obama_alunffredBythefnos yn ôl fe gyhoeddwyd y drafft cyntaf o’r Mesur Iaith gan Lywodraeth Cymru’n Un, y bartneriaeth/cyfaddawd hwnnw rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur. Does dim angen i mi ymhelaethu oherwydd mae’n ddigon hysbys bellach fod y cyfan yn siom ac fod y Blaid a’r Blaid Lafur wedi methu delifro hawliau cyfartal, statws swyddogol na chomisiynydd annibynnol – tri peth roedden nhw wedi addo. Os nad ydych chi wedi arwyddo’r ddeiseb yn datgan eich siom gyda’r drafft fel y mae hi yna mae modd gwneud hynny YMA.

Byddai llunio mesur cryf o blaid y Gymraeg wedi bod yn rhywbeth dewr i wneud ac i raddau yn amhoblogaidd hefyd. Os byddai Alun Ffred, Ieuan Wyn Jones a gweddill Plaid Cymru wedi dal ati mi fydden nhw wedi peryglu os nad dinistrio eu perthynas gyda’r Blaid Lafur a gweddill y pleidiau Prydeinig. Mi fyddai’r sector fusnes wedi gelyniaethu yn llwyr yn erbyn Plaid Cymru hefyd mae’n siŵr. Mi fyddai’r wasg wrth-Gymreig wedi cymharu Plaid Cymru gyda’r BNP a pob math o rwtsh bygythiol felly. Mewn gair, byddai gwneud safiad a llunio mesur cryf wedi bod yn rywbeth amhoblogaidd ar lawer ystyr.

Tebyg iawn felly i’r ddilema oedd yn wynebu Barak Obama gyda’r mesur diwygio polisi Iechyd yr Unol Daleithiau. Fe wyddai Obama y byddai mynd ati i lunio polisi Iechyd radical newydd fyddai’n dod a iechyd, cyfiawnder, bywyd a gobaith i filiynau o bobl tlotaf ei wlad yn rhywbeth amhoblogaidd. Mae’r wlad wedi ei rwygo gyda llawer o elfennau o fewn y Democratiaid heb sôn am y Gweriniaethwyr a’r byd busnes yn ei ffieiddio. Mae eisoes wedi gorfod cymryd ergyd etholiadol dros ei safiad drwy i’r Democratiaid golli sedd gymharol saff i’r Gweriniaethwyr ym Mhenselfania rai wythnosau’n ôl.

A dyna ydy’r gwahaniaeth rhwng Obama a Phlaid Cymru. Ar un llaw mae Obama wedi gweld y bod yn rhaid wrth ddewrder a derbyn amhoblogrwydd er mwyn gwireddu’r hyn aeth i fewn i lywodraeth i’w wireddu. Ar y naill law mae Plaid Cymru wedi cyfri’r gost o ddelifro’r hyn yr aethon nhw i fewn i lywodraeth i’w ddelifro ac wedi penderfynu nad ydyn nhw am dalu’r pris ac fod gwell ganddynt blesio’r Blaid Lafur a’r CBI yn hytrach na’r cenedlaethau o genedlaetholwyr a charedigion yr iaith sydd wedi rhoi bywyd o wasanaeth i godi’r ‘blaid bach’ i fod yn blaid lywodraethol.

Mae’n amlwg fod Obama ddim yn gweld fod dal pŵer yn ddiben ynddo fe ei hun. Diben pŵer i Obama ydy gwireddu ei weledigaeth a throi ei egwyddorion yn raglen lywodraeth. Ond ymddengys fod y Blaid braidd yn simsan ar y mater ac fod pŵer wedi dyfrhau’r egwyddorion i’r pwynt fod rhaid cwestiynu bellach beth yn union yw’r pwynt i’r Blaid Cymru hon barhau mewn llywodraeth.

Ond dyma dydw i ddim yn deall – os ydy’r drafft mesur iaith yn wan oherwydd fod y Blaid Lafur (yn rhannol dan bwysau oddi wrth y CBI) wedi ei ddyfrhau yna pam na ddaw Plaid Cymru allan a beirniadu eu partner clymblaid a hyd yn oed gadael y glymblaid dros egwyddor? Mae’r ffaith fod y Blaid heb wneud hynny yn gwneud i ddyn ofidio y bod elfennau o fewn y Blaid wedi pellhau yn llwyr o werthoedd traddodiadol y Blaid a’i raison d’ete sef Rhyddid i Gymru a gwarchod a datblygu’r iaith Gymraeg. Hynny yw, nid ofn y Blaid Lafur a’r CBI maen nhw ond yn hytrach cytuno gyda nhw.

Mae argyfwng Plaid Cymru yn symptomatig o argyfwng Cymru yn gyffredinol sef fod yna ddiffyg angor o werthoedd gwaelodol yn llywio eu rhaglen ac felly daeth pŵer yn ddiben ynddo ef ei hun yn hytrach na chyfrwng i roi gwerthoedd ar waith. Mae’r cyfan oll yn ymwneud ac argyfwng ysbrydol Cymru; er mod i’n credu y bod modd i wleidyddion seciwlar ddelifro cyfiawnder (Diarhebion 21:1) fe saif fy ngobaith tragwyddol i, diolch byth, ym muddugoliaeth Brenin y Brenhinoedd.

Please follow and like us: