Y llyfr diweddaraf i mi ddarllen yw Nonconformist gan Jane Parry, darn ffeithiol-greadigol Saesneg sy’n olrhain hanes teuluol yr awdur gan ganoli ar un o arloeswyr ymneilltuaeth y ddeunawfed ganrif ym Môn sef Wiliam Pritchard. Ar ôl cyfnod byr o fyw yn Llydaw symudodd yr awdur i Ynys Môn ac yn ddiarwybod iddi dyma hi’n byw yn hen gartref ei theulu, dyma ddechrau taith o hunan ddarganfod ei threftadaeth ddiwylliannol ac ysbrydol a cheisio gwneud synnwyr o’r ffaith fod y teulu wedi troi o fod yn ymneilltuwyr uniaith Gymraeg i fod wedi colli’r Gymraeg ac yn eglwyswyr o fewn cenhedlaeth – ac yna hiraeth ac ymgais yr awdur i ailfeddiannu ei threftadaeth.

Mae rhan gyntaf y llyfr yn sôn am gefndir yr awdur yn dod i glywed yn gyntaf am ei hanes teuluol, mae rhan ganol (a’r rhan hwyaf o bell ffordd) yn adrodd hanes bywyd William Pritchard ar ffurf ffeithiol-greadigol, ac yna mae’r rhan olaf yn neidio i’r ugeinfed ganrif ac yn sôn am golled ac adferiad y Gymraeg yn y teulu. 

Mae y rhan ganol yn wirioneddol wych, i chi wnaeth fwynhau Sgythia gan Gwynn ap Gwilym, yna dyma gyfrol arall fydd at eich dant rwy’n siŵr. Mae’n adrodd hanes cymdeithasol crefydd a diwylliant mewn ffordd gyffrous a byw iawn wedi ei bersonoli ar hanes un teulu sydd â stori ddiddorol ac arwrol. 

Y PORTREAD O BROFIADAU CYFRINIOL

Mae’r hanes yn dechrau gyda gwawr y Diwygiad Methodistaidd a lledaeniad ysgolion cylchynol Griffith Jones a theithiau pregethu Howel Harris. Eglwyswr ffyddlon oedd Wiliam Pritchard tan iddo gael ei brofiad ffordd i Ddamascus ei hun tra ar y ffordd adref, yn ôl y chwedl, o gynhebrwng ei Fam ac yntau ychydig yn chwil. Yn ei feddwdod mae’n colli ei ffordd ac yn cyrraedd fferm ei gymydog yn hytrach na’i fferm ei hun. Mae Francis ei gymydog yn un o’r bobl ryfedd yma sydd wedi ymuno a sect o ymneilltuwyr a sefydlu achos Capel Helyg, Llangybi. 

Fin nos tu allan i ffermdy ei gymydog mae Wiliam yn ei glywed yn gweddïo, a dyma’r portread hyfryd a phwerus gan Jane Parry o’r dröedigaeth ddramatig:

Francis prays for forgiveness, for himself and his family, his unknowing friends and neighbors, and finally Wiliam hears the old man praying for him. In the farmyard, Wiliam feels a sheet of white light enter the crown of his head and flow into his body, down his neck, across his shoulders, into his chest and lungs. It flows through every organ – muscles, nerves and bones, deep into his being. Down the length of his arms, he feels old energy released through the palms of his hands, through the tips of his fingers, into the night air and in its place comes this new limitless white light. In an instant he understands himself to be as one with all things, a part of the whole cosmos. The light permeates his whole body, into his stomach, down his legs into his feet planted firmly on the ground. The light is steady and brilliant, like the sun’s glare on still water. Old man Francis, having finished his prayers, takes the light and heads up the stairs. Wiliam turns silently for home, finding his way this time as easily as though it were daylight.

Dwi’n gweld y portread yma o dröedigaeth ddramatig Wiliam yn hardd iawn. O safbwynt diwinyddol, mae yna gwestiynau wrth gwrs – dim sôn am Iesu yn un peth! A’i’r hyn sydd yma yw disgrifiad o dröedigaeth yntau disgrifiad o rywun yn cael ei lenwi gyda’r Ysbryd Glân? Yntau’r ddeubeth? Ond wedyn rhaid cofio nad diwinydd yw’r awdur ac mai nofel yw hon nid cofiant gyda gogwydd diwinyddol. Ac felly wrth gadw hynny mewn cof mae’n werthfawr i mi fel arweinydd Cristnogol weld sut mae llenor creadigol yn mynd ati i roi disgrifiad dirfodol o brofiadau cyfriniol ysbrydol.

Yn nes ymlaen yn y llyfr wedi i Wiliam Pritchard gael ei lethu gan erledigaeth a cholledion personol ceir disgrifiad hynod arall o un o’i brofiadau cyfriniol pan brofa rhyw fath o iachâd mewnol drwy law Crist:

On an afternoon in August he finds himself sitting with his mother-in-law in the garden, trying to put his confusion into words. He hears himself in the telling, as he watches a dandelion head float down, a golden orb hovering about a foot away from him at eye level. It moves directly towards him, so that he finds his sad words slowing and trailing away to a halt. Lit by the late afternoon sun, he is transfixed, instantly conscious that he can now let go. At night the peace of this simple moment stays with him. He remembers Christ and lets him in to that space of pain, somewhere in his solar plexus. He lets him in to fill it, because nothing else can. And it is as though, once invited, Christ takes that central space seamlessly, without a murmur. There is no turmoil, no upheaval, but all the grief and anxiety is no longer his alone. He has someone working on his side, so that he may not always be aware of it, and certainly not understand it, but the centre of his body is healed and will continue to heal, with every breath he takes.

ERLEDIGAETH A NEWYDDION FFUG

Prif linyn storïol y llyfr yw’r modd y bu i Wiliam a’i deulu brofi erledigaeth lem ar ôl iddynt droi yn ymneilltuwyr. Cawsant eu troi allan o’u fferm lewyrchus yn Glasfryn ger Llangybi. Bu rhaid symud i Fôn wedyn i ddechrau eto, cyn cael eu troi allan yno hefyd. Trwy ei oes cawsai Wiliam ei erlid gan y Parchg. John Owen a oedd yn Rheithor yn Llangybi cyn mynd yn Ganghellor i Gadeirlan Bangor. Daethai John Owen ac achosion cyfreithiol ffug yn erbyn Wiliam a throi’r gymdogaeth gyfan yn ei erbyn drwy rannu celwyddau enllibus:

His neighbours are vitriolic. The more they lash him with their tongues, the easier it becomes, until condemning Wiliam becomes second nature to them, a common ground where they can unleash all their anger. They do not trouble themselves with alternative perspectives, with nuances or subtleties which may point to a different version of their story. Wiliam has been introduced as a threat, and now the die has been cast. He is not one of them – he is different, and that is enough. This venomous opinion lives as an invisible thing, never to be captured or held up to the light of day to be examined. It slips from person to person, growing within them as a dark mould over their souls, revealed only when they are with like-minded people. It is an unimaginable rot, when faced with their superficial pleasantries and bright smiles. The vicious words leave the gossipers wanting more. When one layer of lies is firmly established, so as to become fact, another layer can be formed on top of it. Thick and thin layers are applied in this way, each one created from a bit of gossip here, a damning aspersion there, a dusting of grave opinion, a sprinkling of doubt, a handful of outrage.

Mae’r portread yma o sut wnaeth celwydd enllibus yr eglwys yn erbyn Wiliam a’r ymneilltuwyr gydio yn atgoffa rhywun o’r ffenomenon modern o newyddion ffug (fake news). Y ffenomenon drist yma sydd wedi chwarae rhan fawr yn y pegynnu eithafol sydd i weld mewn disgwrs gyhoeddus ac sydd i gyfri am y modd y mae rhai carfannau mewn cymdeithas wedi mynd yn hynod ddrwgdybus os nad hollol elyniaethus tuag at garfanau eraill. “Othering” yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r hyn sy’n bwydo’r casineb yma, a dyma’n wir a brofodd Wiliam a’r ymneilltuwyr yn y ddeunawfed ganrif. 

Mae wedi dod yn beth cyffredin mewn rhai cylchoedd Cristnogol i ddweud ein bod ni wedi dod mewn i gyfnod mewn hanes lle bydd Cristnogion yn cael eu herlid eto gan fod Cymru’n wlad seciwlar bellach. Wedi i chi ddarllen portread byw Jane Parry o’r hyn ydyw gwir erledigaeth byddwch chi’n gweld yn fuan iawn nad ydym ni mewn lle tebyg o gwbl, o eliaf ddim eto. Nid yw colli busnes am beidio gwneud cacen briodas i gwpwl hoyw gyfystyr ag erledigaeth ac mae awgrymu felly yn sarhaus i bobl sydd wir yn profi erledigaeth (heb sôn am fod yn sarhaus i bobl hoyw wrth gwrs). 

Mae gwerth nodi mae nid cael eu herlid oherwydd eu dysgedigaeth Gristnogol o’r rheidrwydd oedd yr ymneilltuwyr ond yn hytrach cael eu herlid oherwydd oblygiadau gwleidyddol a chymdeithasol eu dysgeidiaeth. Hynny yw, nid oedd Wiliam Pritchard yn pregethu politics – ond eto roedd yn pregethu pethau fel bod hawl gan yr unigolyn fynd gerbron ei Dduw heb fod angen eglwys ac offeiriad yn gyfrwng. Wrth roi addysg rydd i’r werin roedd yn rhoi’r modd iddyn nhw nid yn unig i ddarllen eu Beibl ond roedd hefyd yn gwneud symudedd cymdeithasol yn bosib i’r werin am y tro cyntaf. Felly yn anuniongyrchol roedd dysgedigaeth Gristnogol yr ymneilltuwyr a’r potensial i gynnau matsien gymdeithasol a gwleidyddol, a dyna pam y’i hofnwyd a dyna pam roedd y sefydliad yn eu herlid. Ac yn wir dyna a ddaeth i fod wrth i ymneilltuaeth adeiladu ohono un o’r symudiadau cymdeithasol mwyaf yn Ewrop, un na fyddai radicaliaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg na sosialaeth a chenedlaetholdeb yr ugeinfed ganrif wedi bod yn bosib hebddo.

BETH AM HEDDIW?

Daw’r llyfr i ben wrth i’r awdur gymryd stoc ac ystyried sut, mewn ffordd, y collodd ei theulu eu Cymreictod a’u radicalrwydd ymneilltuol. Mae’n stori gyfarwydd, cyfleoedd addysg a gwaith, priodi cymar di-gymraeg ac ymhen dim y Gymraeg wedi’i golli o fewn un genhedlaeth wrth i’r teulu modern ymsefydlu eu hunain ymhlith y dosbarth canol ar Costa Geriatrica Gogledd Cymru. I fi sydd ag obsesiwn gyda R. Tudur Jones a’i gampwaith Ffydd ac Argyfwng Cenedl mae’n ddiddorol sylwi fod y Gymraeg a’r ffydd Gristnogol (o leiaf yn ei wedd ymneilltuol) wedi eu colli ar yr un pryd – dyma’r “argyfwng” mae R. Tudur Jones yn ceisio ei esbonio. 

Mae Nonconformist yn llyfr bach gwerthfawr iawn, i mi mae rhan ganol y llyfr sy’n adrodd hanes Wiliam Pritchard llawer cryfach na’r cyflwyniad ac yna’r rhan ar hanes diweddar y teulu sydd tua’r diwedd. Ond stori Jane Parry yr awdur ydi o, a heb iddi hi adrodd ei stori hi fuasem ni ddim yn cael y fraint o gyfarfod ei chyndeidiau.

Please follow and like us: