Wedi dod ar draws ystadegau heno ar wefan CYTUN yn dangos faint o aelodau sydd gan y gwahanol enwadau yng Nghymru. Reit ddiddorol.

Mae gan y:

Methodistiaid Calfinaidd 34,819

Annibynwyr Cymraeg 31,383

Ac yn ddiddorol dydy’r Eglwys yng Nghymru ddim yn datgelu nifer eu haelodau OND yn hytrach yn dweud faint o bobl sydd ar y rhestr etholiadol sef 77,881. Efallai y gallai dogfael fel Eglwyswr esbonio beth mae hynny’n ei feddwl.

Nawr – cwestiwn bach i chi ddarllenwyr. Ydy’r enwadau yma yn edrych ac yn rhoi yr argraff i chi eu bod nhw ac aelodaeth gyda’i gilydd ddegau o weithiau mwy na Phlaid Cymru?

Dydy nhw ddim i mi ta beth. A dyna yw un o broblemau Cristnogaeth yng Nghymru debyg yw fod yna lawer o bobl – miloedd lawer fe ymddengys yn aelodau allan o draddodiad a phrin yn mynychu cyfarfod ar y Sul heb sôn am fynd allan i rannu y newyddion da am Iesu!

Mae’r ystadegau uchod yn dwyllodrus tybiaf – yn gwneud i argyfwng Cristnogaeth yng Nghymru ymddangos yn dipyn llai nag ydyw mewn gwirionedd.

Please follow and like us: