Yn 2015 fe ofynnodd newyddiadurwr i’r digrifwr Stephen Fry beth fyddai’n gofyn i Dduw petai byth yn ei gyfarfod? A dyma oedd ei ateb mewn cyfweliad sydd wedi ei wylio dros 7 miliwn o weithiau ar YouTube ers hynny:
“I’d say, bone cancer in children? What’s that about? How dare you? How dare you create a world to which there is such misery that is not our fault. It’s not right, it’s utterly, utterly evil. Why should I respect a capricious, mean-minded, stupid God who creates a world that is so full of injustice and pain. That’s what I would say. ”
– Stephen Fry
Dwi’n meddwl mai’r ymateb gorau wnes i ddarllen ar y pryd oedd ymateb y colofnydd a’r offeiriad dadleuol Giles Fraser, dywedodd rhywbeth tebyg i: “That God Stephen Fry doesn’t believe in, I don’t believe in that God either!”
Er ein bod ni’n byw mewn cymdeithas seciwlar, dydy ni ddim yn byw mewn cymdeithas sydd yn gwbl gaeedig i bethau ysbrydol. Dwi’n meddwl fod llawer o bobl sydd wedi troi cefn ar grefydd gyfundrefnol dal yn teimlo rhyw syched am ryw Dduw. Ond am wahanol resymau, yn aml rhesymau digon dealladwy, maen nhw wedi dweud “Na” wrth y Duw maen nhw’n meddwl mai’r Beibl a chapeli yn ei gyflwyno. Fel Stephen Fry, maen nhw’n ofn Duw maen nhw’n meddwl ein bod ni’n ei addoli.
Jonathan Edwards
Er bod pobl o du allan yr eglwys fel Stephen Fry yn cyfrannu tuag at y ddelwedd anghywir yma o Dduw’r Beibl y gwir amdani yw fod llawer o fewn yr eglwys wedi cyfrannu at y dryswch hefyd. Ar hyn o bryd dwi’n darllen llyfr o’r enw ‘Sinners in the hands of a loving god’ gan Brian Zahnd. Mae teitl y llyfr yn ymateb ac yn barodi i bregeth enwog y diwygiwr Jonathan Edwards ‘Sinners in the hands of an angry god’.
I chi sy’n gwybod eich hanes byddwch chi’n ymwybodol mae Jonathan Edwards oedd arweinydd y Great Awakening yn yr Unol Daleithiau. Fe oedd eu Daniel Rowlands nhw. Yn y bregeth enwog yma gan Jonathan Edwards mae’n mynd ati i geisio dychryn ei gynulleidfa i mewn i’r nefoedd. Dyma’r darn enwocaf:
“The God that holds you over the pit of hell, much as one holds a spider or some loathsome insect over the fire, abhors you, and is dreadfully provoked: His wrath towards you burns like fire; He looks upon you as worthy of nothing else but to be cast into the fire; He is of purer eyes that to bear to have you in His sight; you are ten thousand times more abominable in His eyes than the more hateful venomous serpent is in ours.”
– Jonathan Edwards, ‘Sinners in the hands of an angry god’
Mae Brian Zahnd yn disgrifio’r math yma o bregethu fel “Conversion by terrorism”. Dydy’r bregeth yma gan Jonathan Edwards, ac yn sicr y dyfyniad penodol yma, ddim yn gynrychioliadol o’i ddealltwriaeth lawn o’r efengyl Gristnogol. Ond y math yma o ddiwinyddiaeth a phregethu sydd wedi nodweddu llawer o Gristnogaeth y tair canrif ddiwethaf. Dwi wedi cael fy meirniadu gan rai am beidio â phregethu fel hyn. Felly, cyn pwyntio bys at anffyddwyr fel Stephen Fry am gam-gynrychioli Duw a neges yr efengyl Gristnogol byddai’n dda i ni yn yr eglwys edrych yn nes at adre weithiau.
Mae pobl yn “Ofn Duw”
Cyn i fi ddweud dim byd pellach mae’n bwysig gwneud dau osodiad. Yn gyntaf, mae yna fath iach o ofni Duw – sef parchedig ofn. Y syniad ein bod ni’n ofni Duw yn ei sancteiddrwydd a’i berffeithrwydd. Ofn sy’n dod allan o barch tuag ato. Ofn sy’n wahanol i ddychryn sy’n dod pan mae rhywun yn teimlo dan fygythiad. “Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau doethineb…” (Diarhebion 9:10a)
Yr ail beth i nodi cyn mynd ymlaen yw gwneud y pwynt pwysig fod yna oblygiadau i wrthod Duw. Os mai gwrthryfel rydym ni eisiau fe gawn ni wrthryfel a phopeth sy’n dod gyda fe. Ond mae yna wahaniaeth rhwng y rhyddid i wrthryfela a derbyn canlyniad hynny a’r syniad fod Duw yn Dduw llawn dicter sydd ar fin ein taflu i le tywyll oni bai i’w fab a’i ysbryd ei berswadio i newid ei feddwl.
Math arbennig o dduw yn creu math arbennig o Gristnogion
Dywedodd Gandhi unwaith: “I like your Christ but I don’t like your Christians”. Ac mae llawer o ddiwinyddion a sylwebwyr heddiw yn meddwl fod llawer o’r eglwys Gristnogol wedi colli ffordd oherwydd dylanwad y camsyniad yma o farn ac ofn Duw. Bydd Cristnogion sydd wedi eu dychryn i mewn i’r Deyrnas yn edrych yn wahanol iawn i Gristnogion sydd wedi eu denu i mewn i’r Deyrnas drwy gariad.
Mae ofn yn creu Cristnogion caled ac ansicr. Bydd “Conversion by terrorism” ddim wir yn creu’r math o ddisgyblion mae Duw wir yn ei geisio. Bydd Duw cas yn creu Cristnogion cas. Bydd Duw caled yn creu Cristnogion calon galed. A dwi’n meddwl, yn anffodus, ein bod ni’n gweld tipyn o hynny heddiw. Mae yna lawer o “nominal Christians” a hyd yn oed “nominal evangelicals”, pobl sydd jest yn yr eglwys allan o ofn neu ddyletswydd. Rhyw fath o FOMO ysbrydol.
Ond bellach, yn y cyfnod olaf hwn…
Felly os nad ydym ni yn credu yn y Duw nad ydy Stephen Fry yn credu ynddo. Ym mha Dduw ydym ni’n credu? Os nad ydy’n ni’n credu yn y caricature o Dduw mae pregeth enwog Jonathan Edwards yn ei bortreadu. Yna, ym mha Dduw ydym ni’n credu?
Yn y gorffennol pell roedd Duw wedi siarad gyda’n hynafiaid ni drwy’r proffwydi. Gwnaeth hyn bob yn dipyn ac mewn gwahanol ffyrdd. Ond bellach, yn y cyfnod olaf hwn, mae wedi siarad â ni drwy ei Fab. Mae Duw wedi dewis rhoi popeth sy’n bodoli yn eiddo iddo fe – yr un oedd gyda Duw yn gwneud y bydysawd. Mae holl ysblander Duw yn disgleirio ohono. Mae e’n dangos i ni’n berffaith sut un ydy Duw. Ei awdurdod pwerus e sy’n dal popeth yn y bydysawd gyda’i gilydd! Ar ôl iddo ei gwneud hi’n bosib i bobl gael eu glanhau o’u pechodau, cafodd eistedd yn y nefoedd, yn y sedd anrhydedd ar ochr dde y Duw Mawr ei hun.
Hebreaid 1:1-3 (beibl.net)
Iesu! Dyma yw’r Duw rydym ni’n credu ynddo.
Os ydy rhyw ddelwedd neu ryw gamsyniad sydd gyda ni o Dduw ddim yn leinio fyny gydag Iesu yna nid duw yw e. Y ffon fesur yw Iesu! Dydy Iesu ddim yn rhoi cancr i blant, mae’n sychu deigryn rheiny sydd â chancr. Dydy Iesu ddim yn taflu pobl i Uffern, mae wedi cymodi popeth ag ef ei hun drwy ei farwolaeth ar y Groes a’i atgyfodiad. Dydy Duw ddim yn newid ei feddwl nac yn cael personality change hanner ffordd trwy’r Beibl. Dyma sut mae Duw wastad wedi bod – ond ein bod ni, efallai, heb ei ddeall yn iawn ac yn llawn nes iddo ddatguddio ei hun i ni yn glir ac yn derfynol yn Iesu Grist.
Paid a bod ofn
Ac felly, er bod Iesu yn gyfiawn ac yn barnu mae hynny yn dod allan o’i gariad e dros gyfiawnder nid o ryw gynddaredd. Ac yn hytrach na gweinyddu’r cyfiawnder yr ydym efallai yn ei haeddu, mae’n setlo’r mater ei hun, dyna yw grym y Groes a buddugoliaeth ei Atgyfodiad. Yr headline yw: nid yw’r Duw go-iawn yn un i’w ofni. Mae’r Duw go-iawn – Iesu Grist – yn diferu o gariad, amynedd, cysur a phopeth da arall. Dyma Dduw sydd gwerth ei adnabod a’i gyflwyno i eraill.