol.

Please follow and like us:

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.