Dim ond ers 13 mlynedd dwi’n Weinidog ond yn yr amser hwnnw dwi wedi pregethu o leiaf 250 o weithiau yn Llanllyfni, 250 o weithiau ym Mhenygroes ac dros 500 o weithiau yng Nghaernarfon. Mae gen i tua 750,000 o eiriau o nodiadau pregethau wedi eu paratoi, digon ar gyfer 7 PhD. Dychmygwch sawl gwaith mae Gweinidogion sydd yn eu 80au a dal i fynd wedi pregethu?!

Ond, a dyma yw’r hyn sydd ar fy nghalon wythnos yma: dwi’n teimlo mod i megis dechrau ‘treiddio i’r adnabyddiaeth o’r unig wir a’r bywiol Dduw’, chwedl Ann Griffiths.

Fel mae Paul yn dweud wrth y Rhufeiniaid, mae mor hawdd i bobl ffydd – yn arbennig ni arweinwyr a phregethwyr i fod yn llawn balchder ac addoli ein gweinidogaeth yn hytrach nag addoli’r sawl mae ein gweinidogaeth i fod i’w ddyrchafu: “dw i am i chi ddeall fod dirgelwch yma, rhag i chi fod yn rhy llawn ohonoch chi’ch hunain.” Rhuf. 11.25

O! am dreiddio i’r adnabyddiaeth
O’r unig wir a’r bywiol Dduw
I’r fath raddau a fo’n lladdfa
I ddychmygion o bob rhyw;
Credu’r gair sy’n dweud amdano,
A’i natur ynddo, amlwg yw,
Yn farwolaeth i bechadur
Heb gael Iawn o drefniad Duw.

Yn yr adnabyddiaeth yma
Mae uchel drem yn dod i lawr,
Dyn yn fach, yn wael, yn ffiaidd,
Duw’n oruchel ac yn fawr;
Crist yn ei gyfryngol swyddau,
Gwerthfawr anhepgorol yw;
Yr enaid euog yn yr olwg
A’i gogonedda megis Duw.
(Ann Griffiths)

Please follow and like us: