Heddiw yw diwrnod Sant Oscar Romero, nawddsant i bawb sy’n gweithio dros heddwch a chyfiawnder. Wedi ei asasineiddio wrth ddathlu’r Offeren ar y diwrnod hwn 41 mlynedd yn ôl gan filwyr wedi eu hyfforddi gan y Gorllewin. Un o arweinwyr teología de la liberación (Diwinyddiaeth Rhyddhad) wnaeth geisio asio’r ffydd Gatholig gyda Marcsiaeth.

Roedd diwinyddiaeth rhyddhad yn ceisio brwydro yn erbyn tlodi trwy fynd i’r afael â’i wraidd, sef trachwant pechod. Wrth wneud hynny, ceisiodd weld y berthynas rhwng diwinyddiaeth Gristnogol a gweithredu gwleidyddol, yn enwedig mewn perthynas â chyfiawnder economaidd, tlodi a hawliau dynol.

Y broblem ar y pryd (fel heddiw) oedd bod pwerau gwleidyddol y byd yn hapus i Gatholigion (a phob traddodiad Cristnogol arall o ran hynny) ymarfer eu crefydd cyhyd a’u bod yn cadw at faterion ysbrydol “pur”. Ond os oedd Iesu’n Arglwydd roedd yn gorfod bod yn Arglwydd ar bob rhan o fywyd a chymdeithas ac ni cheir y gwahaniad platonaidd rhwng y materol a’r ysbrydol yn nysegeidiaeth Iesu felly allai Oscar Romero ddim peidio dod a gwerthoedd Teyrnas Dduw mewn i wleidyddiaeth a chymdeithas.

Yn yr un ffordd ac roedd Iesu’n tanseilio awdurdod pwerau gwleidyddol Jerwsalem a Rhufain ei ddydd, yr hyn arweiniodd at ei Groeshoeliad, roedd Romero hefyd yn tanseilio awdurdod milwrol El Salvador a’r gwahanol juntas drwy America Ladin oedd yn cael eu cefnogi gan y Gorllewin.

Ac felly, dangosodd Romero mewn ffordd real iawn beth roedd e’n ei olygu i ymateb i her Iesu:

“Os ydy rhywun am fy nilyn i, rhaid iddyn nhw stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill a cherdded yr un llwybr â mi. Bydd y rhai sy’n ceisio achub eu hunain yn colli’r bywyd go iawn, ond bydd y rhai hynny sy’n barod i ollwng gafael yn eu bywydau er fy mwyn i, yn dod o hyd i fywyd go iawn.”

Mathew 16:24-25

Dwi’n ymwybodol o broblemau diwinyddiaeth rhyddhad a’r perygl o drio asio Cristnogaeth gyda Marcsiaeth – cawn y drafodaeth yna rhywbryd eto – ond heddiw gadewch i ni gofio a diolch am fywyd Romero a gadael i’w fywyd – a hyd yn oed ei farwolaeth – ein hysbrydoli.

Please follow and like us: