Hoe fechan o adrodd am Rhufain i fynd yn ôl at yr etholiad. Dwi’n ceisio cadw allan o bethau am rai diwrnodau er mwyn i mi fedru gorffen fy nhraethawd ar y Piwritaniaid ond er mod i’n ceisio cadw draw nid yw’r etholiad yn cadw draw oddi wrtha i gan fod flŷd o flyers y gwahanol bleidiau wedi dod trwy’r post bore ma.

Mae yna rhywbeth rhyfedd lan da’r Democratiaid Rhyddfrydol oherwydd hyd yn hyn dy ni wedi derbyn tri taflen ganddyn nhw a does dim un ohonyn nhw yn enwi eu hymgeisydd, John Davies, nac ychwaith yn enwi dyddiad yr etholiad, 3ydd o Fai. Rwy’n cael hyn yn bizzare iawn oherwydd fod dau o’r taflenni wedi dod drwy law ‘Election Communication – Cyfathrebiad Etholiadol’ (Mae hawl gan bob Plaid gael hyd at dri postiad drwy’r post brenhinol yn y mis olaf fel dwi’n deall fydd wedi ei labeli fel ‘Election Communication – Cyfathrebiad Etholiadol’)

Maen ddiddorol nodi yn ogystal mae’r Dem Rhyddion yng Nghaerdydd sy’n hyrwyddo’r daflen nid y Dem Rhyddion yng Ngheredigion. Beth mae hyn yn ei olygu?

1. Maen dangos, o bosib, fod diffyg cefnogaeth aelodau ar lawr gwlad Ceredigion gan y Dem Rhyddion ac felly eu bod nhw wedi gorfod dibynnu ar y Blaid yn ganolog i wneud y gwaith – dydy hyn ddim yn adlewyrchu’n dda ar gyflwr y Blaid Ryddfrydol yng Ngheredigion. Ymddangos fel bod eu mis Mel ar ôl ennill 2005 trosodd.

2. Clywais si (sylwer nid honiad yw hyn, felly rwy’n osgoi enllib), fod y Dem Rhyddion yng Ngheredigion wedi gor-wario o dros £4,000 felly drwy anfon gohebiaeth allan heb enwi dyddiad yr etholiad na’i hymgeisydd maen nhw’n llwyddo i gael pethau allan heb orfod ei gynnwys yn y cyfyngiad gwariant. Eitha craff ar un olwg ond eto yn dangos y llanast sydd ar eu hymgyrch.

Byddai’n ddiddorol clywed sut bo’r Dem Rhyddion yng Ngheredigion yn esbonio hyn. Rhywbeth i’r BBC edrych i mewn iddo efallai? Beth sgen ti ddweud ar dy flog Vaughan? Tybed ydy gohebydd y BBC sydd wedi ei anfon i Geredigion am y mis, Owain Clarke, wedi pigo fyny ar yr anomali yma?

Please follow and like us: