Un o fendithion Cymdeithas yr Iaith yw taw mudiad gwirfoddol ydyw yn ei hanfod. Gan taw mudiad gwirfoddol ydyw yn hytrach na mudiad/corff sy’n cael ei redeg gan staff llawn amser fel dywedwch Bwrdd yr Iaith, Mudiad Ysgolion Meithrin, Yr Urdd neu Twf neu fudiadau tebyg mae’r etheg yn wahanol. Oce, falle bod dim yr un lefel o broffesiynoldeb yn perthyn i’r Gymdeithas a mudiadau state-funded ond oherwydd ein bod ni’n fudiad gwirfoddol gyda pawb yn ei wneud o’i gwirfodd ac nid jest fel job 9-5 mae’r eiddgarwch a’r ymroddiad yn wefreiddiol. Wedi’r cyfan, faint o staff Bwrdd yr Iaith fyddai’n fodlon treulio p’nawn Sadwrn mewn Cell? Efallai byddai rhai, ond bydda nhw’n disgwyl cael eu talu over-time!
Ond ysywaeth, mae yna rai problemau drwy fod yn fudiad gwirfoddol sef fod gan yr aelodau swyddi 9-5 eraill. Rhai yn rhedeg busnes, rhai yn athrawon, rhai yn weithwyr cymdeithasol, rhai yn fyfyrwyr. Yn wahanol i weithwyr Bwrdd yr Iaith allwn ni ddim trefnu cyfarfodydd i drafod strategaethau ayyb… yn ystod oriau swyddfa; maen rhaid i’n cyfarfodydd ddigwydd gyda’r nos neu ar benwythnos. Gyda aelodau gwahanol grwpiau ymgyrchu’r Gymdeithas yn byw dros Gymru gyfan mae dod at eu gilydd i gyfarfod a chydlynu’r ymgyrchoedd yn dipyn o straen sy’n golygu fod cyfarfodydd, yn hanesyddol, yn cael eu hesgeuluso a dim ond yn digwydd cwpwl o weithiau’r flwyddyn lle bod angen cyfarfod yn fisol os nad yn amlach pan fod ymgyrch yn cyrraedd uchafbwynt. Ond oherwydd fod gan bobl eu jobsys arferol 9-5 ac fod gan rai hefyd lond tŷ o blant i’w magu mae teithio’n aml i gyfarfod yn amhosib.
Wrth gwrs mae gan y’r NGO’s fel Bwrdd yr Iaith a’r Urdd eu hadnoddau fideo gynadledda swish. Yn anffodus ni all y Gymdeithas fforddio system gynhwysfawr debyg felly rhaid oedd chwilio am wîn y tlawd ym myd fideo gynadledda. Yr opsiwn gyntaf oedd edrych ar Skype, gwasanaeth sydd wedi sefydlogi ei hun bellach. Skype yn sicr yw’r gwasanaeth os am gael cyfarfod rhwng dau leoliad yn unig. Ond gyda Skype os fyddwch chi am gael cyfarfod rhwng mwy na tri lle dim ond sain sy’n bosib. Yn bersonol dwi’n meddwl fod fideo yn ogystal a sain yn angen rheidiol er mwyn cael yr interaction gorau gyda pobl.
Opsiwn amlwg arall oedd defnyddio iChat Apple. Mae hwn yn system dda iawn pan fo’n gweithio, ond fy mhrofiad i yw ei fod y gallu bod yn reit buggy ac ei fod yn drafferthus ei ddefnyddio ar rai rhwydweithiau yn arbennig rhai Prifysgolion oherwydd fod proxys neu rhywbeth neu gilydd yn cael eu amharu (dwi ddim yn deall y tech talk fan yma). Problem bellach iChat oedd fod un o’r bobl oedd yn rhan o’r cyfarfod yn ddefnyddiwr Windows felly byddai ef ddim wedi gallu cyfrannu beth bynnag.
Ond, wele y darganfu Hedd Gwynfor ein Is-Gadeirydd Cyfathrebu’r meddalwedd hwnnw ys gwelwir ooVoo. Yn y bôn maen feddalwedd, i’r Mac ac i’r PC, sy’n gweithio’n debyg iawn i Skype. Dydy’r interface ddim cweit mor lân a Skype ond mae’n cynnig llawer mwy na Skype ac yn arbennig i ni roedd yn cynnig sgwrsio fideo hyd at naw ffordd, dim ond pedwar oeddem ni angen. Fe aeth y cyfarfod yn grêt ag ystyried, wrth gwrs doedd hi ddim cystal a trafod wyneb yn wyneb ond roedd hi’n well fod y cyfarfod wedi digwydd dros ooVoo na peidio digwydd o gwbl. O ran gwelliannau technegol byddai hi wedi gweithio’n well pe tae un person i bob cyfrifiadur, roedd pedwar ohonom ni wedi crynhoi rownd yr un yn Aber, dwy rownd yr un yng Nghaerfyrddin, un yng Nghydweli ac un yn Llanllyfni. Roedd gweld a deall y ddau oedd ar ben eu hunain yn haws. Hefyd o gael un person i bob cyfrifiadur byddai modd defnyddio ffonau clust, byddai hynny wedi gwella’r ansawdd sain hefyd gan osgoi feedback o bryd i’w gilydd.
Felly, trwy ddulliau chwyldro technolegaidd yn unig mae adfer yr iaith Gymraeg, chwedl Saunders…