Dwi wedi fy nhristau dros yr wythnosau diwethaf o weld cefnogwyr dall Plaid Cymru yn troi’n bersonol yn erbyn cenedlaetholwyr eraill sydd yn feirniadol o bolisi ag agwedd bresennol y Blaid tuag at yr iaith. Does neb wedi bod yn fwy beirniadol o’r Blaid na fi, ond beirniadaeth ideolegol o’r Blaid a’i arweinwyr ydyw, dydw i erioed wedi mynd yn bersonol. Ond maen amlwg fod rhywrai o fewn y Blaid yn methu delio gyda hyn. Mae’n bosib eu bod nhw, cofiwch, yn cam-ddehongli beirniadaeth ideolegol fel beirniadaeth bersonol. Os ydyn nhw’n methu a gwahaniaethu rhwng ergyd ideolegol a phersonol yna mae yna ddiffyg aeddfedrwydd difrifol yna.
Hyd y gwela i un gwendid ideolegol sydd wedi amlygu ei hun ymysg llawer o arweinwyr hŷn ac ifanc y Blaid dros yr wythnosau diwethaf yw eu methiant i ddeall fod y mudiad cenedlaethol yn fwy na’r Blaid. Nid Plaid Cymru yw’r mudiad cenedlaethol. Mae’r Blaid yn rhan o’r mudiad cenedlaethol wrth gwrs, ond dim ond un adain o’r mudiad. Felly dydy beirniadu Plaid Cymru ddim gyfystyr a beirniadu a bradu’r mudiad cenedlaethol. Ymddengys fod llawer o fewn Plaid Cymru yn methu delio gyda hyn. Os ydy Plaid Cymru yn nes at y Blaid Lafur nac ydyw at Gymdeithas yr Iaith bellach yna maen amlwg pwy sydd ar ymylon y mudiad cenedlaethol a phwy sy’n dal wrth y garreg sylfaen.
Mae llawer i weld fel pe tae nhw’n trin y Gymdeithas fel plaid wleidyddol yn hytrach na grŵp pwysau. Ac felly pan fo’r Gymdeithas yn beirniadu Plaid Cymru mae nhw’n ymateb yn yr un ffordd ac os byddai’r feirniadaeth wedi dod o dŷ’r Ceidwadwyr neu blaid wleidyddol arall. Dyna sydd i esbonio, o bosib, pam fod Golwg yn cwestiynu pa mor briodol ydy hi i gefnogwyr Cymdeithas yr Iaith hefyd i fod yn ymgeiswyr dros y Blaid. Mae’r peth yn bizzare oherwydd mae pobl fel Jill Evans wedi bod yn flaenllaw gyda mudiadau fel CND, Leane Wood gyda mudiadau adain chwith ayyb… heb unrhywun yn holi os yw hynny’n briodol iddyn nhw fel Pleidwyr. Pa beth all fod yn fwy priodol a naturiol i ymgeisydd Plaid Cymru na chael enw iddo fe ei hun fel un sydd wedi ymroi i frwydr yr iaith Gymraeg.