Ddois i ar draws enghriafft galsurol arall o’r agwedd golonial sy’n dra nodweddiadol o lawer o’r symudiad efengylaidd ym Mhrydain heddiw a hynny mewn erthygl gan David Instone-Brewer yn y cylchgrawn dylanwadol Christinaity. Roedd yr erthygl yn trafod ‘church splits’ ac fe agorodd ei erthygl fel hyn:
My friend Ken showed me a strange photo of the two small Baptist churches for which he was a joint minister in a small South Wales village: the churches were right next door to each other. In the photo the congregation of each stood on the steps leading up to their front door and Ken stood in the middle astride a small dividing wall with a foot on each set of steps. Despite his urging, they refused to amalgamate, even though they believed the same things, heard the same sermons from him, and had occasional joint services. Why? One church worshiped in English and one in Welsh.
Dwi wedi anfon gohebiaeth i mewn at y cylchgrawn yn ymateb i’r agwedd drahaus yma. Gobeithio y bydda nhw yn ei gyhoeddi yn y rhifyn nesaf. Dyma wnes i anfon mewn:
I was saddened when I read the opening paragraph of David Instone-Brewer’s Church Splits article (Christianity, July 2010). What shocked me as a Welsh speaking Christian was that he portrayed the existence of Welsh speaking churches side by side with English ones in Wales as a ‘split’.
In the Arfon area of North Wales where I live we view the existence of Welsh and English churches as a strength not a weakness born out of division and tension. In a naturally bilingual nation like Wales we have Welsh speaking Christians who want to be minister to, want to worship and enjoy fellowship in their mother tongue and we also have English speakers who need the same. The existence of this need is reflected in the existence of different language Churches, it’s how the Church responds to the cultural context it sees in front of it. It’s not as a result of tension and splits. My Welsh language Baptist church planted our towns English language Baptist church decades ago in a response to the growing English language community in the town. It was not born out of a split it was a missional plant. And to this day both churches exist side by side both respecting each others unique witness and mission and both praying for each others work.
Here in Wales we have unchurched folk who are both Welsh and English speaking who need to be reached with the gospel. From my own experience working amongst my fellow Welsh speakers a Welsh speaking church is best placed to bring the good news of Jesus Christ to them. From my understanding of Biblical theology on the question of language and culture ‘unity in diversity’ is the grand theme. It was a shame therefore that the article portrayed the existence of different language Churches in Wales in a negative tone.
Da iawn Rhys. Gobeithio byddyn nhw yn cyhoeddi fo.
Da fachgen!
Anhygoel! Mae’n anodd credu pa mor unllygeidiog y mae ambell un yn gallu bod – er gwaethaf eu ffydd ddofn.
Diolch am ateb.
Dyfed.
Da iawn ti Rhys.
Rwy’n gweithio i eglwys uniaith Gymraeg, ac felly nid wyf yn erbyn eglwysi Cymraeg mewn egwyddor. Rwy wedi dadlau dros UC Cymraeg mewn colegau.
Dwi ddim wedi darllen yr erthygl ond o’r pwt rwyt wedi cynnwys yma, mae’n amlwg fod yna ddiffg dealltwriaeth o’r sefyllfa.
Wedi dweud hynny, mae’r lleoliad yn arwyddocaol. “South Wales village”.
Mae “South Wales village” yn awgrymu:
(a) Y Cymoedd
Rwy’n gyfarwydd a chapeli yn y cymoedd lle mae’r oedfa’n uniaith Gymraeg, ond eto’r holl gymdeithasu cyn ac ar ol yr oedfa’n Saesneg. Nid awydd i addoli’n iaith y galon yw hyn, ond awydd i gynnal hen draddodiad. Mae’r holl ardal yn Saesneg hefyd, sy’n codi cwestiynau mawr am y gwaith efengylu.
Yn yr achos hynny, traddodiad sy’n rhannu – a dyw hynny ddim yn adlewyrchu’n dda ar yr efengyl o gwbl.
Mae angen gofyn cwestiynau am barhad capeli Cymraeg mewn sefyllfaoedd o’r fath.
(b) Pentref Cymraeg yn Sir Benfore neu Orllewin Sir Gar.
Mae angen tystiolaeth Gymraeg yn y sefyllfaoedd Cymraeg yma, ond a oes adnoddau a phobl ar gael i gynnal dau gapel ar wahan? Mae Eglwys Efengylaidd Llambed yn enghraifft o eglwys ddwyieithog sy’n llwyddo i arddangos undod yr efengyl, tra’n diogelu’r dystiolaeth yn y ddwy iaith. Byddai’r dystiolaeth yn llawer llai effeithiol tase nhw’n rhannu’n ddwy eglwys.
Cwestiynau sy’n codi i mi:
– Beth sy’n digwydd pan fo capel yn fwy Cymraeg o lawer na’r gymdeithas o gwmpas? Beth sy’n digwydd i’r dystiolaeth ac ati?
– Mewn trefi bychan a phentrefi dwyieithog, a oes modd cynnal dau gapel ar wahan?
– Rwy’n credu bod “amrywiaeth o fewn undod” yn egwyddor Gristnogol sy’n adlewyrchu ein Duw. Mae tystiolaeth yn Saesneg ac yn Gymraeg yn arddangos yr amrywiaeth, ond sut gellir diogelu ac arddangos undod hanfodol yr Eglwys?
– Ar ba bwynt mae mynnnu addoli yn ein hiaith ein hunain yn troi’n hiliaeth hunanol?
Rwy’n cytuno nad yw’r erthygl (o’r pwt sydd wedi ei ddyfynnu) yn dangos dealltwriaeth o’r sefyllfa. Mae angen ymateb iddi, i esbonio’r cyd-destun.
Er hynny, yn Ne Cymru (a rhannau helaeth o’r Gogledd, sbo) lle mae’r gymdeithas yn ddwy-ieithog ar ei orau, neu yn Saesneg ar y cyfan, dwi ddim yn credu bod yr ateb mor ddu a gwyn a awgrymir yn dy ymateb.
Mae beth wyt ti’n ddweud am eglwysi’r cymoedd yn gywir iawn Steffan. Mae gan y Bedyddwyr rai Eglwysi Cymraeg lawr yna sydd hyd yn oed yn addoli yn Saesneg bellach er fod eglwys Saesneg o’r un enwad jest lawr y ffordd! Mae sefyllfa fel yna, wrth gwrs yn hurt.
Ond dyma rai pethau i ystyried. Mewn cymunedau lle mae’r Gymraeg yn iaith leiafrifol iawn fel rhannau o’r cymoedd ac mae’r Capel Cymraeg ydy’r unig sefydliad cymdeithasol sy’n cynnal yr iaith onid oes dadl o gyfrifoldeb ehangach i gadw’r achos ar agor er mwyn cynnal y diwylliant sy’n rodd gan Dduw? Drwy gau y capel Cymraeg mae’n bosib fod yr eglwys yn gyfrifol wedyn am roi’r hoelen olaf yn arch y diwlliant Cymraeg yn y gymuned honno. Dydw i ddim yn siŵr os ydw i’n cytuno gyda’m dadl fy hun fan yma, ond dwi’n meddwl ei bod hi’n rhywbeth i ystyried. Hynny yw mae’r iaith Gymraeg yn gyfrwng i sôn am Iesu, ydy wrth gwrs, ond mae cyfrifoldeb diwylliannol gan yr eglwys a Christnogion beth bynnag. Cymer er enghraifft fy ngwaith i efo Cymdeithas yr Iaith, mae Duw wedi rhoi cyfle i mi drwy hyn i rannu fy ffydd gyda rhai ffrindiau dros y blynyddoedd, ond hyd yn oes pe tasai hynny ddim yn wir, fel Cristion fuasw ni dal yn gweld gwerth i fy ymwneud a CYIG oherwydd mod i’n gweld e fel rhan o’m cyfrifoldeb diwylliannol fel Cristion. O’i roi mewn cyd-destun arall beth am athro Cymraeg, mae’n bur debyg y bytth yr athro sy’n Gristion yn cael cyfleuon dros drigl amser o ganlyniad i’w swydd i rannu am ei ffydd, ond hyd yn oed os na fydd yn cael cyfle mae ei waith ef neu hi’n bwysig beth bynnag yng nghyfanrwydd ein cyfrifoldeb fel Cristnogion.
Ond, a gwrth ddweud dadl y baragraff diwethaf, nid y capeli Cymraeg mewn gwirionedd yw cynheiliaid y diwylliant Cymraeg yn y cymoedd bellach ond yn hytrach y twf aruthrol yn addysg Gymraeg. Er fod y Gymraeg yn parhau i fod yn iaith y lleiafrif yn y Cymoedd mi fuasw ni’n tybio fod y ganran ymysg pobl dan, dyweder, 30 bellach yn sylweddol uwch na’r ganran yn y boblogaeth yn gyffredinol.
Mae hyn yn gosod her newydd i’r dystiolaeth i’r Gymry Gymraeg yn yr ardaloedd yma sy’n brysur ail-ddarganfod yr iaith. Dydw i ddim yn gwybod beth yw’r ateb, ond dwi’n sicr yn gweddio’n aml dros y peth ac mae angen i ni feddwl sut mae ymateb i’r peth. Mae’n ddiddorol, er enghraifft, fod llawer o blant eglwysi Apostolaidd, Pentacostalaidd ac Efengylaidd y Cymoedd yn byw eu bywyd addysgol yn Gymraeg ond Cristnogol yn Saesneg. Roedd Derek yn case in point o hyn cyn iddo ddod i Aber a darganfod yr eglwys Gymraeg a’r traddodiad diwinyddol Cymraeg.
Wrth gwrs yr ‘elephant in the room’ o ran cyrraedd Cymry Cymraeg mewn cyd-destun lle mae’r Gymraeg yn y lleiafrif yw Caerdydd. Er fod y Gymraeg ond yn gwneud tua 10% o boblogaeth y Brifddinas mae bron Cymaint o Gymry Cymraeg o ran nifer yng Nghaerdydd ag sydd yng Ngheredigion ond eto dim ond un Eglwys Efengylaidd ac un Gweinidog Enwadol efengylaidd sy’n gwasanaethu yno.
Dyma’r ffigurau siaradwyr Cymraeg:
Gwynedd: 85,664
Ceredigion: 40,456
Caerdydd: 35,728
Figurau o sensws 2001 yw rhain. Dwi’n tybio y bydd ffigurau sensws 2011 yn dod a Caerdydd a Cheredigion yn nes os na fydd Caerdydd hyd yn oed wedi goddiweddyd Ceredigion.
A’r hyn sy’n ddiddorol am gymuned Gymraeg Caerdydd yw fod llawer fawr iawn ohonyn nhw yn fewnfudwyr o’r fro Gymraeg ac felly er eu bod nhw yn byw mewn dinas Seisnig dwi’n credu’n gryf mae eglwys Gymraeg ac nid dwyieithog yw’r cyfrwng gorau i’w cyrraedd gyda’r efengyl oherwydd fod eu bywydau, llawer ohonynt yn Gymraeg iawn. Plant yn cael addysg Gymraeg, gwr a/neu wraig yn gweithio mewn sefydliadau cenedlaethol lle mae’r iaith gwaith yn ddwyieithog os nad Cymraeg, cylchoedd meithrin yn Gymraeg, aelodau o gorau, a clybiau cymdeithasol cymraeg y ddinas, clwb ifor nos sadwrn. Felly er yn gymuned ‘ethnig’ leiafrifol mewn dinas Seisnig fwyafrifol mi fyddai eglwys uniaith Gymraeg yn ffitio mewn yn dra naturiol i lawer o’r gymuned fewnlifol Gymraeg yng Nghaerdydd.
safe safe. soi di darllen bit rhys llwyd uchod – just d dechre teipio tra bo fi’n cofio pwynt fi. fel un sydd o south wales (diolch byth) a sy’n arwain gwaith cymraeg – mae’r syniad bod angen cwestiynnu yr angen am waith cymraeg yn fy ardal i yn bizzare… ma na hyd yn oed dadl mawr dros yr angen am waith cymraeg yng nghasnewydd o bobman. ma na wastad gymuned cymraeg o fewn un saesneg – ac felly mae angen eu cyrraedd nhw. felly dyw e byth yn mater o ddewis yr efengyl dros yr iaith – mae’n mater o gweithio yn gymraeg er mwyn yr efengyl. safe… sori… diogel
Hei Derek,
Nid trafod yr angen i dystiolaethu ac efengylu’n Gymraeg ydyn ni. Wrth gwrs mae angen cyrraedd y cymunedau Cymraeg yr iaith, lle bynnag y maent.
Y cwestiwn yw pune ddyle fod eglwysi Cymraeg ar wahan mewn pentrefi neu drefi bach (dy’n ni ddim yn trafod dinasoedd, lle mae’r sefyllfa’n wahanol)?
On a side-note, gan bod Rhys wedi son am Gaerdydd, gai jyst dweud – fi’n cytuno’n llwyr. Yr argraff rwy’n cael yw bod yr Eglwys Efengylaidd yng Nghaerdydd yn ymwybodol o hyn – ac felly maent wedi dechrau oedfaon a chyfarfodydd yn yr Eglwys Newydd a Grangetown.
Un pwynt arall. Dwi ddim yn siwr os mae rol y capel o reidrwydd yw diogelu’r iaith (ond mae hynny’n sgwrs am rywbryd eto). Ond rwy’n eitha siwr o hyn – bydden i’n dadlau bod grwp o bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg i gynnal hen oedfa traddodiadol, marwaidd tra’n cymdeithasu’n Saesneg cyn ac ar ol yr oedfa mewn gwirionedd yn lladd yr iaith – trwy atgyfnerthu’r syniad mai iaith sy’n perthyn i’r hen orffennol ydyw, ac felly’n amherthnasol heddiw. Yn bwysicath fyth, maent yn dweud hefyd mai hen beth amherthnasol yw’r ffydd Gristnogol, yn perthyn i’r hen ffordd Gymreig o fyw.
Derek – fel ti, fi’n ddiolchgar bo fi o’r de hefyd!!
Hi Rhys. Can you help me support the work of Christian-run charity Care for the Family in Wales? They want to recruit a Welsh speaking Christian for a 3 day per week role in Cardiff as Administration Assistant for the Care for the Family Wales Representative. They are building their presence across Wales and need a Welsh speaker to facilitate this. Do you know anyone who might be interested in hearing about the role?
Many thanks
Martyn Bull