Fe gofiwch chi ddarllenwyr rheolaidd y blog i mi gyfrifo cost codi traffordd rhwng Caerdydd a Bangor nol yn Nhachwedd, 2005. Y gost byddai £4.5bn ac wedi sylweddol hynny dechreuais dybio na fydde ni byth yn gweld y freuddwyd yn dod yn wir.

Ond heno ma darllenais stori fod Olympics Llundain 2012 mynd i gostio £9bn! Ie dros ddwbwl pris prosiec is-adeiledd wnaiff chwyldroi a bywiogi economi a chyfoeth pobl Cymru am byth. Dyma ddangos eto lle mae blaenoriaethau’r Wladwriaeth droedig Brydeinig yn syrthio. Gwyl hamdden tymor byr yn cael blaenoriaeth dros brosiect is-adeiledd tymor hir wnaiff gael effaith tymor hir ar ansawdd bywyd Cenedl gyfan.

Please follow and like us: