Dwi wedi ail ymuno a Phlaid Cymru wythnos yma er mwyn pleidleisio dros Leanne Wood. Dydw i ddim yn cytuno gyda Leanne ynglŷn a phob peth o bell ffordd, ond dwi’n argyhoeddedig mae hi mae’r Blaid a Chymru ei hangen ar y foment yma mewn hanes er mwyn rhoi ychydig o dân ym mhethau. Y Mab Darogan i mi o hyd yw Adam Price, ac mae cefnogaeth Adam i Leanne yn bwysig dwi’n meddwl wrth edrych ar ddyfodol y Blaid yn yr hir dymor.
Mae unrhyw un sydd wedi ymwneud ac ymgyrchoedd iaith dros y blynyddoedd diwethaf yn gwybod yn iawn am ymrwymiad Leanne i’r Gymraeg. Oes, mae angen iddi fagu mwy o hyder wrth siarad Cymraeg yn gyhoeddus ond fe ddaw hynny gydag amser. Ond prif nodwedd Leanne yw ei daliadau sosialaidd felly dwi am ddweud gair am hynny o bersbectif Cristnogol. Er mod i’n gwerthfawrogi dadansoddiad Marx o ymddieithriad y gweithiwr o’i lafur does gen i fawr ddim byd arall i ddweud am Marx. Mae fy rhagfarn yn erbyn Marx yn rhannol oherwydd crwsâd Marx yn erbyn crefydd ac yn sgìl hynny erlid brwnt dilynwyr Marx ar Gristnogion drwy hanes. Fodd bynnag, wrth ddod at gwestiynau ynglŷn a stiwardiaeth arian a chyfoeth mae gan sosialwyr a Gristnogion fwy yn gyffredin nag y byddai llawer o sosialwyr a llawer o Gristnogion yn fodlon ei gyfaddef.
Mae Tudur Hallam yn dweud yn Canon ein Llên fod y diwylliant anghydffurfiol, cyn i athroniaeth Marx ledu drwyddi, yn ‘hyrwyddo undod diwylliannol a thrawsddosbarth’. Roedd Tudur Jones hefyd yn dadlau yn Ffydd ac Argyfwng Cenedl fod Yr Hen Ymneilltuwyr, er yn cynnwys rhai aelodau ‘digon cyfforddus eu hamgylchiadau’, yn cymryd gofal o dlodion eu cynulleidfaoedd. Gwerthoedd Cristnogol oedd sail y gofal a’r consyrn hwn am y tlodion ac anffodusion y gymdeithas, a hynny cyn i unrhyw lofa gael ei suddo yng Nghymru ac ymhell cyn i syniadau Marx gyrraedd y wlad. Ond mae yna wahaniaeth sylfaenol rhwng Cristnogaeth a Marcsiaeth ar y mater yma sef fod Marcsiaeth methu mynd i’r afael a gwraidd problem cymdeithas wrth ddelio a chyfoeth sef hunanoldeb, cybydd-dod, natur farus pobl ac yn y blaen – mewn gair – pechod. Mae Cristnogaeth, yn wahanol i Farcsiaeth, yn cynnig newid y galon yn ogystal a’r allanolion. Ond beth bynnag am y gwendid sylfaenol hwnnw o dŷ sosialaeth seciwlar, mae gwleidyddiaeth Leanne yn eistedd yn fwy cyfforddus ar fy nghydwybod i na gwleidyddiaeth pobl sy’n derbyn teyrnasiad cyfalafiaeth y farchnad rydd yn ddi-gwestiwn.
Er mod i wedi ail ymuno a’r Blaid does gen i ddim bwriad bod yn weithgar o fewn y Blaid a hynny am sawl rheswm, yn bennaf oherwydd mod i dal yn argyhoeddedig mae’r ffordd fwyaf gonest i Weinidog yr Efengyl ddilyn dysgeidiaeth Iesu yw tu allan i wleidyddiaeth pleidiol gan fod y byd hwnnw, fel y mae dyddiau yma beth bynnag, yn gofyn i bobl gyfaddawdu’n ormodol ar werthoedd dwi’n eu cyfri’n rhai cwbwl greiddiol.
A finna’n meddwl mai’r hyn oedd gan yr hen Ymneilltuwyr a Leanne Wood yn gyffredin oedd Piwritaniaeth!