Braint ryfeddol oedd bod yn angladd y Parch Denis Young yn Aberystwyth heddiw. Diwrnod i gofio Denis a diolch i’w Arglwydd.

“Oni wyddoch chwi i dywysog ac i ŵr mawr syrthio heddiw yn Israel?” (2 Samuel 3.38)

Wedi ei Ordeinio ers 70 o flynyddoedd, a’i eni 100 o flynyddoedd yn ôl roedd Denis yn bont i ni’r to iau i’r hen Gymru anghydffurfiol. Cafodd ei fagu mewn oes pan roedd gafael crefydd ar y gymdeithas Gymraeg bron yn absoliwt – fel yr atgoffodd John ni heddiw – roedd Denis arfer dweud ei fod “wedi ei biclo gan grefydd!” Ond nid gan grefydd y daeth ei fywyd a’i asbri, ond o brofiad maddeuant a ffydd fyw yn Iesu – dyma oedd calon ac aur anghydffurfiaeth Gymreig ar ei orau ac roedd modd ei ogleuo ar Denis.

Wrth sefyll pen arall canrif Denis a gweld holl greiriau anghydffurfiaeth mewn adfeilion o’n cwmpas hawdd fyddai colli gobaith. Ond, mae pobl fel Denis wedi gadael etifeddiaeth anweledig, ac ‘anghyflawn yw ein gwybod ni’, ond mewn ffydd gallwn fentro gobeithio fod hadau proffwydi ddoe yn barod i’w dyfrio eto gan Ysbryd Duw yn ein gwlad. Oherwydd ‘ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, ac ni chaiff holl bwerau Hades y trechaf arni.’ (Math. 16.18) DIOLCH!

Please follow and like us: