Rydym ni’n cael cyfarfod heno i wneud trefniadau fy nghyfarfod sefydlu ac ordeinio fis Medi. Mae tuedd i drefniadau fel hyn fynd braidd yn fydol. Felly cyn i ni drafod unrhyw fanylion tybiais y byddai’n briodol i ni wreiddio’r peth yn y Beibl. Ar ôl edrych ar rai cymalau o’r Testament Newydd daw’n amlwg mae rhywbeth digon syml y dylai’r sefydlu fod. Mae’r Beibl yn dysgu fod holl aelodau’r Eglwys yn weinidogion yn yr ystyr eu bod i fod i weinidogaethu eu gilydd – un corff sawl rhan.

Ond mae’r Beibl yn nodi dau swydd arbennig sef swydd henuriad a swydd diacon. Yr henuriaid, neu’r arolygwyr, oedd y bobl oedd a chyfrifoldeb arbennig dros ddysgu a rhoi arweiniad ysbrydol i’r Eglwys. Y diaconiaid oedd a chyfrifoldeb arbennig dros elfennau ymarferol fel gofal ymarferol (gweler Actau 6). Dydy’r swydd o “Flaenor” ddim yn y Beibl. Ond dydy’r swydd o “Weinidog” ddim yn y Beibl chwaith mewn gwirionedd – yr hyn y dylai “Gweinidog”, yn ôl ein deall ni o’r gair heddiw, fod yw henuriaid sy’n digwydd cael ei gyflogi i fod yn henuriad llawn amser megis. Dydy’r “Gweinidog” ddim yn uwch na’n is na’r henuriaid a’r diaconiaid ond yn hytrach yn un ohonyn nhw. Nid yw’r henuriaid a’r diaconiaid yn uwch na gweddill yr aelodau chwaith oherwydd gweddill yr aelodau sy’n dilysu galwad Duw i’r henuriaid a’r diaconiaid.

With me so far?

Mae Paul yn dweud wrth Titus fod angen “sefydlu henuriaid ym mhob tref yn ôl fy nghyfarwyddyd” (Titus 1:5). Felly beth yw’r cyfarwyddyd? Mae’n mynd ymlaen i esbonio:

Rhaid i henuriad fod yn ddi-fai, yn ŵr i un wraig, a’i blant yn gredinwyr, heb fod wedi eu cyhuddo o afradlonedd nac yn afreolus. Oherwydd rhaid i arolygydd fod yn ddi-fai, ac yntau yn oruchwyliwr yng ngwasanaeth Duw. Rhaid iddo beidio â bod yn drahaus, nac yn fyr ei dymer, nac yn rhy hoff o win, nac yn rhy barod i daro, nac yn un sy’n chwennych elw anonest, ond yn lletygar, ac yn caru daioni, yn ddisgybledig, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn feistr arno’i hun. Dylai ddal ei afael yn dynn yn y gair sydd i’w gredu ac sy’n gyson â’r hyn a ddysgir, er mwyn iddo fedru annog eraill â’i athrawiaeth iach, a gwrthbrofi cyfeiliornad ei wrthwynebwyr. (Titus 1:6-9)

Mae’n bwysig i’r eglwys felly ddewis galw Gweinidog/Henuriaid yng ngolau y “cyfarwyddyd” yma. Ond nid rhywbeth i’w wneud ar ddiwrnod y sefydlu/ordeinio yw hyn – mae’n rhywbeth y dylid gwneud cyn anfon yr alwad yn y lle cyntaf. Er mae work in progress ydw i, fel pob Cristion, o ran y rhinweddau a restrir uchod, y mae’r eglwysi wedi cael amser i brofi fy ngalwad erbyn hyn gan i mi weithio yno am flwyddyn fel myfyriwr. Ond mae’n ddryswch o hyd sut a beth dylid ei wneud ar ddiwrnod y sefydlu/ordeinio ei hun.

Yn llyfr yr Actau gwelir fod yr arfer o arddodi dwylo yn cael ei ddefnyddio wrth weddïo am dywalltiad yr Ysbryd Glan ar bobl. A dyma mewn gwirionedd sy’n bwysig ar ddiwrnod y sefydlu/ordeinio sef gweddïo y bydd yr Ysbryd Glan yn grymuso’r weinidogaeth a gwaith yr Eglwys gyfan. Does ots pa mor grand, niferus a talentog yw aelodau eglwys Crist, heb wynt yr Ysbryd Glan yn eu hwyliau ni aiff y llong i unlle.

Felly y ddau egwyddor Feiblaidd bwysig wrth sefydlu ac ordeinio yw:

  • Yr eglwys i asesu os yw’r sawl yn gymwys yn ôl “cyfarwyddyd” y Beibl.
  • Gweddïo, drwy arddodi dwylo, y bydd yr Ysbryd Glan yn nerthu gwaith yr henuriad.

Mae yna stori wych am Stuart Bell, Rheithor Aberystwyth, yn codi ar ei draed yng nghanol trafodaeth am ordeinio yng Nghorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru rai blynyddoedd yn ôl. Meddai: “I was Ordained by the Holy Spirit, the Bishop just happened to be there!” A dyna mewn gwirionedd sy’n bwysig.

Please follow and like us: