Wrth gerdded heibio Clwb Nos Octagon ym Mangor p’nawma fe ddes i ar draws yr hysbyseb ofnadwy yma. Mae’r Octagon yn ceisio ein perswadio eu bod nhw yn poeni am les y myfyrwyr bach tlawd sy’n cael bywyd yn arbennig o annodd yn y credit crunch yma. Celwydd noeth yw hyn wrth gwrs oherwydd does ddim ots o gwbl gan yr Octagon am les pobl Bangor; yr unig beth sy’n eu poeni ydy gwneud yr elw mwyaf posib. Ac maen amlwg mae cymryd mantais o’r credit crunch i werthu mwy o alcohol maen nhw ac nid cynnig hyrwyddiadau er lles y cwsmeriaid. Os byddai’r Octagon wir yn poeni am galedi ariannol pobl Bangor yn y credit crunch mi fyddent yn gwneud ymdrech i dorri allan binge drinking, mi fyddent yn gwrthod gweini pobl sy’n amlwg wedi cael un yn ormod. Ond na, maen nhw’n cymryd mantais o’r sefyllfa ac wedi dod a chynnig arbenig allan wnaiff waethygu problem binge drinking Bangor. Tybed a ddyliai Ysbyty Gwynedd basio rhan o’i costau nos Sadwrn ymlaen i’r Octagon; dwi’n meddwl fod hynny yn syniad da iawn.
Pa hawl sydd gan yr Heddlu ac awdurdodau Bangor i bwyntio bys at fyfyrwyr JMJ am gam-fihafio ac yna gadael i gwmniau mawr fel yr Octagon roi hyrwyddiadau hurt an-ystyriol mlaen. Gobeithio bod perchnogion yr Octagon yn mwynhau eu cyfoeth daearol ar hyn o bryd oherwydd mi fydd cwymp go sylweddol yn eu wynebu tu draw i’r llen rwy’n ofni…
Dw i ddim yn meddwl fyddi di’n codi llawer o ofn ar berchnogion yr Octagon – bod yn styc yn fan ‘na ar nos sadwrn yw fy syniad i o uffern!
Ella mae’r ‘warm up act’ ydy’r Octagon…